-
20 Mai 2022Astudiaeth newydd yn chwilio am siaradwyr Cymraeg sy'n byw mewn cartrefi gofal
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe'n chwilio am help i gynnal astudiaeth unigryw o brofiad siaradwyr Cymraeg hŷn o ofal.
-
19 Mai 2022Cynhadledd ymchwil i hybu partneriaeth Prifysgol Abertawe â Grenoble a'i chysylltiadau Ewropeaidd
Bydd cysylltiadau Ewropeaidd ac ymchwil Prifysgol Abertawe ym mhob rhan o'r sefydliad yn cael eu cryfhau pan fydd ymchwilwyr sy'n gweithio yn Abertawe a Ffrainc yn cwrdd ym mis Gorffennaf, fel rhan o bartneriaeth ffyniannus ag Université Grenoble Alpes (UGA).
-
18 Mai 2022Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe ar restr fer gwobrau gyrfaoedd a chyflogadwyedd mawreddog
Mae Academi Cyflogadwyedd Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwebu am bum gwobr yng Ngwobrau Rhagoriaeth AGCAS (Association of Graduate Careers Advisory Services) 2022.
-
18 Mai 2022Diogelu plant rhag yr haul – bydd ymchwil newydd yn archwilio rôl ysgolion cynradd wrth atal canser y croen
Wrth i gyfraddau canser y croen gynyddu, gan gynnwys llawer o achosion y gellir eu hatal, bydd prosiect ymchwil newydd yn archwilio rôl ysgolion cynradd yng Nghymru ac yn asesu effeithiolrwydd polisïau diogelwch rhag yr haul wrth amddiffyn plant. Bydd y canlyniadau'n helpu i atal canser y croen yn well yng Nghymru a'r tu hwnt.
-
18 Mai 2022Carol Vorderman yn cefnogi naw bwrsariaeth i fyfyrwyr sy'n astudio Mathemateg ym Mhrifysgol Abertawe
Bydd Bwrsariaethau Mynediad at Fathemateg Carol Vorderman yn galluogi naw myfyriwr i gyrraedd addysg uwch ym Mhrifysgol Abertawe drwy gymorth ariannol ychwanegol.
-
18 Mai 2022Profion iechyd yn gwneud gwahaniaeth wrth achub bywydau pobl sydd ag anabledd dysgu
Mae ymchwilwyr o Gymru wedi canfod bod profion iechyd yn helpu pobl sydd ag anabledd dysgu i oroesi, yn enwedig y rhai sy'n dioddef o awtistiaeth neu syndrom Down.
-
16 Mai 2022Cyllid i helpu prosiect arloesol ym maes lled-ddargludyddion i gyflawni uchelgeisiau sero net
Mae cyfleuster ymchwil ac arloesi newydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi derbyn hwb cyllid gwerth bron £2.5m i gynnal prosiect a fydd yn treialu strategaethau arloesol i leihau allyriadau fel y bydd y diwydiant lled-ddargludyddion yn helpu'r sector i gyflawni ei uchelgeisiau sero net.
-
12 Mai 2022Nofel gyntaf Patricia Lockwood yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022
Mae bardd, nofelydd ac ysgrifydd o America, Patricia Lockwood, wedi ennill un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei nofel gyntaf, No One Is Talking About This (Bloomsbury Publishing).
-
12 Mai 2022Cynnydd yn ymchwil y Brifysgol sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol
Mae canlyniadau Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF2021) a gyhoeddwyd heddiw (12 Mai) yn dangos bod cyfran Prifysgol Abertawe o ymchwil sy'n arwain y ffordd yn fyd-eang ac sy'n rhagori'n rhyngwladol wedi gwella. Yn asesiad 2021, barnwyd bod 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol yn 4* (yn arwain y ffordd yn fyd-eang) neu'n 3* (yn rhagori'n rhyngwladol) – i fyny o 80% yn REF2014.
-
11 Mai 2022Canfod feirysau drwy bigiad pin
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe, Biovici Ltd ac yn y Labordy Ffisegol Cenedlaethol wedi datblygu dull i ganfod feirysau mewn cyfeintiau bach iawn.
-
11 Mai 2022Academi'r Gwyddorau Meddygol yn enwi Athro Iechyd Cyhoeddus yn Gymrawd
Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus o Brifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu gan Academi'r Gwyddorau Meddygol.
-
11 Mai 2022Gweld mwy o rywogaethau ar yr arfordir yn gwella lles – ymchwil newydd yn tanlinellu buddion bioamrywiaeth
Mae gweld nifer mawr o rywogaethau ar arfordiroedd trefol – o anifeiliaid morol i wymonau – yn debygol o wella lles pobl leol ac ymwelwyr, yn ôl ymchwil newydd gan dîm ym Mhrifysgol Abertawe. Mae'r canfyddiadau'n darparu rhagor o dystiolaeth bod bioamrywiaeth yn creu buddion pellgyrhaeddol.
-
9 Mai 2022Addysg a photensial ennill yn allweddol i boblogrwydd wrth chwilio am gariad ar-lein
Ni all arian brynu cariad ond mae'n gwneud eich proffil yn fwy atyniadol wrth chwilio am gariad ar-lein. Mae ymchwil newydd wedi datgelu bod lefel addysg ac incwm yn arbennig o bwysig, yn enwedig yn achos dynion.
-
9 Mai 2022Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli
Mae straeon byrion cwiar o Gymru, lleisiau pob dydd o bandemig Covid-19, a chyfrol fuddugol Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe eleni ymhlith y pynciau'n sy'n barod i ddifyrru cynulleidfaoedd yng Ngŵyl y Gelli wrth iddi gael ei chynnal am y 35ed tro rhwng 26 Mai a 5 Mehefin.
-
8 Mai 2022Astudiaeth newydd yn awgrymu na chyrchwyd gwasanaethau gan bedwar o bob 10 person roedd angen gofal cymdeithasol arnynt yn ystod y pandemig
Ni chyrchwyd gwasanaethau gan gynifer â phedwar o bob 10 person yng Nghymru roedd angen gofal cymdeithasol arnynt o bosib yn ystod pandemig Covid-19, yn ôl adroddiad newydd.
-
4 Mai 2022Ymchwil newydd yn dangos sut gall syrffio hybu lles y rhai sy'n goroesi anafiadau i'r ymennydd
Mae cenedlaethau o syrffwyr yn gwybod nad oes unrhyw beth tebyg i ddal y don berffaith, ond mae ymchwil newydd bellach wedi archwilio pa mor llesol y mae pŵer y môr.
-
3 Mai 2022Cymdeithas Ddysgedig Cymru'n anrhydeddu academyddion o Brifysgol Abertawe
Mae wyth academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
-
29 Ebrill 2022Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n ennill dwy wobr mewn cystadleuaeth gwyddoniaeth seneddol
Mae ymchwilydd PhD mewn cemeg wedi ennill dwy wobr yn STEM for BRITAIN, sef cystadleuaeth posteri gwyddonol fawr a gynhelir yn Senedd y DU, sydd â'r nod o roi dealltwriaeth i wleidyddion o'r gwaith ymchwil rhagorol y mae ymchwilwyr gyrfa gynnar yn ei wneud ym mhrifysgolion y DU.
-
29 Ebrill 2022Sefydliad Cymru gyfan yn gweithio i hyrwyddo iechyd a lles y genedl: Adolygu'r flwyddyn
Mae'r heriau unigryw sy'n wynebu iechyd a lles wrth i ni gyrraedd cyfnod newydd ar ôl y pandemig wedi cael eu hamlygu mewn adroddiad blynyddol a lansiwyd heddiw.
-
28 Ebrill 2022Partneru i ddarparu cyfleoedd ymchwil ac arloesi
Bydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda a Phrifysgol Abertawe yn cydweithio i helpu i wella iechyd a lles cymunedau yn y tair sir o dan gytundeb newydd.
-
28 Ebrill 2022Ymchwilwyr Abertawe'n datblygu dull newydd i atal moleciwl rhag cylchdroi drwy ddefnyddio ynni isel iawn
Mae ymchwilwyr Abertawe wedi datblygu dull newydd i atal moleciwl rhag cylchdroi drwy ddefnyddio ynni isel iawn, gan daflu goleuni newydd ar ryngweithiadau rhwng moleciwlau ac arwynebau.
-
26 Ebrill 2022Derw hynafol i daflu goleuni ar hinsawdd y 4,500 o flynyddoedd diwethaf
Bydd ymchwilwyr cyn bo hir yn gallu ail-lunio hinsawdd gogledd-orllewin Ewrop, gan gynnwys y DU, dros y 4,500 o flynyddoedd diwethaf, a dyddio adeiladau a gwrthrychau pren mewn modd mwy cywir, drwy ddadansoddi cemeg hen dderw. Gwneir hyn drwy brosiect newydd a arweinir gan Abertawe sydd newydd gael ei ddewis i dderbyn cyllid Ewropeaidd gwerth €3m.
-
26 Ebrill 2022Ymchwilydd yn ennill cyllid rhyngwladol i helpu i arloesi gofal ym maes diabetes
Mae gwaith arloesol ymchwilydd o Brifysgol Abertawe ym maes diabetes wedi'i helpu i gael hwb mawr o ran cyllid.
-
26 Ebrill 2022Ysgolion y DU yn darparu addysg annigonol am y gylchred fislifol, yn ôl astudiaeth
Mae addysg am y gylchred fislifol yn ysgolion y DU yn anghyson ac yn annigonol, ac mae athrawon yn teimlo bod ganddynt ddiffyg amser, hyder a gwybodaeth am y pwnc, yn ôl ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
-
25 Ebrill 2022Prifysgol Abertawe ar restr fer Gwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2022
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer y categori Allgymorth ac Ehangu Cyfranogiad yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni eleni.
-
22 Ebrill 2022Castell Howell ac Arena Abertawe i noddi Prifysgol Abertawe ar gyfer Varsity Cymru
Castell Howell, y cyfanwerthwr bwyd o Gymru, ac Arena Abertawe, y lleoliad digwyddiadau newydd, fydd prif noddwyr Prifysgol Abertawe wrth i Varsity Cymru ddychwelyd eleni.
-
13 Ebrill 2022Myfyrwyr entrepreneuraidd Abertawe yn hybu eu syniadau busnes drwy The Big Pitch
Cafodd syniadau busnes myfyrwyr entrepreneuraidd hwb mawr yng nghystadleuaeth flynyddol The Big Pitch Prifysgol Abertawe, wedi'i noddi gan Santander Universities.
-
12 Ebrill 2022Adolygiad newydd yn canfod bod mamau awtistig yn wynebu rhwystrau ychwanegol i fwydo ar y fron
Mae adolygiad newydd gan Brifysgol Abertawe, gan weithio gyda Phrifysgol Caint ac Autistic UK, y sefydliad nid-er-elw, wedi canfod nad yw cymorth bwydo ar y fron gan fydwragedd ac ymwelwyr iechyd yn addas i ddiwallu anghenion menywod awtistig yn aml.
-
8 Ebrill 2022Partneriaethau Prifysgol Abertawe'n cefnogi ymchwil i ddiogelu ac adfer coedwigoedd glaw
Mae ymchwilwyr blaenllaw yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg yn parhau â phartneriaeth lwyddiannus â rhaglen ymchwil flaenllaw i goedwigoedd glaw ym Morneo yn dilyn grant ymchwil newydd gwerth £330,000.
-
6 Ebrill 2022Gwobrau uchel eu bri'n cydnabod cydweithrediad rhwng Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be
Mae Prifysgol Abertawe ac Aspire2Be wedi cael cymeradwyaeth uchel yng Ngwobrau Cenedlaethol Cyflogadwyedd Israddedigion o ganlyniad i'w prosiect ar y cyd, iBroadcast.
-
6 Ebrill 2022Tablau QS o Brifysgolion y Byd fesul Pwnc 2022: Prifysgol Abertawe'n perfformio'n well nag erioed
Mae Prifysgol Abertawe wedi perfformio'n well nag erioed yn un o'r tablau mwyaf blaenllaw o brifysgolion y byd fesul pwnc a gyhoeddwyd heddiw.
-
5 Ebrill 2022Prosiect ymchwil newydd yn cymryd camau tuag at economi gylchol
Mae prosiect ymchwil â’r nod o ddod ag economi wirioneddol gylchol un cam yn agosach wedi derbyn grant ymchwil gwerth £1.2m gan y Cyngor Ymchwil Peirianneg a'r Gwyddorau Ffisegol (ESPRC).
-
1 Ebrill 2022Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n ennill £1,000 drwy gystadleuaeth Dealer Tech
Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi ennill £1,000 mewn cystadleuaeth am ei syniad i greu cronfa ddata ar-lein ar gyfer cyflenwyr, gwneuthurwyr a delwriaethau cerbydau.
-
1 Ebrill 2022Academydd o Brifysgol Abertawe'n ennill gwobr am y traethawd ymchwil gorau
Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill gwobr Agronomy am y traethawd ymchwil PhD gorau o ganlyniad i'w ymchwil i sefydlu cyfuniad newydd o ddulliau o ganfod clefydau mewn cnydau bwyd, a allai gael effaith economaidd ac amgylcheddol fyd-eang.
-
31 Mawrth 2022Y Brifysgol yn ymuno mewn dathliad arbennig o gefnogaeth Abertawe i fudwyr
Mae Prifysgol Abertawe'n gwneud cyfraniad allweddol at helpu i lywio gwybodaeth pobl ifanc am fudo mewn arddangosfa newydd unigryw yn y ddinas.
-
31 Mawrth 2022Lleisiau heb gynrychiolaeth ddigonol yn flaenllaw ar restr fer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2022
Mae'r rhestr fer ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – wedi cael ei chyhoeddi. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr fer eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
-
29 Mawrth 2022Gwella palmentydd ffordd asffalt gan ddefnyddio nanogyfansoddion mwynol wedi’u peiriannu
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Dechnegol Braunschweig wedi datblygu rhwymydd asffalt newydd ac ecogyfeillgar ar y lefel nano.
-
25 Mawrth 2022Bysedd yn dangos cysylltiad rhwng testosteron isel a derbyniadau i'r ysbyty oherwydd Covid-19
A allai hyd bysedd rhywun awgrymu pa mor sâl y gallai fod ar ôl dal Covid-19?
-
23 Mawrth 2022Prifysgol Abertawe'n llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr
Mae Prifysgol Abertawe wedi llofnodi’r Ymrwymiad i Dechnegwyr, gan ymuno â thros hanner prifysgolion y DU a sawl sefydliad ymchwil wrth gefnogi addewid i gefnogi eu technegwyr.
-
21 Mawrth 2022Gwarchod coed anferth yr Amason – ymweliad gan ddaearyddwraig o Abertawe'n casglu data allweddol ac yn sicrhau ymrwymiad gan lywodraeth
Mae daearyddwraig o Abertawe wedi dychwelyd o'r Amason yn ddiweddar ar ôl casglu data allweddol am goed anferth dros 80 metr o uchder, a ddarganfuwyd yn gyntaf gyda'i chymorth hithau yn 2018. O ganlyniad i'r gwaith hwn, mae llywodraeth y dalaith ym Mrasil wedi ymrwymo i gyhoeddi Bil i'w gwarchod hwythau a'u hamgylchoedd.
-
18 Mawrth 2022Y Brifysgol yn taflu goleuni ar bwysigrwydd ailgylchu
Dangosodd Prifysgol Abertawe ei hymrwymiad i gynaliadwyedd drwy droi'n wyrdd i ddathlu Diwrnod Ailgylchu Byd-eang.
-
17 Mawrth 2022Myfyrwyr yn teithio dros yr Iwerydd i rannu ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial
Mae myfyrwyr PhD o Brifysgol Abertawe wedi bod yn rhannu eu hymchwil arloesol i ddeallusrwydd artiffisial â chydweithwyr yn America.
-
13 Mawrth 2022Dyfarniadau Cwmni Lifrai Cymru yn hybu ymchwil i sglerosis ymledol a bywyd morol
Mae dau ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill ysgoloriaethau teithio gan Gwmni Anrhydeddus Lifrai Cymru, a fydd yn rhoi cyfle iddynt ddatblygu eu gwaith ymchwil a'i rannu gydag arbenigwyr eraill.
-
11 Mawrth 2022Datganiad yr Is-ganghellor am Wcráin
Ym Mhrifysgol Abertawe, rydym yn ymuno â phrifysgolion a sefydliadau academaidd ledled y byd wrth gondemnio'n ddiamwys benderfyniad gwladwriaeth Rwsia i ymosod ar Wcráin.
-
11 Mawrth 2022Ymweliad brenhinol â chyfleuster ymchwil sy'n newid bywydau yn Abertawe
Ymwelodd Ei Huchelder Iarlles Wessex, noddwr The Scar Free Foundation, â'r rhaglen ymchwil adlunio wynebau blaenllaw ym Mhrifysgol Abertawe, gan gwrdd â chleifion a allai elwa o'r astudiaethau arloesol hyn.
-
9 Mawrth 2022Ymweliad â swyddogion diwylliannol yn hybu cysylltiadau Abertawe ag Oman a Qatar
Cysylltiadau cryfach ag Oman a Qatar oedd testun y trafodaethau yn ystod ymweliad gan uwch-gynrychiolwyr Prifysgol Abertawe â swyddfeydd Swyddogion Diwylliannol y ddwy wlad yn Llundain.
-
8 Mawrth 2022Diwydiannau gwyrddach – peirianwyr cemegol yn canfod ffyrdd newydd o ailddefnyddio carbon er mwyn mynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd
Mae peirianwyr cemegol o Brifysgol Abertawe'n dod o hyd i ffyrdd newydd o ddal ac ailddefnyddio carbon drwy greu cynhyrchion newydd er mwyn helpu i fynd i'r afael â'r argyfwng hinsawdd.
-
4 Mawrth 2022Astudiaeth newydd yn archwilio sut gallai llygryddion dan do effeithio ar iechyd plant
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio astudiaeth fawr i ddarganfod sut mae llygryddion pob dydd yn effeithio ar ddatblygiad ac iechyd ffetysau a phlant.
-
3 Mawrth 2022Astudiaeth yn darganfod bod newyddion rhwydweithiau'r DU yn rhoi mwy o sylw i faterion datganoledig o ganlyniad i bandemig Covid-19
Mae astudiaeth newydd a gomisiynwyd gan Ofcom wedi datgelu bod darparwyr newyddion rhwydweithiau'r DU wedi rhoi mwy o sylw i bynciau datganoledig, yn bennaf o ganlyniad i'r pandemig.
-
3 Mawrth 2022Diwrnod Rhyngwladol y Menywod yng nghwmni'r Farwnes Tanni Grey-Thompson
Bydd y Farwnes Tanni Grey-Thompson yn siarad am yr heriau y mae hi wedi'u hwynebu a sut mae hi wedi'u goresgyn hwy, gan ddilyn thema Diwrnod Rhyngwladol y Menywod 2022, sef #BreakTheBias.
-
3 Mawrth 2022Storio gwres yn yr haf i'w ddefnyddio yn y gaeaf – gallai ymchwil newydd i ddulliau storio ynni thermol leihau biliau a hybu ynni adnewyddadwy
Technoleg newydd a allai storio gwres am ddiwrnodau neu fisoedd hyd yn oed, gan helpu'r broses o symud tuag at sero net, yw ffocws prosiect newydd sy'n cynnwys Rhaglen Ymchwil y Ganolfan Adeiladu Gweithredol, dan arweiniad Prifysgol Abertawe, sydd newydd gael cyllid gwerth £146,000.
-
24 Chwefror 2022Gwyddonydd o Brifysgol Abertawe i gyflwyno ei ymchwil yn Senedd y DU
Bydd Thomas Spriggs, myfyriwr ymchwil PhD ym Mhrifysgol Abertawe, yn cyflwyno ei ymchwil ffiseg yn Senedd y DU, i banel llawn beirniaid arbenigol a gwleidyddion, fel un o’r ymgeiswyr yn rownd derfynol STEM for Britain 2022.
-
23 Chwefror 2022Prifysgol Abertawe yn 26ain ym Mynegai Cydraddoldeb yn y Gweithle Stonewall
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg y 100 o gyflogwyr mwyaf cynhwysol yn y DU ar gyfer staff LGBTQ+, am y chweched flwyddyn yn olynol.
-
22 Chwefror 2022Sesiynau ar-lein am ddim ar gyfer gradd ran-amser yn y dyniaethau
Os ydych yn ystyried ailgydio yn eich addysg neu'n dymuno cael blas ar astudio, bydd Prifysgol Abertawe'n cynnig cyfres o sesiynau am ddim i roi profiad uniongyrchol i chi.
-
17 Chwefror 2022Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am dechnolegau ynni adnewyddadwy chwyldroadol
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei hymchwil Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg sy'n arwain chwyldro mewn technolegau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni solar a chreu a storio gwres.
-
17 Chwefror 2022Ap newydd sy'n gallu helpu pobl ifanc i lywio eu cymunedau
Mae ap newydd wedi cael ei lansio sy'n rhoi'r cyfle i bobl ifanc werthuso eu cymunedau a helpu i'w gwella.
-
16 Chwefror 2022Athletwyr elît yn defnyddio Dillad Clyfar Prifysgol Abertawe
Mae Gweinidog Llywodraeth y DU, David TC Davies, wedi ymweld â phrosiect Campysau Bargen Ddinesig Bae Abertawe, sy’n werth £132 miliwn, i weld sut datblygwyd y dechnoleg ar gyfer Dillad Clyfar - dillad yr oedd rhai athletwyr (gan gynnwys rhai a enillodd fedalau) wedi’u gwisgo yn y gemau Olympaidd yn Tokyo y llynedd.
-
15 Chwefror 2022Prifysgol Abertawe'n helpu i wreiddio treftadaeth ddiwydiannol gyfoethog Abertawe yn y cwricwlwm
Mae Prifysgol Abertawe wedi lansio pecyn adnoddau digidol newydd ar gyfer plant rhwng 9 ac 11 oed a fydd yn helpu disgyblion i ddysgu am ddiwydiant copr rhyngwladol bwysig Abertawe wrth ddatblygu eu sgiliau llythrennedd, rhifedd a chymhwysedd digidol.
-
14 Chwefror 2022Astudiaeth yn datgelu effaith y cyfnodau clo ar iechyd meddwl pobl ifanc
Cafodd yr ail gyfnod clo o ganlyniad i Covid-19 yr effaith fwyaf ar iechyd meddwl a lles pobl ifanc ymhlith poblogaeth Cymru, yn ôl ymchwil newydd.
-
11 Chwefror 2022Covid-19: Astudiaeth yn chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru
Mae astudiaeth gan Brifysgol Abertawe'n chwilio am gyfranogwyr i archwilio agweddau'r cyhoedd at ofal cymdeithasol yng Nghymru yn dilyn pandemig Covid-19.
-
10 Chwefror 2022Arbenigwyr yn dadlau bod ymagwedd y DU at Covid-19 ymhlith plant yn ‘eithriad rhyngwladol'
Mae'r DU yn ‘eithriad rhyngwladol’ yn ei hymagwedd at ddiogelu plant rhag Covid-19, mae arbenigwyr yn dadlau yn The BMJ heddiw.
-
9 Chwefror 2022Y Brifysgol yn helpu i wella diogelwch meddyginiaethau ar ddechrau mamolaeth
Mae ymchwilwyr o Fanc Data SAIL a Phrifysgol Abertawe’n gwneud cyfraniad allweddol at brosiect rhyngwladol gwerth miliynau o bunnoedd i wella diogelwch meddyginiaethau a roddir i ddarpar famau a mamau sy'n bwydo babanod ar y fron.
-
3 Chwefror 2022Expertscape yn enwi athro o Brifysgol Abertawe yn arbenigwr mewn ymddygiad llonydd
Mae'r Athro Kelly Mackintosh o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi cael ei chydnabod fel un o arbenigwyr mwyaf blaenllaw'r byd mewn ymddygiad llonydd.
-
3 Chwefror 2022Lleisiau amrywiol a byd-eang yn flaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe
Cyhoeddir y rhestr hir ryngwladol ar gyfer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe heddiw, dydd Iau 3 Chwefror. O Sri Lanka i Trinidad, Tecsas, ac Iwerddon drwy'r Dwyrain Canol, mae'r rhestr hir eleni'n cynnwys casgliad pwerus o lenorion rhyngwladol sy'n rhoi llais i rai sydd heb gynrychiolaeth ddigonol.
-
28 Ionawr 2022Prifysgol Abertawe'n arwain yr ymchwil gyntaf o'i math sy'n archwilio gamblo a lles yn y Llu Awyr Brenhinol
Cyhoeddwyd astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe a Chronfa Les y Llu Awyr Brenhinol sy'n archwilio lles gweithlu presennol y Llu Awyr Brenhinol, gan roi pwyslais allweddol ar broblemau gamblo, y defnydd o alcohol ac iechyd meddwl.
-
28 Ionawr 2022Prifysgol Abertawe'n penodi Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod Niamh Lamond wedi cael ei phenodi'n Gofrestrydd ac yn Brif Swyddog Gweithredu, ar ôl proses recriwtio allanol gystadleuol. Mae Niamh wedi bod yn llenwi'r rôl ar sail interim ers mis Gorffennaf 2021 a bydd hi bellach yn parhau ynddi'n barhaol.
-
27 Ionawr 2022Cyllid gwerth £17 miliwn ar gyfer ymchwil data cydweithredol yng Nghymru
Bydd menter y mae Prifysgol Abertawe’n cymryd rhan ynddi sydd wedi trawsnewid sut gellir defnyddio data i roi cipolwg ar faterion cymdeithasol ac economaidd yng Nghymru yn parhau, diolch i fuddsoddiad gwerth bron £17 miliwn.
-
26 Ionawr 2022Canmol gwaith arloesol y Brifysgol i hyrwyddo pwysigrwydd economi gylchol
Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i hyrwyddo economi gylchol wedi sicrhau cydnabyddiaeth ryngwladol.
-
26 Ionawr 2022Gwyddonwyr yn defnyddio GPS i olrhain symudiadau haid o fabŵns mewn mannau trefol am y tro cyntaf
Mewn astudiaeth unigryw, mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe yn y DU a Phrifysgol Cape Town yn Ne Affrica wedi defnyddio coleri â system leoli fyd-eang (GPS) er mwyn astudio ymddygiad torfol haid o fabŵns sy'n byw ar gyrion dinas Cape Town.
-
26 Ionawr 2022Varsity Cymru'n dychwelyd ar ôl bwlch o ddwy flynedd
Ar ôl bwlch o ddwy flynedd o ganlyniad i bandemig Covid-19, mae'r dyddiad ar gyfer Varsity Cymru 2022 rhwng Prifysgol Caerdydd a Phrifysgol Abertawe wedi cael ei gadarnhau.
-
25 Ionawr 2022Sicrhau bod y cyhoedd yn cefnogi polisïau Covid-19: ffydd mewn arbenigwyr wrth i wleidyddion bolareiddio
Mae polisïau i fynd i'r afael â Covid-19 yn fwy tebygol o gael cefnogaeth eang y cyhoedd os bydd arbenigwyr neu glymbleidiau o bleidiau gwahanol, yn hytrach na gwleidyddion o un blaid yn unig, yn eu cynnig, yn ôl astudiaeth newydd o saith gwlad y cyfrannodd academydd o Brifysgol Abertawe ati.
-
24 Ionawr 2022Arbenigwyr yn pwysleisio cyfraniad lles at iechyd pobl
Amlygwyd pwysigrwydd lles a'i gyfraniad at iechyd mewn papur newydd gan academyddion o Brifysgol Abertawe.
-
24 Ionawr 2022Babanod i elwa o gronfa llaeth y fron gyntaf Cymru
Mae Prifysgol Abertawe a Bwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe wedi lansio partneriaeth newydd â'r Human Milk Foundation (HMF) a fydd yn sefydlu cronfa llaeth y fron yng Nghymru am y tro cyntaf.
-
19 Ionawr 2022Academyddion o Brifysgol Abertawe'n cefnogi ymgyrch NASA drwy fapio argaeau ar draws afonydd
Cyhoeddwyd cronfa ddata ofodol newydd o argaeau a rhwystrau eraill a adeiladwyd yn rhannol neu'n llawn ar draws afonydd mwyaf y byd.
-
14 Ionawr 2022Astudiaeth o effaith problemau iechyd meddwl a chamddefnyddio sylweddau ar gyfraddau marw pobl ifanc
Mae pobl ifanc â hanes o broblemau iechyd meddwl a chamddefnyddio alcohol a chyffuriau yn fwy tebygol o farw na'r rhai sydd â phroblem iechyd meddwl yn unig neu sy'n camddefnyddio sylweddau yn unig.
-
12 Ionawr 2022Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd yn cydnabod Athro Iechyd Cyhoeddus
Mae arbenigwr iechyd cyhoeddus a gydnabuwyd gan y Frenhines yn dweud bod ei anrhydedd yn adlewyrchu enw da Banc Data SAIL Prifysgol Abertawe.
-
11 Ionawr 2022Arbenigwyr yn datgan bod dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo wedi effeithio ar les plant
Bu'n anodd i blant ysgol uwchradd ganolbwyntio ar eu gwaith ysgol ac ymddiddori ynddo pan gyflwynwyd dysgu ar-lein yn ystod y cyfnodau clo, gan effeithio'n negyddol ar eu hyder a'u lles, yn ôl astudiaeth newydd.
-
10 Ionawr 2022Effaith ffugiadau dwfn ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr - grant gwerth €1.5m i arbenigwr o Brifysgol Abertawe
Dyfarnwyd €1.5m i arbenigwr yn y gyfraith o Brifysgol Abertawe i archwilio sut mae canfyddiadau'r cyhoedd ynghylch ffugiadau dwfn – delweddau, fideos neu sain sydd wedi cael eu trin â deallusrwydd artiffisial – yn effeithio ar hyder mewn tystiolaeth a gynhyrchir gan ddefnyddwyr o dorri hawliau dynol.
-
1 Ionawr 2022Dyfarnu CBE i'r Athro Tavi Murray yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd
Dyfarnwyd CBE i'r Athro Tavi Murray, Athro Rhewlifeg yn y Gyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, yn Rhestr Anrhydeddau'r Flwyddyn Newydd am ei gwasanaethau i ymchwil i newid yn yr hinsawdd a rhewlifeg.
-
29 Rhagfyr 2021Gall gwefru clyfar arbed £110 i yrwyr cerbydau trydan bob blwyddyn – a lleihau ôl troed carbon 20%
Gallai gyrwyr cerbydau trydan arbed £110 bob blwyddyn ar gyfartaledd – a lleihau eu hôl troed carbon 20% – drwy ddefnyddio technoleg gwefru clyfar i bweru eu ceir ar yr adegau gorau posib, yn ôl adroddiad gan dîm ymchwil sy'n cynnwys arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.
-
16 Rhagfyr 2021Defnyddio sŵn y Ddaear i weld o dan len iâ'r Ynys Las – ymchwil newydd yn rhoi'r darlun manylaf hyd yn hyn
Mae'r sŵn sy'n deillio o symudiadau'r Ddaear wedi cael ei ddefnyddio er mwyn llunio darlun manwl o'r amodau daearegol o dan len iâ'r Ynys Las a'r effaith ar lifoedd iâ, ar gyfer ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
-
15 Rhagfyr 2021Cais ar y cyd yn sicrhau cyllid ar gyfer PhD i ymchwilio i’r Gymraeg a’r cwricwlwm newydd yn y blynyddoedd cynnar
Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo i sicrhau cyllid ar gyfer PhD i ymchwilio i bwnc sy’n ymwneud â’r blynyddoedd cynnar a’r cwricwlwm newydd ar ôl cais ar y cyd â Phrifysgol Metropolitan Caerdydd a Mudiad Meithrin, elusen sy’n arbenigo ym maes gofal plant a’r blynyddoedd cynnar yng Nghymru.
-
13 Rhagfyr 2021Prifysgol Abertawe'n cael cyllid gwerth £2.4m ar gyfer ystorfa data am ddementia o safon fyd-eang
Dyfarnwyd cyllid gwerth £2.4 miliwn i Brifysgol Abertawe er mwyn parhau i ddatblygu Porth Data Dementias Platform UK (DPUK) – ystorfa data o safon fyd-eang ar gyfer ymchwil i ddementia.
-
13 Rhagfyr 2021Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2022 yn croesawu ceisiadau
Mae Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies ar gyfer ysgrifenwyr sy'n hanu o Gymru neu sy'n byw yn y wlad yn croesawu ceisiadau bellach.
-
10 Rhagfyr 2021Mam sengl a fu ar reng flaen y frwydr yn erbyn COVID-19 yn dathlu gradd meistr gyda'i merched
Mae mam sengl i ddau blentyn ifanc sydd wedi bod yn nyrs ers 14 o flynyddoedd wedi hyrwyddo ei gyrfa drwy gwblhau gradd meistr ym Mhrifysgol Abertawe yn ogystal â gweithio ar y rheng flaen.
-
9 Rhagfyr 2021Abertawe ymysg y 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer perfformiad amgylcheddol
Mae Prifysgol Abertawe'n un o'r 10 prifysgol orau yn y DU ar gyfer materion amgylcheddol a moesegol, yn ôl tabl cynghrair newydd People & Planet a gyhoeddwyd gan The Guardian.
-
8 Rhagfyr 2021Ysgolhaig Chevening yn goresgyn cyfyngiadau COVID-19 i gwblhau gradd hawliau dynol
Mae myfyriwr rhyngwladol wedi graddio gydag anrhydedd o Brifysgol Abertawe, er bod cyfyngiadau COVID-19 wedi'i atal rhag teithio i'r Deyrnas Unedig ar ddechrau ei gwrs gradd.
-
3 Rhagfyr 2021Archifau Richard Burton Prifysgol Abertawe'n cadw ei statws achrededig
Mae Archifau Richard Burton ym Mhrifysgol Abertawe, lle cedwir deunydd o bwys lleol, rhanbarthol a chenedlaethol, wedi cadw'r statws achrededig sy'n cydnabod ei safonau uchel, wrth ofalu am gofnodion gwerthfawr a sicrhau eu bod ar gael i ymchwilwyr a'r gymuned ehangach.
-
1 Rhagfyr 2021Paratoi llaeth fformiwla: prosiect sy'n canolbwyntio ar fwydo babanod yn ddiogel
Mae Prifysgol Abertawe a'r elusen maeth iechyd cyhoeddus annibynnol First Steps Nutrition Trust wedi lansio prosiect gwyddoniaeth gymunedol gydweithredol a ddatblygwyd rhwng rhieni ac ymchwilwyr i asesu diogelwch technegau paratoi llaeth fformiwla powdwr i fabanod yn y cartref.
-
30 Tachwedd 2021Y Sefydliad Ffiseg yn enwi'r Athro Lyn Evans, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, yn Gymrawd er Anrhydedd
Mae'r Sefydliad Ffiseg wedi enwi'r Athro Lyn Evans, y ffisegydd adnabyddus o Gymru, yn Gymrawd er Anrhydedd ar gyfer 2021.
-
30 Tachwedd 2021Astudiaeth yn cyflwyno fframwaith i ddeall dosbarth newydd o ddeunyddiau dellt crwm
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe wedi cyflwyno fframwaith i fesur priodoleddau materol dosbarth newydd o ddellt hecsagonol crwm dau ddimensiwn y gellid eu defnyddio wrth gynhyrchu metaddeunyddiau mecanyddol gwell at ddibenion biobeirianneg, electroneg estynadwy, lliniaru effaith gwrthdrawiadau, a robotiaid meddal.
-
25 Tachwedd 2021Prifysgol Abertawe'n ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines am dechnolegau ynni adnewyddadwy chwyldroadol
Mae Prifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Pen-blwydd y Frenhines i gydnabod ei hymchwil Gwyddor Deunyddiau a Pheirianneg sy'n arwain chwyldro mewn technolegau ynni adnewyddadwy, yn benodol ynni solar a chreu a storio gwres.
-
24 Tachwedd 2021Arbenigwr symudedd anifeiliaid o Brifysgol Abertawe'n ennill medal glodwiw am gyfraniad gwyddonol
Mae'r Athro Emily Shepard, sy'n arbenigo yn ecoleg symudedd anifeiliaid gwyllt, wedi ennill Medal Gwyddoniaeth uchel ei bri Cymdeithas Sŵoleg Llundain (ZSL), i gydnabod ei gwaith ymchwil rhagorol.
-
24 Tachwedd 2021Cyllid ychwanegol gwerth £1.73m i ehangu prosiect ym maes technoleg a defnyddiau lled-ddargludyddion
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi y bydd prosiect sy'n ymwneud â Phrifysgol Abertawe a phartneriaid eraill i ddatblygu technolegau prosesu lled-ddargludyddion o’r radd flaenaf yn cyllid ychwanegol gwerth £1.73m. Mae'r defnyddiau'n cynnwys cerbydau awtonomaidd, dyfeisiau newydd ar gyfer ynni glân, symudedd yn y dyfodol, deallusrwydd artiffisial, deunydd pacio gwell, a biosynwyryddion a synwyryddion gwisgadwy.
-
23 Tachwedd 2021Pwysigrwydd data am bresenoldeb disgyblion wrth glustnodi cymorth iechyd meddwl
Mae presenoldeb gwael yn yr ysgol yn cael effaith ar ddyfodol plentyn, yn gymdeithasol ac yn ddatblygiadol, yn ogystal â'i lwyddiant addysgol.
-
20 Tachwedd 2021Academyddion o Brifysgol Abertawe'n defnyddio'r pandemig i gyflwyno gêm arloesol i ysgolion
Mae academyddion a myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi defnyddio profiadau a dealltwriaeth o bandemig Covid-19 i ddatblygu gêm ryngweithiol ac arloesol.
-
19 Tachwedd 2021Coedwigoedd glaw'r môr – arbenigwyr Abertawe'n cyfrannu at ganllaw newydd i helpu i adfer morwellt
Mae tîm o wyddonwyr cadwraeth, gan gynnwys 11 o ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe, wedi cyhoeddi canllaw arloesol i gefnogi ymdrechion i adfer gwelyau morwellt, sy'n dal mwy o garbon na choedwigoedd glaw.
-
18 Tachwedd 2021Astudiaeth newydd yn cysylltu iselder rhieni â gwaeth iechyd meddwl a chyrhaeddiad addysgol plant
Mae plant yn fwy tebygol o ddioddef o iselder ac o beidio â chyflawni cerrig milltir addysgol os ydynt yn byw gyda rhiant sy'n dioddef o iselder, yn ôl astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn mynediad agored PLOS ONE gan Sinead Brophy o Brifysgol Abertawe a'i chydweithwyr.
-
17 Tachwedd 2021Darlith Zienkiewicz flynyddol Prifysgol Abertawe'n dychwelyd gyda darlith gyhoeddus ar-lein ar yr heriau o gyflawni'r targed sero-net
Ddydd Mercher, 24 Tachwedd, bydd Cyfadran Gwyddoniaeth a Pheirianneg Prifysgol Abertawe'n cynnal Darlith Zienkiewicz, a hynny am y pumed tro, yng nghwmni gwestai arbennig, sef y Farwnes Brown o Gaergrawnt DBE FREng FRS, Julia King.
-
16 Tachwedd 2021Barn gymysg ymhlith meddygon teulu am feddalwedd i leihau nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty
Mae astudiaeth newydd o farn a phrofiadau meddygon teulu wedi datgelu bod meddalwedd sy'n ceisio lleihau nifer y derbyniadau brys i'r ysbyty o ddefnydd a budd cyfyngedig i gleifion.
-
15 Tachwedd 2021Hambwrdd cig llwyr ailgylchadwy – deunydd pacio newydd sy'n hepgor padiau amsugnol untro
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi dyfeisio math newydd o ddeunydd pacio plastig ar gyfer cig amrwd sy'n sicrhau na fydd angen padiau na ellir eu hailgylchu y tu mewn i'r hambyrddau er mwyn amsugno'r sudd. Mae hyn yn golygu y gellir bellach ailgylchu'r holl hambwrdd pacio.
-
11 Tachwedd 2021Myfyrwyr y Cyfryngau ym Mhrifysgol Abertawe'n trafod materion byd-eang allweddol yn ystod Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
Rhoddwyd cyfle arbennig i fyfyrwyr o Adran y Cyfryngau a Chyfathrebu Prifysgol Abertawe gael profiad o ystafell newyddion byw.
-
10 Tachwedd 2021Y Mynegai Polisi Cyffuriau Byd-eang cyntaf yn cael ei gyhoeddi
Norwy, Seland Newydd, Portiwgal, y Deyrnas Unedig ac Awstralia yw'r pum gwlad fwyaf blaenllaw o ran polisïau cyffuriau trugarog sy'n seiliedig ar iechyd, yn ôl y Mynegai Polisi Cyffuriau Byd-eang (GDPI) cyntaf, a gyhoeddwyd ar 8 Tachwedd 2021 gan y Consortiwm Polisi Cyffuriau Rhyngwladol.
-
9 Tachwedd 2021Anrhydeddu ymroddiad gwirfoddolwraig i rannu rhyfeddodau'r Ganolfan Eifftaidd
Mae gwirfoddolwraig hirsefydlog wedi cael ei hanrhydeddu am ei hymroddiad i Ganolfan Eifftaidd arobryn Prifysgol Abertawe.
-
8 Tachwedd 2021Prifysgol Abertawe'n un o bedwar hyb Being Human 2021, unig ŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU
Bydd Gŵyl Being Human 2021 yn cael ei chynnal o 11 i 20 Tachwedd a bydd Prifysgol Abertawe'n un o bedwar hyb yn y DU am y seithfed flwyddyn yn olynol.
-
5 Tachwedd 2021Croesawu ymchwilydd yn ôl i rannu ei arbenigedd mewn uwchgynhadledd rithwir
Bydd ymchwil Prifysgol Abertawe i ddulliau therapiwtig o drin canser yr ofari yn cael sylw cynulleidfa fyd-eang mewn cynhadledd ar-lein rithwir yr wythnos nesaf.
-
5 Tachwedd 2021Athro Meddygaeth Frys yn derbyn anrhydedd gan brifysgol yn Nenmarc
Bydd cydweithrediad rhyngwladol sy'n cynnwys arbenigwyr o Abertawe yn rhoi hwb i ymchwil arloesol i fuddion ymarfer corff i gleifion sydd wedi cael strôc.
-
4 Tachwedd 2021Cyfarfodydd rhyngwladol i ddod ag arbenigwyr deallusrwydd artiffisial ynghyd i ddatblygu ymchwil
Bydd arbenigwyr deallusrwydd artiffisial o Brifysgol Abertawe'n rhannu eu gwybodaeth gyda chymheiriaid rhyngwladol mewn cyfres o ddigwyddiadau arbennig, gan ddechrau y mis hwn.
-
2 Tachwedd 2021Llwyddiant gwobrau triphlyg ar gyfer arbenigwr diabetes Prifysgol
Enwyd arbenigwr diabetes ym Mhrifysgol Abertawe fel enillydd deirgwaith mewn gwobrau mawr gofal iechyd yn y DU.
-
1 Tachwedd 2021Arddangosfa yn y ddinas yn dangos sut mae pobl ifanc am gael eu gweld
Bydd arddangosfa unigryw a fydd yn cynnwys gwaith celf realiti rhithwir a grëwyd gan bobl ifanc i fynegi eu teimladau am eu hiechyd meddwl yn cael ei chynnal yn Abertawe y mis hwn.
-
29 Hydref 2021Y Brifysgol yn rhannu ei harbenigedd fel rhan o brosiect ymchwil trawsatlantig
Mae Prifysgol Abertawe wedi ymuno â phrosiect rhyngwladol arloesol sy'n archwilio hanes a gwleidyddiaeth dad-ddiwydiannu.
-
28 Hydref 2021Arbenigwr yn rhybuddio y gall diffyg eglurder negeseuon llywodraethau'r DU arwain at ddiffyg cydymffurfio gan y cyhoedd os ceir cyfyngiadau eto
Wrth i arweinwyr iechyd alw ar Lywodraeth y DU i roi cynlluniau wrth gefn ar waith i ymdrin â Covid-19, mae arbenigwr blaenllaw ynghylch ymddygiad yn ystod cyfnod Covid-19 wedi rhybuddio y bydd negeseuon clir gan Lywodraeth y DU a'r llywodraethau datganoledig yn hanfodol er mwyn sicrhau y bydd y cyhoedd yn cydymffurfio ar raddfa fawr â mesurau ychwanegol os cânt eu cyflwyno.
-
27 Hydref 2021Arwain y newid i ddiwydiant sero-net: cyfleuster newydd gwerth £20m i helpu i ddatblygu economi werdd yng Nghymru
Mae cryfder ac arbenigedd de Cymru o ran arloesi ym maes dur a metelau ar fin cael hwb wrth i gyfleuster newydd gwerth £20m gael ei lansio er mwyn helpu diwydiant yn y rhanbarth i greu dyfodol carbon isel.
-
26 Hydref 2021Astudiaeth newydd: costau cymdeithasol ac economaidd cyn-aelodau o luoedd arfog y DU sy'n wynebu problemau gamblo oddeutu £600 yn uwch fesul unigolyn
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod cyn-aelodau o luoedd arfog y DU sy'n wynebu problemau gamblo yn ddrutach i'n cymdeithas o ran defnyddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol yn fwy, ymrafael â'r heddlu, colli oriau gwaith, budd-daliadau lles a dyledion trwm.
-
26 Hydref 2021Y Brifysgol yn croesawu dychweliad taith gerdded elusennol ar y traeth
Bydd taith gerdded ar y traeth i godi arian a chynyddu ymwybyddiaeth o hunanladdiad ymhlith pobl ifanc yn dychwelyd i Abertawe cyn diwedd y mis hwn.
-
26 Hydref 2021Astudiaeth yn amlygu effaith amddiffynnol bosib llaeth y fron a hylif amniotig ar amrywiolyn y Coronafeirws ymhlith menywod beichiog a babanod newydd-anedig
Mae ymchwil gydweithredol newydd gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Aberdeen wedi nodi effeithiau amddiffynnol posib yn erbyn SARS-CoV-2 yn llaeth y fron a hylif amniotig.
-
25 Hydref 2021Arolwg llesiant diweddaraf yn cynnig cyfle i rannu eich profiadau pandemig
Mae astudiaeth arloesol sy'n archwilio effaith Covid-19 ar iechyd meddwl a llesiant pobl Cymru yn apelio am ragor o wybodaeth gan y cyhoedd.
-
23 Hydref 2021Arbenigwr ecoleg yn helpu i amlygu effaith andwyol colli bioamrywiaeth yn y DU
Mae ecolegydd o Brifysgol Abertawe'n rhan o'r tîm sydd wedi creu adnodd ar-lein newydd pwysig sy'n datgelu i ba raddau y mae bioamrywiaeth ardaloedd wedi newid dros amser.
-
22 Hydref 2021Disgyblion yn ennill gwobrau am ddychmygu dyfodol y Brifysgol
Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i annog pobl ifanc sy'n frwd dros ddysgu wedi cael ei amlygu unwaith eto yng Ngŵyl Wyddoniaeth Abertawe eleni.
-
22 Hydref 2021Sganio cnydau bwyd o'r awyr yn gallu helpu i'w diogelu yn erbyn clefydau andwyol
Gallai clefydau enbyd sy'n difetha cnydau bwyd megis coffi, almon, sitrws a gwinwydd – gan gael effeithiau economaidd ac amgylcheddol byd-eang difrifol – gael eu rheoli drwy eu sganio o'r awyr ar raddfa fawr, yn ôl ymchwil gydweithredol newydd y mae Prifysgol Abertawe wedi cyfrannu ati.
-
22 Hydref 2021Datblygu chwaraewyr rygbi – fframwaith newydd Lloegr yn defnyddio arbenigedd gwyddonydd chwaraeon o Brifysgol Abertawe
Mae fframwaith newydd a lansiwyd gan Undeb Rygbi Lloegr (RFU) i ddatblygu chwaraewyr rygbi ar bob lefel wedi defnyddio arbenigedd gwyddonydd chwaraeon o Brifysgol Abertawe.
-
21 Hydref 2021Adroddiad newydd yn mynnu gweithredu i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd meddwl sy'n wynebu'r gymuned Fyddar
Yn ôl adroddiad newydd mae pobl fyddar yng Nghymru yn profi anghydraddoldebau iechyd meddwl sylweddol oherwydd bod diffyg gwasanaethau hygyrch, nid oes gwasanaeth iechyd meddwl Byddar arbenigol yng Nghymru a hyfforddiant cyfyngedig am faterion Byddar ar gyfer gweithwyr iechyd a gofal.
-
19 Hydref 2021Arbenigwr iechyd plant yn cyrraedd y rhestr fer am anrhydedd ymchwil o fri
Mae academydd o Brifysgol Abertawe yn ceisio am wobr genedlaethol am ei gwaith arloesol ym maes iechyd plant ac addysg yn ystod ei PhD.
-
15 Hydref 2021Athro’n dod yn hyrwyddwr aer glân dros Gymru
Mae arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi cael ei enwi’n un o hyrwyddwyr diweddaraf aer glân y DU.
-
14 Hydref 2021Y Brifysgol yn cael cydnabyddiaeth ddwbl am ei mannau gwyrdd rhagorol
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg mannau gwyrdd gorau'r wlad unwaith eto.
-
13 Hydref 2021Diwrnod y Byd ar gyfer Gweld: helpu pobl â nam ar y golwg ar ôl y pandemig
Er mwyn nodi Diwrnod y Byd ar gyfer Gweld (14 Hydref), mae adroddiad newydd gan dîm ymchwil o Brifysgol Abertawe wedi datgelu bod pobl dall a rhai sydd â nam ar y golwg yn dal i wynebu rhwystrau sy'n eu hatal rhag gwneud y mwyaf o wasanaethau digidol.
-
13 Hydref 2021Nyrsys dan hyfforddiant o Brifysgol Abertawe yn cystadlu am anrhydeddau o fri
Mae'r hyfforddiant rhagorol y mae Prifysgol Abertawe'n ei gynnig i nyrsys wedi cael ei amlygu unwaith eto yng Ngwobrau Student Nursing Times.
-
8 Hydref 2021Bragdy cyrfau crefft yn barod i ddefnyddio microalgâu i leihau allyriadau CO2
Mae biowyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n helpu microfragdy yng ngorllewin Cymru i leihau ei allyriadau CO2.
-
6 Hydref 2021Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi'r rhaglen ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2021
Bydd Prifysgol Abertawe, mewn partneriaeth ag Amgueddfa Genedlaethol y Glannau, yn cyflwyno Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe unwaith eto ym mis Hydref.
-
5 Hydref 2021Chwe phrosiect o Brifysgol Abertawe'n cael rhan o gyllid gwerth £6.5m ar gyfer ymchwil i achub bywydau yng Nghymru
Mae chwe ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi cael cyllid drwy Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru (HCRW) i archwilio materion sy'n amrywio o bolisïau diogelwch mewn ysgolion cynradd, i effaith Covid-19 ar bobl sy'n dioddef o epilepsi.
-
1 Hydref 2021CADR yn lansio ei ap cyntaf i gefnogi cynhwysiant digidol pobl hŷn
Mae'r Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), yn lansio eu ap cyntaf heddiw i gefnogi Diwrnod Rhyngwladol Pobl Hŷn.
-
30 Medi 2021Gwyddoniaeth Cymru yn arwain y byd wrth fynd i'r afael â'r heriau mwyaf sy'n wynebu'r blaned
Efallai fod Cymru’n wlad fach, ond rydym yn rhagori o ran ansawdd a swm yr ymchwil a wnawn yma. Mae adroddiad newydd yn tynnu sylw at gryfder penodol gwyddoniaeth yng Nghymru wrth gyfrannu at ymdrechion i gyflawni Nodau Datblygu Cynaliadwy'r Cenhedloedd Unedig.
-
29 Medi 2021Arweinwyr rhyngwladol cyfredol a chynt i agor Uwch-gynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi heddiw (30 Medi) enwau'r siaradwyr a fydd yn cymryd rhan yn niwrnod agoriadol Uwch-gynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton, a gynhelir am y tro cyntaf o 8 i 10 Tachwedd.
-
23 Medi 2021Technoleg Abertawe'n helpu athletwyr blaenllaw o Brydain i lwyddo yn Tokyo
Gwnaeth athletwyr o Brydain, gan gynnwys enillwyr medalau, ddefnyddio technoleg wisgadwy yn Tokyo a ddyluniwyd gan arbenigwyr o Brifysgol Abertawe, gyda gwresogydd inc carbon argraffedig i gadw eu cyhyrau'n gynnes cyn cystadlu.
-
21 Medi 2021Cwrs newydd i archwilio byd tecstilau'r Hen Aifft
Archwilio Gyda Mi: Tecstilau a'r Hen Aifft
Mae'r cwrs 10 wythnos ar gael i bawb a bydd yn archwilio'r dulliau gwahanol o ddylunio tecstilau a oedd yn cael eu defnyddio yn yr Hen Aifft.
-
21 Medi 2021Myfyrwraig o'r Ysgol Feddygaeth yn llwyddo mewn her ysgrifennu uchel ei bri
Mae menter sy'n ceisio hyrwyddo'r wybodaeth sydd ar gael yn eich fferyllfa leol wedi ysbrydoli myfyrwraig o Brifysgol Abertawe i ennill cystadleuaeth.
-
21 Medi 2021Dim cytundeb ymhlith y cyhoedd ynghylch pigiadau atgyfnerthu o ran Covid-19 na brechu rhag y ffliw
Mae ymchwil newydd gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe wedi tynnu sylw at ddiffyg cytundeb ymhlith y cyhoedd ynghylch pigiadau atgyfnerthu o ran Covid-19 a brechu rhag y ffliw.
-
17 Medi 2021Prifysgol Abertawe'n cyflwyno cwrs am ddim ar gyfer oedolion sy'n ddysgwyr sydd am newid cyfeiriad
Fel rhan o Wythnos Addysg Oedolion (20 - 26 Medi 2021), bydd Prifysgol Abertawe'n cynnal cwrs am ddim i annog oedolion i fagu sgiliau newydd.
-
16 Medi 2021Cyhoeddi enillydd cyntaf Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi
Alpha Evans o Lanbedr Pont Steffan sydd wedi ennill yr Ysgoloriaeth Goffa Hywel Teifi gyntaf, sy’n werth £3,000.
-
16 Medi 2021Prifysgol Abertawe i gynnal cynhadledd entrepreneuriaeth ryngwladol
Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gyhoeddi y byddwn yn cynnal Cynhadledd Addysgwyr Entrepreneuriaeth Ryngwladol (IEEC) 2022.
-
15 Medi 2021Abertawe'n cadw ei statws ymysg y 25 prifysgol orau yn y DU yn ôl The Guardian University Guide 2022
Mae Prifysgol Abertawe wedi cadw ei statws ymysg y 25 prifysgol orau yn y DU yn ôl The Guardian University Guide, gan gael ei rhestru yn y 24ain safle yn genedlaethol ac aros ar y brig yng Nghymru yn yr argraffiad diweddaraf ar gyfer 2022, a gyhoeddwyd ddydd Sadwrn 11 Medi.
-
15 Medi 2021Hillary Rodham Clinton i gynnull Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang gyda Phrifysgol Abertawe
Bydd Prifysgol Abertawe yn cynnal Uwchgynhadledd Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton am y tro cyntaf ym mis Tachwedd.
-
14 Medi 2021Awdures a anwyd yn Abertawe'n ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies
Mae Naomi Paulus wedi ennill Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2021 am ei stori Take a Bite, “darn difyr, hiraethus a phleserus” sy'n amlinellu profiad menyw ifanc, Rhian, wrth iddi ddychwelyd adref i leisiau ac arferion ei mam a'i modrybedd ar gyfer digwyddiad teuluol pwysig.
-
10 Medi 2021Y Brifysgol yn sicrhau lleoedd ychwanegol i hyfforddi rhagor o fyfyrwyr meddygaeth
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cyfle i gynnig lleoedd ychwanegol ar ei rhaglen Meddygaeth i Raddedigion fel rhan o fuddsoddiad gan Lywodraeth Cymru i gynyddu nifer y meddygon sy'n cael eu hyfforddi yng Nghymru.
-
10 Medi 2021Gwobrau uchel eu bri’n cynnwys un o raddedigion Prifysgol Abertawe ar restr fer
Mae'r British Council wedi enwi Dr Daniel Bassey, un o gyn-fyfyrwyr Prifysgol Abertawe, ar restr fer un o wobrau Study UK i gyn-fyfyrwyr ar gyfer 2021.
-
9 Medi 2021Astudiaeth yn dangos pwysigrwydd rhyngweithio cymdeithasol i bobl ifanc yng Nghymru
Mae cyfyngiadau'r pandemig wedi amharu ar addysg a gweithgarwch corfforol pobl ifanc, ynghyd â'u cyfleoedd i gymdeithasu, er mai hwy sy'n wynebu'r perygl lleiaf o gael eu heintio â Covid-19 a dioddef yr effeithiau iechyd negyddol, yn ôl y sôn.
-
8 Medi 2021Myfyrwraig PhD o’r Brifysgol wedi'i henwi'n un o'r 50 o Fenywod Gorau mewn Peirianneg
Mae Caitlin McCall, sy'n fyfyrwraig PhD mewn Peirianneg ym Mhrifysgol Abertawe, wedi'i henwi'n un o'r 50 o Fenywod Gorau mewn Peirianneg (WE50) gan Gymdeithas Peirianneg y Menywod(WES).
-
7 Medi 2021Cyllid gwerth £700,000 i ehangu hyfforddiant meddygaeth gofal sylfaenol yng ngorllewin Cymru
Mae menter gan Brifysgol Abertawe sy'n ymrwymedig i greu gweithwyr meddygol proffesiynol y genhedlaeth nesaf yng Nghymru wedi cael hwb mawr gan Lywodraeth Cymru.
-
7 Medi 2021“Fy hoff ddiwrnod erioed” – Academi STEM Technocamps yn difyrru ac yn ysbrydoli disgyblion ar ôl i'r ysgolion gau
Fel rhan o Academi STEM Technocamps yr haf hwn, gwnaeth y prosiect allgymorth a ariennir gan Lywodraeth Cymru gynnal wythnos llawn gweithgareddau difyr yn Abertawe i ysbrydoli, ysgogi ac ennyn brwdfrydedd pobl ifanc mewn pynciau STEM (gwyddoniaeth, technoleg, peirianneg a mathemateg).
-
7 Medi 2021Malaria adar yn lledaenu drwy fannau problemus byd-eang
Mae rhywogaethau o adar ledled y byd yn dioddef ac yn marw o fath o falaria ac, er nad yw'r straeniau'n heintus i bobl, maent yn lledaenu'n gyflym drwy fannau heintio problemus byd-eang.
-
3 Medi 2021Bywyd gwyllt yn ffynnu mewn gardd gymunedol newydd
Mae gardd gymunedol a grëwyd drwy gymorth biowyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi blodeuo i fod yn atyniad mawr i fywyd gwyllt.
-
2 Medi 2021Lleihau cysylltiadau uniongyrchol yn lleihau'r risg o ledaenu Covid-19 ac yn cadw ysgolion ar agor
Mae'r tebygolrwydd o gael achosion o Covid-19 a symptomau hunangofnodedig, megis anwydau, mewn ysgol yn cynyddu yn unol â nifer y cysylltiadau uniongyrchol rhwng staff ysgol gynradd a phobl y tu allan i'w haelwyd.
-
1 Medi 2021Cau'r bwlch ymgysylltu ag addysg i ofalwyr ifanc yn allweddol i wella iechyd a llesiant cenedlaethau’r dyfodol
Mewn cydweithrediad â Phrifysgol Abertawe, mae astudiaeth newydd, a gyhoeddwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru heddiw yn rhoi tystiolaeth o’r effaith negyddol y mae cyfrifoldebau gofalu yn ei chael ar gymryd rhan mewn addysg ymhlith y rhai 16 i 22 oed, a sut y mae hyn yn cael yr effaith fwyaf ar y rhai sy'n byw yn yr ardaloedd mwyaf difreintiedig.
-
25 Awst 2021Astudiaeth newydd yn datgelu bod gwenwyn wedi cyfrannu at amrywiaeth rhywogaethau pryfed a physgod
Mae amrywiaeth anhygoel pryfed a physgod, sef y grwpiau o greaduriaid di-asgwrn-cefn a fertibratau â'r nifer mwyaf o rywogaethau ym myd anifeiliaid, yn deillio'n rhannol o darddiad gwenwyn, yn ôl astudiaeth newydd o'u hesblygiad.
-
24 Awst 2021Arbenigwyr Abertawe'n flaenllaw wrth ymchwilio i feini prawf cymhwystra athletwyr trawsryweddol a DSD
Mae athletwyr o'r radd flaenaf sy'n drawsryweddol, fel Laurel Hubbard, a wnaeth godi pwysau dros Seland Newydd yn y Gemau Olympaidd, neu sy'n wahanol o ran eu datblygiad rhywiol (DSD), fel Caster Semenya, sydd wedi rhedeg dros Dde Affrica, wedi cael sylw byd-eang.
-
18 Awst 2021Hwb i ymchwil cipio carbon
Cafwyd hwb i ymchwil gwyddonwyr yn Sefydliad Ymchwil Diogelu Ynni Prifysgol Abertawe ar atebion i’r newid yn yr hinsawdd trwy dderbyn cyllid gan Ganolfan Ymchwil Cipio a Storio Carbon y Deyrnas Unedig (UKCCSRC).
-
17 Awst 2021604,000 o alwadau 999 yn ystod ton gyntaf Covid-19, gyda gofal yn amrywio'n fawr ledled y DU – arolwg ambiwlans cenedlaethol
Roedd mwy na 600,000 o alwadau 999 brys yn ystod ton gyntaf y pandemig yn ymwneud ag achosion posib o Covid-19. Anfonwyd ambiwlansys mewn oddeutu 80% o'r achosion a chludwyd 43% o'r cleifion i'r ysbyty, yn ôl arolwg mawr newydd o wasanaethau ambiwlans yn y DU.
-
15 Awst 2021COVID-19: Prifysgol Abertawe yn cyflwyno canllawiau ar gyfer teithio’n ddiogel mewn ceir
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi cyflwyno canllaw cam wrth gam i leihau cysylltiad â’r coronafeirws wrth deithio mewn car, gan gynnwys cyngor pwysig a fydd yn eich synnu ar agor ffenestri.
-
13 Awst 2021Profwyd bod ymatebwyr cyntaf a staff y GIG yn fwy gwydn yn ystod diwrnodau cyntaf y pandemig
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod ymatebwyr cyntaf a gweithwyr gofal iechyd wedi profi lefelau is o drallod seicolegol na'r boblogaeth gyffredinol yn ystod y cyfnod clo cyntaf.
-
13 Awst 2021Algorithm newydd sy'n gallu helpu i ddylunio deunyddiau cellog yn well
Mae ymchwil newydd a gyhoeddwyd yn Scientific Reports wedi datgelu bod algorithm syml ond cadarn yn gallu helpu peirianwyr i ddylunio'n well y deunyddiau cellog a ddefnyddir at ddibenion sy'n amrywio o amddiffyn a biofeddygaeth i adeileddau clyfar a'r sector awyrofod.
-
6 Awst 2021Diffyg cytundeb ymhlith y cyhoedd am frechiadau Covid-19 i blant
Mae ymchwil newydd gan arbenigwr ym Mhrifysgol Abertawe wedi amlygu i ba raddau mae aelodau o'r cyhoedd yn anghytuno am gynnig brechiadau Covid-19 i blant ai peidio.
-
4 Awst 2021Myfyriwr yn ennill £1,000 drwy gynllun Santander i gefnogi ei fusnes gemau cyfrifiadurol llawrydd
Mae myfyriwr yn ei flwyddyn gyntaf sydd hefyd yn gweithio fel cymedrolwr gemau llawrydd wedi ennill cyllid gwerth £1,000 drwy gynllun gweithwyr llawrydd Santander yn y DU er mwyn helpu i gefnogi ei waith.
-
2 Awst 2021Fideo blaengar newydd i addysgu plant am bysgod sy'n mudo
Mae tîm rhyngwladol dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi creu ffordd wahanol o addysgu pobl ifanc am bysgod sy'n mudo.
-
3 Awst 2021Ysgoloriaeth i gefnogi gwaith ymchwilydd cemeg a all helpu i wella technoleg gynaliadwy
Dyfarnwyd ysgoloriaeth i gefnogi gwaith ymchwilydd cemeg o Brifysgol Abertawe ar foleciwlau o'r enw radicalau, a allai helpu i wella effeithlonrwydd a pherfformiad technolegau megis celloedd solar a batris.
-
30 Gorffennaf 2021Gofal iechyd yn yr awyr agored ac ysbytai mwy gwyrdd – tîm o Abertawe i werthuso'r buddion
Mae ymchwilwyr o'r Ysgol Seicoleg wedi sicrhau cyllid i archwilio buddion iechyd posib creu ysbytai ecogyfeillgar cynaliadwy a rhoi gofal iechyd yn yr awyr agored.
-
29 Gorffennaf 2021Arbenigwyr Abertawe i werthuso ffyrdd newydd o helpu pobl sy'n dioddef o Covid hir
Caiff rhaglenni adfer iechyd personol eu llunio ar gyfer cleifion sy'n dioddef o Covid hir fel rhan o brosiect ymchwil newydd ar y cyd ag economegwyr iechyd o Brifysgol Abertawe, sydd newydd sicrhau cyllid gwerth £1.1m drwy lywodraeth y DU.
-
27 Gorffennaf 2021Bioargraffu celloedd dynol ar ffurf 3D yn rhan o waith ymchwil arloesol gwerth £2.5m yn y Brifysgol
Mae rhaglen ymchwil o’r radd flaenaf sy’n werth o leiaf £2.5m i weddnewid gallu llawfeddygon i adlunio cartilag trwyn a chlustiau cleifion sy'n byw gyda gwahaniaeth wynebol wedi cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe.
-
27 Gorffennaf 2021Prifysgol Abertawe yn cyfrannu at arlwy ar-lein Eisteddfod AmGen 2021
Mae Prifysgol Abertawe yn noddi'r Babell Lên ac yn cyfrannu sawl sesiwn ar-lein fel rhan o raglen Eisteddfod AmGen 2021.
-
26 Gorffennaf 2021AgorIP yn helpu i gyflwyno cyfres o lyfrau gan seicolegydd i gynulleidfa ehangach
Mae cyfres o lyfrau i helpu i ddiwallu anghenion seicolegol pobl sy'n byw gyda diabetes wedi cael hwb mawr gan arbenigwyr ym Mhrifysgol Abertawe.
-
22 Gorffennaf 2021Fferyllydd sy'n frwd dros newid gofal iechyd yn ennill ysgoloriaeth uchel ei bri
Mae fferyllydd a fagwyd mewn cymuned lle roedd mynediad at gyflenwadau gofal iechyd sylfaenol yn rhywbeth moethus wedi sicrhau ysgoloriaeth i astudio ymhellach ym Mhrifysgol Abertawe.
-
18 Gorffennaf 2021Technegau synhwyro o bell yn helpu i drin a rheoli coedwigoedd cau
Gall defnyddio technegau synhwyro datblygedig o bell helpu i ddatgelu dirywiad derw'n gynnar a rheoli llawer o glefydau eraill sy'n effeithio ar goedwigoedd ledled y byd, yn ôl ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.
-
16 Gorffennaf 2021Myfyriwr o Brifysgol Abertawe'n cyfweld â mawrion rygbi ac yn helpu pobl eraill i gyflawni eu nodau
Pan adawodd Robert Yarr yr ysgol uwchradd, roedd yn gweld mynd i brifysgol fel mater o reidrwydd yn unig. Fodd bynnag, gyda chymorth Academi Cyflogadwyedd Abertawe, mae ef wedi cael astudio wrth feithrin ei frwdfrydedd dros newyddiaduraeth chwaraeon.
-
16 Gorffennaf 2021Her ddifyr i deuluoedd yn helpu'r gymuned i archwilio amgylcheddau tanddwr
Drwy gydol mis Gorffennaf, mae creadigaethau FIRE Lab sy'n cyfuno celf a gwyddoniaeth, sef Underwater Realm, yn cael eu harddangos yn y caffi Square Peg yn Abertawe, gan ddynodi man cychwyn helfa codau QR ledled y ddinas.
-
16 Gorffennaf 2021Prifysgol Abertawe yn y 12fed safle yn y DU am foddhad myfyrwyr
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y 12fed safle am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2021.
-
15 Gorffennaf 2021Arwyddion gobeithiol ynghylch iechyd meddwl arddegwyr er bod unigrwydd a gorbryder yn helaeth o hyd
Mae'n ymddangos bod llacio'r cyfyngiadau symud wedi helpu iechyd meddwl llawer o arddegwyr ym Mhrydain, ond mae unigrwydd a gorbryder yn hynod gyffredin o hyd, yn ôl gwaith ymchwil newydd gan y Sefydliad Iechyd Meddwl a Phrifysgol Abertawe.
-
14 Gorffennaf 2021Gwlyptiroedd arfordirol naturiol yn amddiffyn rhag llifogydd yn well na'r disgwyl, yn ôl ymchwil newydd i forydau
Mae astudiaeth newydd wedi datgelu bod gwlyptiroedd arfordirol – megis morfeydd heli – yn amddiffyn rhag llifogydd hyd yn oed yn well na'r disgwyl, gan leihau'r perygl i bobl a chartrefi mewn morydau.
-
13 Gorffennaf 2021Astudiaeth newydd yn cyflwyno ateb ar gyfer adeiladu deunyddiau cellog
Mae astudiaeth newydd gan academydd o Brifysgol Abertawe wedi cyhoeddi fformiwla fathemategol newydd a fydd yn helpu peirianwyr i asesu'r pwynt pan fo deunyddiau cellog, a ddefnyddir at amrywiaeth eang o ddibenion, o awyrofod i'r diwydiant adeiladu, yn plygu ac yn ildio.
-
13 Gorffennaf 2021David Suchet yn chwarae'r brif ran yn nrama newydd athro o Brifysgol Abertawe
Mae Syr David Suchet, seren y gyfres deledu enwog Poirot, yn chwarae'r brif ran mewn drama newydd sydd wedi cael ei hysgrifennu gan Gyfarwyddwr Ysgrifennu Creadigol Prifysgol Abertawe, yr Athro David Britton.
-
12 Gorffennaf 2021Rhyddhau adroddiad am effaith y pandemig ar y Gymraeg
Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi adroddiad dilynol i’w chynhadledd ‘Gofid neu Gyfle: Y Gymraeg yn y “Normal Newydd”’, a gynhaliwyd ym mis Mawrth eleni.
-
9 Gorffennaf 2021Myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n helpu i hyrwyddo cydraddoldeb hiliol yng Nghymru
Mae myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n dweud ei dweud am ei phrofiadau ei hun o hiliaeth er mwyn helpu i sicrhau bod Cymru'n lle gwell i fyw ynddo.
-
9 Gorffennaf 2021Yr addysgwr cyntaf o'r DU i ennill gwobr uchel ei bri ym maes cyfrifiadura
Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi ennill anrhydedd dwbl oherwydd ei arbenigedd wrth addysgu systemau gwybodaeth.
-
9 Gorffennaf 2021Lansio cyfres ffilmiau newydd sy'n archwilio'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu
Bydd cyfres ffilmiau dogfen newydd sy'n archwilio'r heriau y mae Cymru'n eu hwynebu, gan ddefnyddio ymchwil academaidd, yn cael ei lansio mewn digwyddiad rhithwir – a fydd yn agored i bawb – gan un o weinidogion Cabinet Llywodraeth Cymru.
-
7 Gorffennaf 2021Gŵyl yn dychwelyd ar-lein i rannu rhyfeddodau gwyddoniaeth
Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n rhannu eu harbenigedd gyda'r gymuned mewn penwythnos arbennig llawn digwyddiadau ar-lein.
-
7 Gorffennaf 2021Prosiect celf digidol unigryw'n cael ei ddangos mewn oriel yn y ddinas
Mae prosiect celf y Brifysgol sy'n mynd ati i dynnu sylw at y cysylltiad rhwng celf a gwyddoniaeth yn rhan o arddangosfa newydd yn Oriel Mission yn Abertawe.
-
5 Gorffennaf 2021Ymchwil myfyrwraig PhD i sglerosis ymledol yn ennill cystadleuaeth Thesis Tair Munud Prifysgol Abertawe
Mae myfyrwraig PhD o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi ennill cystadleuaeth Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.
-
5 Gorffennaf 2021Oriel Science yn croesawu ymweliad cyntaf gan ysgol â'i lleoliad arddangos newydd
Mae Oriel Science Prifysgol Abertawe wedi croesawu'r ysgol gyntaf i ymweld â'i lleoliad arddangos newydd yng nghanol y ddinas.
-
2 Gorffennaf 2021Myfyriwr o Brifysgol Abertawe a thechnolegwyr yn helpu Stryd Downing i lansio ymgyrch sero-net
Ar 4 Mehefin 2021, gwnaeth yr arbenigwyr technoleg o Lanelli Vindico ICS Ltd gynrychioli busnesau bach yn Stryd Downing i lansio Together for Our Planet, ymgyrch genedlaethol a gyflwynir ledled y DU yn ystod y cyfnod cyn Cynhadledd y Cenhedloedd Unedig ar Newid yn yr Hinsawdd (COP26) ym mis Tachwedd.
-
2 Gorffennaf 2021Prifysgol Abertawe'n penodi Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Interim
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi bod Niamh Lamond wedi cael ei phenodi i'r swydd Cofrestrydd a Phrif Swyddog Gweithredu Interim.
-
1 Gorffennaf 2021Contractau newydd yn sicrhau lle canolog y Brifysgol ym maes addysg gofal iechyd Cymru yn y dyfodol
Bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i gyflawni rôl allweddol wrth hyfforddi gweithlu gofal iechyd y dyfodol dros y degawd nesaf.
-
1 Gorffennaf 2021Prifysgol Abertawe yn croesawu Dirprwy Is-ganghellor newydd i ganolbwyntio ar faterion rhyngwladol
Bydd Prifysgol Abertawe yn croesawu'r Athro Judith Lamie i'w huwch-dîm arweinyddiaeth fel Dirprwy Is-ganghellor newydd â chyfrifoldeb am bortffolio rhyngwladol y brifysgol.
-
30 Mehefin 2021Prifysgol Abertawe'n cynnal digwyddiad am ddim i annog oedolion i ddechrau ar drywydd addysg uwch
Cynhelir digwyddiad am ddim a fydd yn dangos yr hyn y gallai addysg mewn prifysgol ei gynnig yng nghanol dinas Abertawe ddydd Mawrth, 6 Gorffennaf.
-
29 Mehefin 2021Technoleg a phartneriaethau newydd i helpu gwyddonwyr sy'n wynebu heriau byd-eang difrifol
Bydd Prifysgol Abertawe a Diamond Light Source yn manteisio ar dechnoleg pelydru nanoronynnau arloesol.
-
29 Mehefin 2021Cyhoeddi rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies
Mae awdur i blant, enillydd cyntaf Gwobr Awduron Ifanc y BBC, ac enillydd blaenorol Gwobr Ryngwladol Colm Tóibín ymhlith y 12 awdur sydd wedi cyrraedd rhestr fer Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies 2021.
-
28 Mehefin 2021Ffaroaid, siarcod crocodeil a baw pryfed – enillwyr cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2021 wedi'u cyhoeddi
Mae 17 o luniau trawiadol, a'r straeon difyr sydd y tu ôl iddynt – darganfyddiad annisgwyl y tu mewn i siarc crocodeil, rhewlifoedd Antarctig sy'n symud, a defnyddio baw pryfed mewn ffyrdd anrhagweledig – wedi cael eu datgelu heddiw fel enillwyr cystadleuaeth Ymchwil fel Celf 2021.
-
24 Mehefin 2021Prifysgol Abertawe'n cynnal cynhadledd ryngwladol fawr ar gerfluniau a chofebion
Ym mis Mehefin 2020, gwnaeth protestwyr ddymchwel cerflun o'r caethfasnachwr Edward Colston o'i blinth ym Mryste, gan ysgogi trafodaethau am gerfluniau dadleuol a gafodd gryn sylw yng Nghymru ac ym mhedwar ban byd. Flwyddyn yn ddiweddarach, y materion hynny fydd prif destun cynhadledd ryngwladol fawr sydd wedi cael ei threfnu gan academyddion ym Mhrifysgol Abertawe.
-
23 Mehefin 2021Prifysgol Abertawe'n cipio gwobr arian Whatuni am Amrywiaeth a Chynhwysiant
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei chydnabod am ei rhagoriaeth o ran amrywiaeth a chynhwysiant yn ystod y pandemig, wrth iddi ennill gwobr arian yng Ngwobrau Dewis Myfyrwyr Whatuni 2021.
-
23 Mehefin 2021Rhwydwaith ymchwil peirianneg Cymru gyfan yn sicrhau cyllid i barhau â'i waith
Mae rhwydwaith ymchwil Cymru gyfan mewn peirianneg a deunyddiau uwch, dan arweiniad athro peirianneg o Brifysgol Abertawe, wedi cael cyllid am yr eildro a fydd yn ei alluogi i barhau â'i waith am ddwy flynedd arall.
-
23 Mehefin 2021Pandemig COVID-19: Adroddiad newydd yn nodi arferion arloesol y GIG
Adroddiad yn cyfleu’r gwersi a’r arferion arloesol sy’n dod i’r amlwg ar draws GIG Cymru mewn ymateb i bandemig COVID-19.
-
22 Mehefin 2021Gwella palmantau ffordd asffalt gyda nanoronynnau wedi'u peiriannu
Mae asffalt cymysgedd cynnes (WMA) wrthi'n denu sylw yn y diwydiant asffalt fel technoleg eco-gyfeillgar a chynaliadwy.
-
21 Mehefin 2021Arwr pêl-droed yn rhannu profiad ymarferol o fyw gyda diabetes mewn sesiwn holi ac ateb ar-lein
Bydd Jordan Morris, pêl-droediwr rhyngwladol o'r Unol Daleithiau a fu gynt yn un o sêr clwb Dinas Abertawe, yn ymuno â Phrifysgol Abertawe i drafod sut mae'n cydbwyso gyrfa ar y brig ym maes chwaraeon â gofynion diabetes math 1.
-
18 Mehefin 2021Gwaith mathemategydd o Brifysgol Abertawe yn cael ei gyhoeddi mewn cyfnodolyn uchel ei fri
Mae papur gan Grigory Garkusha o Brifysgol Abertawe newydd gael ei gyhoeddi gan un o’r cyfnodolion mathemateg uchaf ei fri yn y byd.
-
15 Mehefin 2021Yr Ysgol Feddygaeth yn barod i groesawu myfyrwyr wrth i bartneriaeth â Chanada dyfu
Mae Prifysgol Abertawe'n adeiladu ar ei gwaith cydweithredol llwyddiannus gyda Phrifysgol Trent yng Nghanada drwy lansio cyfle ychwanegol i astudio ar ddwy ochr yr Iwerydd.
-
14 Mehefin 2021Squirty Voter: Ffordd flaengar o gasglu adborth y cyhoedd sy'n cydymffurfio â chyfyngiadau Covid-19
Mae ymchwilwyr yn Ffowndri Gyfrifiadol Prifysgol Abertawe wrthi'n rhannu dyfais newydd, rad sy'n cyfuno cysyniad peiriant pleidleisio cyhoeddus traddodiadol â chyfleuster diheintio dwylo awtomatig.
-
11 Mehefin 2021Anrhydeddu darlithydd am ei gyfraniad eithriadol at addysgu ffarmacoleg
Mae academydd o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cael ei anrhydeddu am ei ddulliau addysgu arloesol a'i gyfraniad at y maes.
-
10 Mehefin 2021Lansio partneriaeth newydd â Phrifysgol Canberra mewn Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff
Mae arbenigwyr gwyddorau chwaraeon ac ymarfer corff o Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Canberra yn Awstralia wedi lansio partneriaeth swyddogol i gydweithredu ar ymchwil, addysgu a chyfnewid myfyrwyr.
-
10 Mehefin 2021Prifysgol Abertawe'n dringo i'r 440fed safle yn rhestr 2022 QS o brifysgolion gorau'r byd
Mae Prifysgol Abertawe wedi dringo i'r 440fed safle yn y rhestr ddiweddaraf o brifysgolion gorau'r byd a gyhoeddwyd gan y corff mwyaf blaenllaw ym maes graddio prifysgolion. Mae hi wedi dringo mwy o safleoedd nag unrhyw brifysgol arall yng Nghymru eleni.
-
9 Mehefin 2021Prifysgol Abertawe'n cyrraedd 30 uchaf prif dabl y Complete University Guide
Mae Prifysgol Abertawe wedi dringo i'w safle uchaf erioed yn nhablau cynghrair 2022 y Complete University Guide – gan gyrraedd y 30 uchaf.
-
9 Mehefin 2021Arolwg i archwilio iechyd a lles penaethiaid ac uwch aelodau staff arwain yn ystod Covid-19
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn galw ar benaethiaid ac uwch aelodau staff arwain i lenwi arolwg ynglŷn â’u profiadau yn ystod y pandemig Covid-19.
-
7 Mehefin 2021Rôl allweddol arbenigwr ecodwristiaeth yn uwchgynhadledd rithwir Diwrnod Cefnforoedd y Byd
Bydd Carl Cater, arbenigwr ecodwristiaeth Prifysgol Abertawe, yn cymryd rhan mewn digwyddiad byd-eang i nodi Diwrnod Cefnforoedd y Byd y Cenhedloedd Unedig ddydd Mawrth, 8 Mehefin.
-
6 Mehefin 2021Rhaglen rithwir am ddim i drafod dulliau creadigol o ymdrin â'r argyfwng hinsawdd
Bydd Canolfan y Celfyddydau Taliesin yn cyflwyno Newid Popeth, cyfres o drafodaethau a digwyddiadau a fydd yn archwilio rôl creadigrwydd, meddylfryd addasol ac adrodd straeon wrth oresgyn heriau’r argyfwng hinsawdd.
-
4 Mehefin 2021Myfyrwyr yn gwirfoddoli i greu pecynnau pwrpasol i roi cymorth i'r gymuned leol yn ystod y pandemig
Fel rhan o'u hymrwymiad i roi cymorth allweddol drwy gydol y pandemig, mae myfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi gwirfoddoli i greu pecynnau gweithgareddau i blant, pobl ifanc ac oedolion anabl yn y gymuned.
-
4 Mehefin 2021Ymchwil newydd i'r posibilrwydd y gallai te gwyrdd helpu i fynd i'r afael â Covid-19
Wrth i'r pandemig barhau i gael effaith andwyol ar India, mae academydd o Brifysgol Abertawe'n ymchwilio i'r posibilrwydd y gallai te gwyrdd esgor ar gyffur i fynd i'r afael â Covid-19.
-
4 Mehefin 2021Tiwtoriaid yn rhoi profiad ymarferol i fyfyrwyr peirianneg heb iddynt fynd i'r labordy
Er nad oes modd iddynt fynd i'r labordy oherwydd Covid-19, mae myfyrwyr peirianneg wedi bod yn cael profiad ymarferol hanfodol, diolch i becynnau labordy cartref sydd wedi cael eu datblygu a'u hanfon gan eu darlithwyr.
-
4 Mehefin 2021Prifysgol Abertawe'n parhau i noddi blaen crysau'r Elyrch yn ystod tymor 2021-22
Bydd Prifysgol Abertawe'n parhau i noddi blaen crysau clwb pêl-droed Dinas Abertawe yn ystod tymor 2021-22.
-
3 Mehefin 2021Ymchwil gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe sy'n ymwneud â Covid-19
Mae arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n helpu i feithrin dealltwriaeth ehangach o ymchwil sy’n ymwneud â Covid-19 yn ogystal â'r pwyslais pwysig ar frechlynnau.
-
28 Mai 2021Dyfarnwyd ysgoloriaeth MBA £20,000 i fyfyriwr rhagorol
Mae myfyriwr o Jamaica wedi curo 40 o fyfyrwyr gobeithiol eraill i ennill ysgoloriaeth lawn gwerth £20,000 i astudio ym Mhrifysgol Abertawe.
-
27 Mai 2021Athro'n cael ei benodi'n bennaeth newydd corff sy'n cynghori Llywodraeth y DU
Mae gwyddonydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe wedi cael ei benodi'n bennaeth pwyllgor cynghori allweddol gan Matt Hancock, Ysgrifennydd Iechyd Llywodraeth y DU.
-
26 Mai 2021Astudiaeth yn taflu goleuni newydd ar y cysylltiad rhwng pwysau Covid-19 a meddyliau am hunanladdiad
Mae ymchwil newydd wedi egluro ymhellach effaith Covid-19 a'r cyfyngiadau symud ar iechyd meddwl a lles pobl yng Nghymru.
-
26 Mai 2021Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi arlwy Gwyddonle-T 2021
Mae Prifysgol Abertawe yn noddi a chydlynu un o brif atyniadau Eisteddfod-T yr Urdd unwaith eto eleni, sef llwyfan GwyddonLe, gan gynnig cyfres o ddigwyddiadau byw, adnoddau, a fideos o weithgareddau addysgiadol difyr i’r teulu cyfan.
-
24 Mai 2021Seren Hollywood Michael Sheen yn ymuno â rhaglen digwyddiadau Prifysgol Abertawe yng Ngŵyl y Gelli
Bydd Prifysgol Abertawe'n cyflwyno cyfres o ddigwyddiadau yng Ngŵyl y Gelli eleni, pan ddaw llenorion a darllenwyr at ei gilydd ar gyfer llu o sgyrsiau, trafodaethau, gweithdai a pherfformiadau ar-lein ysbrydoledig o ddydd Mercher 26 Mai i ddydd Sul 6 Mehefin.
-
20 Mai 2021Astudiaeth yn datgelu'r ffactorau sy'n peri i bobl oedi cyn cael eu brechu
Mae astudiaeth gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n dangos bod damcaniaethau cynllwyn, drwgdybiaeth o'r llywodraeth a siambrau adlais ynghylch Covid-19 ymysg y ffactorau sy'n peri i bobl oedi cyn cael eu brechu.
-
19 Mai 2021Gan bwyll – taith colomen adref yn datgelu ei phatrymau hedfan
Sut mae un golomen yn cyrraedd adref? A yw'n dewis y llwybr cyflymaf, hawsaf neu fwyaf diogel?
-
19 Mai 2021Creu celloedd solar mewn modd mwy gwyrdd a diogel
Mae gwyddonwyr yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC ym Mhrifysgol Abertawe wedi darganfod ffordd o greu technoleg solar y genhedlaeth nesaf heb y toddyddion gwenwynig ac anghynaliadwy y mae eu hangen ar hyn o bryd.
-
19 Mai 2021Cymdeithas Ddysgedig Cymru yn anrhydeddu dau academydd o Brifysgol Abertawe
Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith enillwyr diweddaraf medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a gyhoeddwyd yng nghyfarfod cyffredinol blynyddol y gymdeithas ddydd Mercher, 19 Mai.
-
18 Mai 2021Myfyrwyr Prifysgol Abertawe yn llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da 2021 yr Urdd
Mae grŵp o fyfyrwyr o Brifysgol Abertawe wedi llunio Neges Heddwch ac Ewyllys Da yr Urdd eleni, sydd wedi’i seilio ar y thema ‘Cydraddoldeb i Ferched’.
-
17 Mai 2021Ymchwilwyr yn datgelu adnodd newydd i helpu i atal achosion o hunanladdiad
Mae tîm o academyddion o Gymru wedi datblygu dull newydd o helpu gweithwyr iechyd proffesiynol i wneud penderfyniadau clinigol ynghylch pobl a all fod mewn perygl o ladd eu hunain.
-
17 Mai 2021Oriel Science Prifysgol Abertawe'n agor lleoliad newydd yng nghanol y ddinas
Mae Oriel Science Prifysgol Abertawe yn ôl mewn lleoliad arddangos newydd yng nghanol dinas Abertawe a fydd yn agor ddydd Sadwrn 22 Mai.
-
14 Mai 2021Arbenigwyr y DU yn ardystio safon uchel gradd meistr Prifysgol Abertawe mewn Seiberddiogelwch
Mae safon cwrs MSc Prifysgol Abertawe mewn Seiberddiogelwch wedi cael ei hardystio’n swyddogol gan gorff arbenigol mwyaf blaenllaw'r maes yn y DU, y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol (NCSC), sy'n rhan o Bencadlys Cyfathrebu Llywodraeth y DU.
-
14 Mai 2021Dylan Thomas: miloedd o eitemau'n rhan o archif ddigidol ar-lein newydd
Mae casgliad digidol llawn llawysgrifau, nodiaduron a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r llenor o Gymru Dylan Thomas ar gael am ddim ar-lein bellach, diolch i gydweithrediad rhyngwladol.
-
13 Mai 2021Raven Leilani yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021 am ei nofel 'feiddgar' gyntaf, Luster
Mae Raven Leilani o Efrog Newydd wedi ennill un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – am ei chyfrol gyntaf ‘feiddgar’, Luster, nofel afaelgar, bryfoclyd a phoenus o ddoniol am y profiad o fod yn fenyw ddu a ddaeth i oed ers dechrau'r mileniwm yn America.
-
13 Mai 2021Abertawe ar flaen y gad wrth i ganolfan ymchwil iechyd meddwl newydd gael ei lansio
Mae gan Brifysgol Abertawe rôl flaenllaw mewn consortiwm newydd ledled y DU i ddod â data iechyd meddwl allweddol ynghyd.
-
11 Mai 2021Ymchwil yn datgelu ymagwedd newydd at ddeall ein lles
Mae'r gallu i gysylltu â phobl a meithrin ymdeimlad o berthyn yn anghenion dynol sylfaenol ond mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi archwilio sut mae'r rhain yn deillio o fwy na'n perthnasoedd personol yn unig.
-
11 Mai 2021Arbenigwr o Brifysgol Abertawe i gadeirio Grŵp Cynghori Arbenigol WADA ar Foeseg
Mae'r Asiantaeth Ryngwladol i Atal Camddefnyddio Cyffuriau mewn Chwaraeon (WADA) wedi cyhoeddi bod yr Athro Michael McNamee o'r Ysgol Gwyddorau Chwaraeon ac Ymarfer Corff wedi cael ei benodi'n Gadeirydd Grŵp Cynghori Arbenigol WADA ar Foeseg.
-
11 Mai 2021Gweithlyfrau printiedig yn gwneud pynciau STEM yn hygyrch i bob plentyn ar adegau cau ysgolion
Mae Technocamps, prosiect allgymorth Prifysgol Abertawe, yn cefnogi plant ledled Cymru sydd heb fynediad at y rhyngrwyd drwy gynhyrchu 3,000 o weithlyfrau ac adnoddau llawn gweithgareddau i'w galluogi i weithio gartref ar bynciau STEM (Gwyddoniaeth, Technoleg, Peirianneg a Mathemateg) os bydd eu hysgol ar gau oherwydd Covid-19.
-
7 Mai 2021Un o bob naw oedolyn wedi cael problemau iechyd meddwl yn ystod y pandemig, yn ôl ymchwilwyr
Mae athro o Brifysgol Abertawe wedi cyfrannu at waith ymchwil sy'n dangos bod iechyd meddwl un o bob naw oedolyn wedi bod yn wael iawn yn rheolaidd neu wedi dirywio yn ystod chwe mis cyntaf pandemig Covid-19.
-
5 Mai 2021Ymchwilwyr yn darganfod nanoblastigion a llygryddion niweidiol eraill mewn masgiau wyneb untro
Mae gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe wedi darganfod bod rhai masgiau wyneb untro yn rhyddhau llygryddion cemegol a allai fod yn beryglus pan fyddant mewn dŵr.
-
5 Mai 2021The Big Pitch yn hybu syniadau busnes myfyrwyr entrepreneuraidd
Rhoddwyd hwb mawr i syniadau busnes myfyrwyr blaengar yn ystod The Big Pitch, cystadleuaeth flynyddol y Brifysgol a noddir gan y fenter Prifysgolion Santander.
-
2 Mai 2021Pennod newydd i Harriet wrth iddi lansio cyfres o lyfrau plant
Mae un o raddedigion Prifysgol Abertawe'n gobeithio y bydd ei llyfr plant newydd yn lansio cyfres o adnoddau i geisio mynd â darllenwyr ifanc ar daith synhwyraidd.
-
29 Ebrill 2021Astudiaeth yn datgelu effaith pobl ar blanhigion y byd
Mae biowyddonydd o Brifysgol Abertawe wedi cymryd rhan mewn gwaith ymchwil sydd wedi taflu goleuni newydd ar effaith pobl ar fioamrywiaeth y Ddaear.
-
28 Ebrill 2021Prifysgol Abertawe'n cyrraedd y rhestr fer yng Ngwobrau Arferion Gorau Working Families
Mae Working Families, yr elusen cydbwyso bywyd a gwaith, wedi cyhoeddi'r ymgeiswyr terfynol ar gyfer y Gwobrau Arferion Gorau blynyddol.
-
27 Ebrill 2021Lansio gwefan newydd sy'n rhoi cyngor ar bleidleisio yn etholiad y Senedd 2021
Mae gwefan ryngweithiol newydd wedi cael ei lansio er mwyn helpu pleidleiswyr yn yr etholiad i'r Senedd sydd ar y gweill i gymharu eu blaenoriaethau o ran polisïau â safbwyntiau pleidiau ac ymgeiswyr gwleidyddol.
-
27 Ebrill 2021Academyddion Prifysgol Abertawe yn cael eu hanrhydeddu gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae deg o academyddion Prifysgol Abertawe ymhlith y newydd-ddyfodiaid i Gymrodoriaeth Cymdeithas Ddysgedig Cymru.
-
27 Ebrill 2021Prifysgol Abertawe’n dathlu 50,000 o deithiau ar feiciau Santander
Mae Prifysgol Abertawe'n dathlu'r ffaith bod cynllun rhannu beiciau Santander wedi cyrraedd carreg filltir 50,000 o deithiau. Mae'n profi bod y cynllun wedi mynd o nerth i nerth yn y ddinas ers iddo gael ei lansio yn 2018.
-
22 Ebrill 2021Academi Hywel Teifi yn noddi llwyfan Llais yng ngŵyl Tafwyl 2021
Wrth i ŵyl Tafwyl ddathlu ei phen-blwydd yn bymtheg oed eleni, mi fydd Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn noddi llwyfan Llais yr ŵyl unwaith eto eleni, gan gyflwyno cyfres o ddigwyddiadau llenyddol rhithwir i bobl o bob oed.
-
21 Ebrill 2021Hanesydd o Brifysgol Abertawe yn cael y fraint o gyrraedd rhestr fer Gwobr Hanes Wolfson 2021
Mae hanesydd o Brifysgol Abertawe wedi cyrraedd rhestr fer Gwobr Hanes Wolfson 2021. Dyma’r wobr uchaf ei bri yn y DU ar gyfer llenyddiaeth hanesyddol, sy'n dathlu llyfrau ffeithiol hanesyddol gorau'r flwyddyn ddiwethaf ac yn cynnig gwobr sy'n werth £40,000.
-
20 Ebrill 2021Llyfr newydd gan academydd yn dathlu brwdfrydedd gydol oes dros griced a ysbrydolwyd gan ei dad
Yn ogystal â bod yn llafur cariad, roedd llyfr diweddaraf darlithydd o Brifysgol Abertawe yn gyfle i dalu teyrnged i'r dyn a ysbrydolodd ei frwdfrydedd dros griced.
-
16 Ebrill 2021Darlithydd yn cael ei enwi'n athro biowyddorau addysg uwch gorau'r DU
Mae academydd o Brifysgol Abertawe a wnaeth helpu i arloesi ffyrdd o ennyn brwdfrydedd wrth addysgu gwyddoniaeth o bell yn ystod y pandemig wedi cael ei anrhydeddu gan y Gymdeithas Fioleg Frenhinol.
-
13 Ebrill 2021Peiriannydd meddalwedd o'r Brifysgol yn ennill cymrodoriaeth fawr
Mae uwch-beiriannydd meddalwedd ymchwil o Brifysgol Abertawe wedi ennill y gymrodoriaeth gyntaf a gynigiwyd gan y Cyngor Cyfleusterau Gwyddoniaeth a Thechnoleg (STFC) ym maes Peirianneg Meddalwedd Ymchwil.
-
12 Ebrill 2021Ymchwilwyr yn datblygu dull newydd o brofi cydberthyniadau cwantwm
Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe wedi cyfrannu at waith ymchwil cydweithredol rhyngwladol sydd wedi nodi techneg newydd ar gyfer profi ansawdd cydberthyniadau cwantwm.
-
1 Ebrill 2021Rhaglen gwyddor data dan arweiniad myfyrwyr yn rhoi dealltwriaeth werthfawr i elusennau
Gwnaeth 25 o fyfyrwyr PhD, gan gynnwys naw o Brifysgol Abertawe, gydweithio â thair elusen o'r DU i ddatrys problemau data o’r byd go iawn yn ystod digwyddiad cyntaf y rhaglen DataAid. Yr elusennau dan sylw oedd y Sefydliad Masnach Deg, The Diana Award a Chance to Shine.
-
11 Mai 2021Astudiaeth newydd i werthuso effeithiolrwydd gwarchod pobl rhag Covid-19
Mae gwarchod pobl dan fygythiad wedi bod yn ganolog i'r ymateb i Covid-19, ond a yw'n effeithiol? Bydd tîm ymchwil o Brifysgol Abertawe'n archwilio'r dystiolaeth i weld pa wersi y gellid eu dysgu ar gyfer y dyfodol.
-
31 Mawrth 2021Academydd o Brifysgol Abertawe yn derbyn gwobr Cyfraniad Eithriadol am wella tiwtora ym mhrifysgolion y DU
Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi derbyn gwobr Cyfraniad Eithriadol mewn cydnabyddiaeth o’i waith yn cefnogi Cymdeithas Cynghori a Thiwtora'r Deyrnas Unedig (UKAT).
-
31 Mawrth 2021Gwyddonwyr CERN yn defnyddio laserau i oeri gwrthfater yn llwyddiannus am y tro cyntaf
Mae ffisegwyr o Brifysgol Abertawe, fel aelodau blaenllaw o'r grŵp cydweithredol ALPHA yn CERN (y Sefydliad Ewropeaidd ar gyfer Ymchwil Niwclear), wedi defnyddio laserau i oeri atomau gwrth-hydrogen am y tro cyntaf. Mae'r cyflawniad arloesol yn cynhyrchu gwrthfater oerach nag erioed o'r blaen ac yn hwyluso haen newydd sbon o arbrofion, gan helpu gwyddonwyr i ddysgu mwy am wrthfater yn y dyfodol.
-
31 Mawrth 2021Ymchwil yn datgelu'r perygl parhaus ar ôl tanau tirwedd
Bob blwyddyn, amcangyfrifir bod pedwar y cant o arwyneb tir y byd sydd wedi'i orchuddio â llystyfiant yn llosgi, gan adael mwy na 250 o fegatonau o blanhigion sydd wedi cael eu carboneiddio.
-
30 Mawrth 2021Dim achosion o anhwylder gwaed prin ymhlith y bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu
Nid yw gwaith ymchwil newydd wedi nodi unrhyw achosion o anhwylder gwaed prin ymhlith y bobl yng Nghymru sydd wedi cael eu brechu yn erbyn Covid-19.
-
30 Mawrth 2021Ychwanegu arbenigedd newydd at dîm fferylliaeth y Brifysgol
Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu tri aelod newydd o staff wrth iddi barhau i baratoi i lansio ei rhaglen fferylliaeth gyntaf ym mis Medi.
-
26 Mawrth 2021Cynhesu byd-eang yn helpu rhywogaethau goresgynnol i ffynnu – astudiaeth yn modelu'r effeithiau cyfunol tebyg ar ecosystemau
Mae tymereddau byd-eang uwch yn helpu rhywogaethau goresgynnol i sefydlu eu hunain mewn ecosystemau, yn ôl gwaith ymchwil a arweinir gan fiowyddonydd o Brifysgol Abertawe.
-
25 Mawrth 2021Myfyriwr yn cael grant drwy gynllun datblygu ledled y wlad
Mae myfyriwr o Brifysgol Abertawe ymhlith pedwar myfyriwr yn unig ledled y wlad sydd wedi sicrhau grant gwerth £10,000 ar ôl cymryd rhan mewn cynllun dysgu newydd sy'n ymwneud â datblygiad personol a phroffesiynol.
-
25 Mawrth 2021Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021 yn datgelu rhestr fer amrywiol a chynhwysol o leisiau newydd beiddgar
Caiff rhestr fer un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd ar gyfer llenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – ei chyhoeddi heddiw ac mae'n llawn lleisiau newydd beiddgar sy'n herio disgwyliadau wrth archwilio'n afaelgar gysyniadau goroesi, hunaniaeth, perthyn ac ystyr bod yn rhywun ‘amgen’ yn ein byd cyfoes.
-
24 Mawrth 2021Cyllid ar gyfer cyfarpar o'r radd flaenaf i helpu i gyrraedd y targed o allyriadau carbon sero-net
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cyllid gwerth £4.8m gan Lywodraeth y DU ar gyfer cyfarpar o'r radd flaenaf i gynhyrchu dyfeisiau lled-ddargludo pŵer silicon carbid a fydd yn creu offer electroneg pŵer mwy effeithlon ar gyfer cartrefi, trafnidiaeth a diwydiant, ac yn helpu i gyflawni uchelgais y genedl i sicrhau allyriadau carbon sero-net.
-
24 Mawrth 2021Ymchwilwyr yn lansio marchnadle ar-lein i wella cadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu
Mae tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi lansio platfform digidol newydd a fydd yn trawsffurfio sut mae cadwyni cyflenwi’n gweithredu yn y diwydiant gweithgynhyrchu.
-
24 Mawrth 2021Ymchwilwyr yn lansio arolwg i archwilio'r defnydd o fasgiau wyneb yn ystod pandemig Covid-19
Mae tîm o ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe yn galw ar aelodau o'r cyhoedd i gwblhau arolwg am eu profiadau o wisgo masgiau wyneb yn ystod pandemig Covid-19.
-
23 Mawrth 2021Ymchwilwyr yn datblygu offer canfod COVID-19 ar gyfer dŵr gwastraff
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu dyfais unigryw sy’n gallu canfod COVID-19 mewn dŵr gwastraff cyffredin.
-
23 Mawrth 2021Uwchgyfrifiadur newydd i gyflymu ymchwil i'r defnydd o ddeallusrwydd artiffisial
Caiff uwchgyfrifiadur a all gyflawni 15,000 triliwn o weithrediadau fesul eiliad, sy'n 15,000 o weithiau'n fwy pwerus na chyfrifiadur bwrdd gwaith, ei osod ym Mhrifysgol Abertawe, lle bydd yn ategu ymchwil i ddeallusrwydd artiffisial mewn meysydd megis peirianneg a meddygaeth.
-
23 Mawrth 2021Prifysgol Abertawe'n cefnogi'r Diwrnod Cenedlaethol o Fyfyrdod ar 23 Mawrth 2021
Caiff Tŷ Fulton ym Mhrifysgol Abertawe ei oleuo'n felyn ddydd Mawrth 23 Mawrth fel rhan o ddiwrnod cenedlaethol i gofio'r rhai sydd wedi marw yn ystod pandemig Covid-19 ac i gefnogi'r rhai sydd wedi cael profedigaeth.
-
19 Mawrth 2021Cysylltiad rhwng Prifysgol Abertawe a thri enwebiad ar restr fer Gwobrau Dewi Sant 2021
Mae cysylltiad rhwng Prifysgol Abertawe a thri enwebiad ar restr fer Gwobrau Dewi Sant, sef gwobrau cenedlaethol Cymru, eleni.
-
18 Mawrth 2021Archif ddigidol newydd unigryw'r Brifysgol yn rhannu blwyddyn o brofiadau pob dydd o'r pandemig
Bydd archif ddigidol ar-lein sy'n llawn deunydd am brofiadau cannoedd o bobl o Covid-19 yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Abertawe ar 23 Mawrth – flwyddyn ers dechrau'r cyfnod clo cyntaf yn y DU.
-
17 Mawrth 2021Cyllid newydd yn rhoi cymorth i’r brifysgol
Bydd Prifysgol Abertawe'n neilltuo cyllid ychwanegol gwerth £1.5 miliwn i dair menter a fydd yn helpu i gynnal gallu a hybu adferiad economaidd ehangach yng nghyd-destun effaith pandemig Covid-19.
-
16 Mawrth 2021Addewid newydd i gefnogi mentrau gwyddorau bywyd arloesol yng Nghymru ac Iwerddon
Mae arbenigwyr gwyddorau bywyd o Brifysgol Abertawe yn edrych ymlaen at chwarae rôl allweddol mewn cynlluniau i feithrin cysylltiadau agosach byth rhwng Cymru ac Iwerddon.
-
16 Mawrth 2021Amser o newid; amser i newid? Cynhadledd CADR
23ain – 25ain Mawrth 2021
Bydd y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR) yn croesawu academyddion, pobl broffesiynol a’r cyhoedd i’w gynhadledd Zoom cyntaf i gydfynd â phen-blwydd cychwyn y cyfnod clo cenedlaethol.
-
11 Mawrth 2021Rhybudd am effeithiau'r pandemig ar iechyd meddwl pobl ifanc
Mae cyfyngiadau'r pandemig yn gwaethygu'r sbardunau ar gyfer hunan-niweidio ac iechyd meddwl gwael, yn ôl arbenigwyr.
-
11 Mawrth 2021Blodau Gwyllt yn llesol? Chwilio am wyddonwyr gwerin medrus ar gyfer astudiaeth yn y DU
Mae angen criw o arddwyr amatur o bob rhan o’r DU ar gyfer prosiect ymchwil newydd i edrych ar fuddiannau tyfu planhigion, gwirfoddoli a chymunedau ar-lein – gan helpu ysbytai’r GIG i flodeuo hefyd.
-
8 Mawrth 2021Ymchwilwyr yn defnyddio dronau i asesu safleoedd ynni adnewyddadwy
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n cymryd rhan mewn prosiect i dreialu dull newydd o fesur ceryntau llanw a allai weddnewid y diwydiant nwyddau adnewyddadwy morol.
-
5 Mawrth 2021Cymru yn parhau i arloesi ym maes Gofal Iechyd sy'n Seiliedig ar Werth gyda siarter nodedig
Mae Llywodraeth Cymru, Pfizer, Prifysgol Abertawe a Hwb Gwyddorau Bywyd Cymru wedi llofnodi siarter arloesol sy’n adlewyrchu’r gred gytûn y dylai Cymru fabwysiadu a darparu Gofal Iechyd sy’n Seiliedig ar Werth.
-
5 Mawrth 2021Y Brifysgol yn paratoi i groesawu myfyrwyr fferylliaeth i gyfleusterau newydd
Mae gwaith wedi dechrau i greu cyfleusterau cyfoes gwerth £2.1m ar gyfer cyrsiau fferylliaeth newydd Prifysgol Abertawe.
-
4 Mawrth 2021Archwilio effaith y pandemig ar les ac iechyd meddwl carcharorion
Caiff effaith cyfyngiadau Covid-19 ar garcharorion a charchardai ei harchwilio mewn prosiect ymchwil a arweinir gan Brifysgol Abertawe, sydd wedi cael cyllid gwerth £251,240 gan y Cyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol, i weld pa wersi y gellid eu dysgu.
-
2 Mawrth 2021Astudiaeth o effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol ac iechyd meddwl plant
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe yn archwilio effaith Covid-19 ar weithgarwch corfforol, iechyd meddwl a lles plant yng Nghymru.
-
2 Mawrth 2021Adroddiad Prifysgol Abertawe yn gwneud argymhellion swyddogol i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi yng Nghymru
Mae awdur adroddiad newydd a gafodd ei gomisiynu gan Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a'r Gymraeg Llywodraeth Cymru wedi gwneud 12 o argymhellion polisi i Lywodraeth Cymru i fynd i'r afael â'r argyfwng ail gartrefi yng Nghymru a'i effaith ar gymunedau Cymraeg.
-
1 Mawrth 2021Prifysgol Abertawe yn ymuno yn yr ymgyrch i leihau gwastraff bwyd
Mae Prifysgol Abertawe yn cefnogi'r Wythnos Gweithredu ar Wastraff Bwyd gyntaf erioed yn y DU.
-
26 Chwefror 2021Prif Weinidog Cymru yn agor Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan Prifysgol Abertawe
Gwnaeth y Gwir Anrhydeddus Mark Drakeford AS, Prif Weinidog Cymru, agor Sefydliad Astudiaethau Uwch Morgan (SAUM) yn swyddogol heddiw (dydd Gwener, 26 Chwefror) yn ystod seremoni rithwir.
-
26 Chwefror 2021Astudiaeth newydd yn tynnu sylw at bwysigrwydd cyd-destun i ddamcaniaethau ffisegol
Tynnir sylw at ymchwil gwyddonydd o Brifysgol Abertawe i nodweddion geometregol damcaniaethau ffisegol mewn papur newydd.
-
23 Chwefror 2021Gwyddonwyr yn datgan bod dull nofio pysgodyn yn datgelu cryn wybodaeth am ei bersonoliaeth
Mae personoliaeth wedi cael ei disgrifio ar gyfer mathau gwahanol o rywogaethau anifeiliaid, o forgrug i epaod. Mae rhai unigolion yn swil ac yn sefydlog, ond mae eraill yn fentrus ac yn fywiog. Nawr, mae astudiaeth newydd a gyhoeddir yn Ecology and Evolution wedi datgelu bod dull nofio pysgodyn yn rhoi llawer o wybodaeth am ei bersonoliaeth.
-
22 Chwefror 2021Ymchwil fyd-eang i effaith ymateb llywodraethau i Covid-19 ar bobl ddiamddiffyn
Mae academyddion o Brifysgol Abertawe'n cyfrannu at astudiaeth ryngwladol sy'n archwilio effaith ymatebion llywodraethau i Covid-19 ar grwpiau diamddiffyn.
-
22 Chwefror 2021Ymchwil newydd yn awgrymu y gallai deietau llawn ffrwctos niweidio'r system imiwnedd
Mae ymchwil newydd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe mewn cydweithrediad â gwyddonwyr ym Mhrifysgol Bryste ac yn Sefydliad Francis Crick yn Llundain wedi awgrymu y gallai deietau sy'n cynnwys llawer o'r siwgr ffrwctos atal systemau imiwnedd pobl rhag gweithredu'n gywir, mewn ffyrdd a fu, hyd yn hyn, yn anhysbys i raddau helaeth.
-
18 Chwefror 2021Myfyrwyr nyrsio yn rhoi cymorth technolegol i gleifion ysbyty
Mae rhai o fyfyrwyr nyrsio Prifysgol Abertawe wedi helpu cleifion mewn ysbyty yng ngorllewin Cymru i gadw mewn cysylltiad â'u hanwyliaid.
-
17 Chwefror 2021Galw am wirfoddolwyr i gyfrannu at ymchwil i chwistrell i'r trwyn a allai helpu yn erbyn Covid-19
Mae Prifysgol Abertawe'n chwilio am wirfoddolwyr o Dde Cymru i fod yn rhan o ymchwil hollbwysig i weld a allai chwistrell i'r trwyn sydd ar gael i'w phrynu helpu i amddiffyn pobl yn erbyn Covid-19.
-
17 Chwefror 2021Grant sylweddol i ddatblygu ceirch fel cynnyrch bwyd iach
Mae grant Ewropeaidd sylweddol wedi cael ei ddyfarnu i bartneriaid yng Nghymru ac Iwerddon, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, i wneud gwaith ymchwil ar ddatblygu ceirch fel cynnyrch bwyd iach a chnwd sy'n gallu gwrthsefyll yr hinsawdd.
-
16 Chwefror 2021Myfyrwyr parafeddygol yn cael brechiad wrth iddynt barhau i gefnogi gwasanaethau
Mae myfyrwyr parafeddygol Prifysgol Abertawe wedi cael brechiad yn erbyn coronafeirws wrth iddynt barhau i weithio ar reng flaen y GIG.
-
16 Chwefror 2021Teyrnged i'r Athro Hywel Francis
Mae ffrindiau di-rif Hywel Francis – yr addysgwr oedolion, yr hanesydd, yr ymgyrchydd a'r seneddwr – ym Mhrifysgol Abertawe a'r tu hwnt yn galaru ar ôl iddo farw'n 74 oed.
-
16 Chwefror 2021Penodi Llysgenhadon Addysg Uwch newydd i’r Coleg Cymraeg o Brifysgol Abertawe
Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol wedi penodi pum llysgennad newydd ar gyfer 2021 o Brifysgol Abertawe i rannu Sŵn y Stiwdants ac annog mwy o ddarpar fyfyrwyr i ymddiddori ym maes addysg uwch cyfrwng Cymraeg.
-
15 Chwefror 2021Pobl mewn ardaloedd tlawd 50% yn fwy tebygol o farw o asthma na phobl mewn ardaloedd mwy cyfoethog
Mae pobl sy'n dioddef o asthma yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru 50% yn fwy tebygol o gael eu derbyn i ysbyty ac o farw o asthma na'r rhai sy'n byw yn yr ardaloedd lleiaf difreintiedig, yn ôl astudiaeth newydd dros bum mlynedd o fwy na 100,000 o bobl.
-
12 Chwefror 2021Ymchwil yn datgelu bod angen cefnogaeth iechyd meddwl a chymorth ariannol ar bobl sy'n hunanynysu
Roedd mwy na hanner y bobl y bu'n rhaid iddynt hunanynysu yn teimlo bod hynny wedi effeithio ar eu hiechyd meddwl a dywedodd mwy na chwarter ohonynt ei fod wedi effeithio'n negyddol ar eu hincwm, yn ôl ymchwil Prifysgol Abertawe.
-
12 Chwefror 2021Arbenigwyr yn cydweithio i gadw plant yn ddiogel ar-lein
Mae Prifysgol Abertawe'n arwain y frwydr yn erbyn camfanteisio'n rhywiol ar blant ar-lein ar ôl cael cyllid sylweddol am brosiect arloesol newydd sy'n canolbwyntio ar atal perthnasoedd amhriodol ar-lein.
-
12 Chwefror 2021Prosiect newydd ar y cyd yn ceisio CYSYLLTU myfyrwyr mewn prifysgolion
Mae prosiect newydd ar y cyd sydd am gefnogi myfyrwyr sy'n teimlo'n unig ac yn ynysig wedi cael ei lansio gan Brifysgol Abertawe a Phrifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant (PCYDDS).
-
11 Chwefror 2021Cyfarwyddwr Gwyddor Data Poblogaeth wedi ei gydnabod am ei ddylanwad ar faes data
Mae rhestr DataIQ 100 ar gyfer 2021 yn cydnabod bod yr Athro David Ford, Cyfarwyddwr y Grŵp Gwyddor Data Poblogaeth ym Mhrifysgol Abertawe, ymhlith y bobl fwyaf dylanwadol ym maes data a dadansoddeg.
-
10 Chwefror 2021Ymchwil Hydrogen Gwyrdd yn Helpu Diwydiant i Leihau Allyriadau Carbon
Fel rhan o drefniant cydweithio rhwng ymchwilwyr yn y Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe a’r cynhyrchydd sment, Hanson UK, mae uned arddangos newydd ar gyfer hydrogen gwyrdd wedi cael ei gosod yng ngwaith Regen GGBS y cwmni ym Mhort Talbot, De Cymru.
-
10 Chwefror 2021Cyfnod ymgeisio ar gyfer ysgoloriaeth newydd er cof am gyfraniad Hywel Teifi Edwards ar agor
Mae Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn galw ar fyfyrwyr sydd am astudio ar gyfer gradd ymchwil ôl-radd trwy gyfrwng y Gymraeg i wneud cais am ysgoloriaeth newydd er cof am yr Athro Hywel Teifi Edwards.
-
9 Chwefror 2021Bysedd plant yn dangos lefel incwm mamau a chlefydau sy'n dechrau yn y groth
Mae mamau sy'n ennill incwm isel yn benyweiddio eu plant yn y groth drwy addasu eu hormonau, ond mae mamau sy'n ennill incwm uchel yn gwryweiddio eu plant, yn ôl astudiaeth fawr sy'n seiliedig ar hyd bysedd, dan arweiniad arbenigwr o Brifysgol Abertawe.
-
4 Chwefror 2021Hillary Clinton yn ymestyn ei rhaglen ysgoloriaethau mewn partneriaeth â Sky a Phrifysgol Abertawe
Mae cyn-ysgrifennydd gwladol yr Unol Daleithiau Hillary Clinton wedi cyhoeddi bod Rhaglen Heriau Byd-eang Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe wedi cael ei hymestyn i gynnwys pum ysgolhaig arall.
-
4 Chwefror 2021Cyfarwyddyd arbenigol newydd ar ymarfer corff diogel i gleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon a diabetes
Bydd cleifion sy'n dioddef o glefyd ar y galon ynghyd â diabetes yn gallu gwneud eu hymarferion adfer yn fwy diogel, diolch i gyfarwyddyd cyntaf y byd ar y pwnc, a gyhoeddwyd gan academydd o Brifysgol Abertawe ac arbenigwyr rhyngwladol eraill.
-
3 Chwefror 2021Cyfle newydd i rannu profiadau o fyw yn ystod pandemig
Wrth i'r pandemig barhau i reoli ein bywydau, gofynnir i bobl yng Nghymru rannu eu profiadau fel rhan o ymchwil barhaus i'r ffordd y maent yn ymdopi â'r argyfwng coronafeirws.
-
2 Chwefror 2021Arbenigwr yn profi dull newydd o arsylwi plant yn chwarae
Mae astudiaeth o’r camau y mae plant yn mynd drwyddynt wrth iddynt gyd chwarae yn cael eu hamlygu mewn ymchwil newydd gan academydd ym Mhrifysgol Abertawe.
-
1 Chwefror 2021Y Brifysgol yn helpu mwy na 250 o ddisgyblion i barhau i ddarllen
Mae disgyblion Blwyddyn 7 mewn dwy ysgol leol wedi cael eu hannog i ddarllen ac i hybu eu llythrennedd yn ystod y cyfyngiadau symud, diolch i brosiect Prifysgol Abertawe.
-
1 Chwefror 2021Angen rhoi mesurau rheoli ar waith er mwyn atal cregyn gleision rhesog rhag heidio i Brydain Fawr
Yn ôl ymchwil newydd gan wyddonwyr o Brifysgol Abertawe, mae rampiau cychod yn helpu cregyn gleision rhesog (Dreissena polymorpha) hynod ymledol i fynd ar led. Er mwyn atal y rhywogaeth hon rhag ymledu, mae Dr Marta Rodriguez-Rey a'i chyd-awduron yn awgrymu yn yr astudiaeth newydd y dylid rhoi mesurau rheoli llym ar waith a monitro rampiau cychod penodol.
-
27 Ionawr 2021Arbenigwyr yn galw am ymagwedd fwy pragmataidd at addysgu ym maes addysg uwch
Gallai miliynau o fyfyrwyr ledled y byd fod ar eu hennill pe bai eu haddysgwyr yn mabwysiadu ymagwedd fwy hyblyg ac ymarferol, yn ôl arbenigwyr o Brifysgol Abertawe.
-
27 Ionawr 2021Cofio trychinebau yng Nghymru ac yn Ffrainc – astudiaeth newydd yn galw am wirfoddolwyr
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe yn gofyn am wirfoddolwyr o Gymru i rannu eu hatgofion o drychinebau yn y gorffennol ar gyfer astudiaeth newydd a fydd yn edrych ar y ffordd y mae pobl sy'n byw yng Nghymru ac yn Ffrainc yn ymdrin â'r atgofion hyn.
-
27 Ionawr 2021Arbenigwyr byd-eang yn uno i drafod breuddwyd hanesyddol Dora, un o gleifion Freud
Bydd Mark Blagrove, arbenigwr cwsg Prifysgol Abertawe, yn cyflwyno digwyddiad arbennig i gofio achlysur arwyddocaol yn hanes dadansoddi breuddwydion.
-
25 Ionawr 2021Prifysgol Abertawe a Faradair Aerospace yn cryfhau eu perthynas ar gyfer adfywiad awyrofod y DU
Mae Prifysgol Abertawe wedi cryfhau eu perthynas â Faradair Aerospace, a fydd yn ailgyflwyno maes cynhyrchu awyrennau ar raddfa fawr yn y DU, gyda chynlluniau i gynhyrchu 300 o awyrennau cynaliadwy wedi'u dylunio ym Mhrydain erbyn 2030.
-
22 Ionawr 2021Bydwreigiaeth yw her nesaf Tirion ar ôl iddi fachu gwobr fawr
Roedd yr hyfforddwraig rygbi Tirion Thomas yn falch o gael ei hanrhydeddu am ei hymroddiad i chwaraeon, ond mae hi bellach yn rhoi'r un ymrwymiad i'w gyrfa hirdymor ag y mae i bob gêm.
-
22 Ionawr 2021A wnaeth cobraod poerllyd ddatblygu gwenwyn poenus i amddiffyn yn erbyn ein cyndeidiau?
Gwnaeth gallu rhai cobraod i boeri eu gwenwyn, sy'n unigryw ymysg nadroedd, ddatblygu fel mecanwaith amddiffynnol i achosi poen yn hytrach nag i ddal ysglyfaethau, yn ôl ymchwil newydd gan dîm sy'n cynnwys ymchwilydd o Brifysgol Abertawe.
-
21 Ionawr 2021Cysylltiad rhwng gordewdra ac amddifadedd a chynnydd mawr mewn anhwylder pwysedd yr ymennydd
Mae chwe gwaith cynifer o achosion o anhwylder pwysedd yr ymennydd – sy'n effeithio ar fenywod yn bennaf, gan achosi cur pen a cholli golwg yn barhaol weithiau – na'r cyfanswm 15 mlynedd yn ôl, ac mae cysylltiad rhyngddo a gordewdra ac amddifadedd, yn ôl ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.
-
21 Ionawr 2021Pridd o Iwerddon yn cynnig gobaith yn y frwydr yn erbyn ymwrthedd i wrthfiotigau
Mae'r gwyddonwyr a dynnodd sylw at nodweddion trechu heintiau bacteria yn y pridd yng Ngogledd Iwerddon wedi gwneud darganfyddiad cyffrous arall yn yr ymdrech i ddod o hyd i wrthfiotigau newydd.
-
21 Ionawr 2021Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2021: Rhestr hir llawn llyfrau cyntaf a lleisiau benywaidd
Caiff y rhestr hir ryngwladol ar gyfer un o wobrau llenyddol mwyaf y byd i lenorion ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – ei chyhoeddi heddiw, ac mae'n cynnwys naw llyfr cyntaf, y nifer mwyaf erioed.
-
20 Ionawr 2021Profi, Olrhain a Diogelu yng Nghymru: galw am gyfranogwyr mewn astudiaeth i ddeall yn well y cymorth y mae ei angen ar bobl i hunanynysu
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi cael eu comisiynu gan y Senedd i archwilio profiadau pobl o gael gwybod gan y gwasanaeth Profi, Olrhain a Diogelu fod yn rhaid iddynt hunanynysu.
-
20 Ionawr 2021Mwy o glod i brosiect Copperopolis – cynnwys cymunedau yn hanes Abertawe
Mae prosiect Copperopolis, sydd wrth wraidd y broses o adfywio gwaith copr yr Hafod-Morfa, wedi cael ei ddewis fel esiampl o'r ffordd y mae prifysgolion ledled Cymru yn gweithio gyda'u cymunedau, gan greu manteision cymdeithasol ac economaidd.
-
20 Ionawr 2021Tîm Abertawe yn helpu cwmni i ailgylchu hen gynnyrch i greu cetris inc newydd
Mae rhaglen ASTUTE 2020, sy’n cael ei hariannu gan yr UE, ac sy’n rhan o Brifysgol Abertawe, wedi darparu cefnogaeth Ymchwil, Datblygu ac Arloesi (RD&I) diwydiannol i helpu Brother Industries (U.K) Ltd. i gynhyrchu cetrisen inc gyntaf brand Brother a gynhyrchwyd o ddeunyddiau wedi’u hailgylchu a adferwyd o gynnyrch Diwedd Oes.
-
20 Ionawr 2021Ymchwilydd yn cael cydnabyddiaeth am geisio atebion cynaliadwy
Mae ymchwilydd o Brifysgol Abertawe wedi cael cydnabyddiaeth ryngwladol am ei waith ym maes datgarboneiddio diwydiannol.
-
20 Ionawr 2021Adeiladau Ynni Gweithredol yn India i gyflwyno ynni solar glân i gymunedau nad ydynt ar y grid
Bydd adeiladau ynni gweithredol – sy'n cynhyrchu, yn storio ac yn rhyddhau eu hynni solar eu hunain – yn cael eu hadeiladu yn India, gan helpu rhai o'r 600,000 o bentrefi yn y wlad sy'n cael problemau gyda chyflenwad trydan.
-
13 Ionawr 2021Astudiaeth sy'n ymchwilio i alcohol yn cael grant gan elusen
Mae prosiect o Brifysgol Abertawe wedi cael cyllid i ymchwilio i'r defnydd o alcohol gan bobl o gefndiroedd sipsiwn, Roma a theithwyr.
-
12 Ionawr 2021Brechlyn clwtyn clyfar cyntaf y byd ar gyfer COVID-19 a fydd yn mesur effeithiolrwydd
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wrthi'n datblygu'r ddyfais glyfar gyntaf a fydd yn cyflwyno brechlyn COVID-19 ac yn mesur ei effeithiolrwydd drwy fonitro ymateb cysylltiedig y corff.
-
11 Ionawr 2021Gallai monitro syml leihau camddefnyddio meddyginiaeth mewn cartrefi gofal
Awgryma ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe bod system fonitro meddyginiaethau syml dan arweiniad nyrs neu ofalwr yn gallu helpu i leihau salwch yn ymwneud â meddyginiaeth ar gyfer pobl sy’n byw mewn cartrefi gofal preswyl – ac mae’r broses ond yn cymryd ychydig funudau ar gyfer pob claf.
-
7 Ionawr 2021Y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol yn achredu cyrsiau
Mae dau o gyrsiau Prifysgol Abertawe ymysg y cymwysterau ôl-raddedig cyntaf i gael eu hachredu gan y Gymdeithas Ddaearyddol Frenhinol.
-
7 Ionawr 2021Penodi athro o Brifysgol Abertawe yn gyfarwyddwr canolfan ffiseg niwclear Ewropeaidd
Mae'r Athro Gert Aarts FLSW, o Adran Ffiseg Prifysgol Abertawe, wedi cael ei benodi'n Gyfarwyddwr Interim Canolfan Ewrop ar gyfer Astudiaethau Damcaniaethol mewn Ffiseg Niwclear a Meysydd Cysylltiedig (ECT*)
-
6 Ionawr 2021Damcaniaeth dulliau dysgu aneffeithiol yn parhau mewn addysg ledled y byd yn ôl adolygiad newydd
Mae adolygiad newydd gan Brifysgol Abertawe'n datgelu bod pobl ledled y byd yn glynu wrth ffordd o addysgu sy'n aneffeithiol ac a all fod yn niweidiol i ddysgwyr.
-
28 Rhagfyr 2020Gallai ffordd gyflymach a gwyrddach o gynhyrchu sfferau carbon wella technoleg dal carbon
Mae dull cyflym, gwyrdd, un cam o gynhyrchu sfferau carbon mandyllog, sy'n elfen allweddol ar gyfer technoleg dal carbon ac ar gyfer storio ynni adnewyddadwy mewn ffyrdd newydd, wedi cael ei ddatblygu gan ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe.
-
22 Rhagfyr 2020Covid-19: Cynhadledd yn rhannu gwaith arloesi â Llysgennad Prydain yn Tsieina
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi cryfhau ei chysylltiad unigryw â Wuhan drwy gyfrannu at gynhadledd ar-lein ar gyfer ymarferwyr iechyd proffesiynol, yn ogystal â Llysgennad Prydain yn Tsieina, Caroline Wilson CMG, sydd wedi helpu i daflu goleuni ar ofal iechyd a gwaith arloesi yn ystod argyfwng Covid-19.
-
21 Rhagfyr 2020Hwb ariannol i gydweithrediad ymchwil i astudio gofal llygaid yn y gymuned
Mae prosiect newydd a sefydlwyd i astudio'r ffordd orau o ofalu am gleifion â chyflyrau llygaid hirdymor yn y gymuned wedi sicrhau grant ymchwil sylweddol.
-
18 Rhagfyr 2020Gwaith ymchwil rhyngwladol newydd yn archwilio ffordd o wrthsefyll Covid-19
Mae ymchwilwyr yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe yn helpu i feithrin dealltwriaeth o'r feirws sy'n achosi Covid-19 a sut gellir mynd i'r afael ag ef.
-
18 Rhagfyr 2020Cant y cant i gwrs cydymaith meddygol yr Ysgol Feddygaeth unwaith eto
Mae cwrs cydymaith meddygol Prifysgol Abertawe yn dathlu camp anhygoel – llwyddodd cant y cant o'i fyfyrwyr i basio'r arholiadau cydymaith meddygol cenedlaethol am y drydedd flwyddyn yn olynol.
-
18 Rhagfyr 2020Effaith pobl yn peryglu coedwigoedd trofannol sy'n gallu gwrthsefyll tân yn Sumatra a Kalimantan
Mae astudiaeth newydd dan arweiniad ymchwilwyr yn Adran Daearyddiaeth Prifysgol Abertawe yn datgelu graddau eithafol y coedwigoedd trofannol, a oedd yn gorchuddio llawer o dir ar ynysoedd Sumatra a Kalimantan yn Indonesia gynt, sydd wedi'u colli a'u rhannu.
-
16 Rhagfyr 2020Mae afonydd Ewrop yn ddiffygiol, ond mae atebion ar gael
Mae astudiaeth newydd a gyhoeddwyd yn Nature yn cynnig atebion i afonydd rhanedig.
-
15 Rhagfyr 2020Llwyddiant arall i Tennessee ar ôl ennill rhagoriaeth yn ei gradd meistr
Mae myfyrwraig o Brifysgol Abertawe sydd hefyd yn bencampwraig y byd ym maes cicfocsio ar ben ei digon ar ôl ennill gradd meistr.
-
13 Rhagfyr 2020Tîm Arian@BywydCampws y Brifysgol yn derbyn Gwobr Addewid Stand Alone 2020
Mae tîm Arian@BywydCampws Prifysgol Abertawe wedi derbyn Gwobr Addewid Stand Alone 2020 am helpu myfyrwyr sydd wedi ymddieithrio yn ystod argyfwng Covid-19.
-
11 Rhagfyr 2020Astudiaeth newydd yn dangos sut gallai mân algâu fod yn hollbwysig i economi gylchol
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe wedi datgelu y gallai mân algâu chwarae rôl hollbwysig wrth ailddefnyddio gwastraff bwyd a ffermydd yn llwyddiannus ar raddfa fawr, yn ogystal â chreu miloedd o swyddi.
-
11 Rhagfyr 2020Llyfr am blant a oroesodd yr Holocost yn cyrraedd rhestr y Daily Telegraph o lyfrau gorau'r flwyddyn
Mae llyfr diweddaraf academydd o Brifysgol Abertawe, am blant a oroesodd yr Holocost, wedi cael ei gynnwys ar restr y Daily Telegraph o lyfrau hanes gorau 2020.
-
10 Rhagfyr 2020Dylunio adeiladau mwy diogel drwy systemau synhwyro di-wifr
Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n datblygu dull arloesol o ddylunio adeiladau clyfar. Bydd model amgylcheddol gynaliadwy, mwy diogel a chost-effeithlon newydd yn cynnig system well ar gyfer cyflenwi ynni i synwyryddion mewn adeileddau clyfar. Dylunnir y model yn y Sefydliad Deunyddiau, Prosesu a Thechnolegau Rhifyddol Arloesol (IMPACT).
-
10 Rhagfyr 2020Prosiect SUNRISE yn ennill gwobr Times Higher Education
Ar y cyd â sefydliadau rhyngwladol a rhai yn y DU, mae Prifysgol Abertawe wedi ennill y tlws fel Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn yng Ngwobrau Times Higher Education.
-
9 Rhagfyr 2020Menywod beichiog sy'n atal meddyginiaeth asthma mewn perygl o eni’n gynamserol
Awgryma astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe bod menywod sy’n rhoi’r gorau i gymryd eu meddyginiaethau asthma yn ystod beichiogrwydd o risg o eni’n gynamserol ac yn llai tebygol o fwydo eu babanod ar y fron.
-
8 Rhagfyr 2020Hwb o £4m i ariannu ymchwil y sector gweithgynhyrchu yng Nghymru
Gall busnesau gweithgynhyrchu ledled Cymru barhau i arloesi’n flaengar yn sgîl cyhoeddiad gan Lywodraeth Cymru bod £4 miliwn o gyllid yn dod o’r UE.
-
8 Rhagfyr 2020Beirniaid wedi'u cyhoeddi ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe
Cyhoeddwyd y beirniaid ar gyfer Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe yn 2021 heddiw (8 Rhagfyr).
-
4 Rhagfyr 2020Prosiect glöynnod byw cymunedol yn barod i helpu byd natur
Mae biowyddonwyr Prifysgol Abertawe'n helpu cymuned i greu gardd glöynnod byw a bywyd gwyllt yng nghanol pentref yn Abertawe.
-
4 Rhagfyr 2020Ffyrdd doethach a gwyrddach o gynhyrchu dur: rhaglen ymchwil yn ariannu tair astudiaeth newydd
Mae tri phrosiect ymchwil a allai helpu'r diwydiant dur i fod yn ddoethach ac yn wyrddach wedi cael caniatâd fel rhan o raglen ymchwil genedlaethol dan arweiniad Prifysgol Abertawe.
-
4 Rhagfyr 2020Cyllid newydd i ymchwilio i Covid-19 a chlefydau cardiofasgwlaidd
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael cyllid gwerth £125,000 gan Health Data Research UK (HDR UK) i astudio effeithiau uniongyrchol ac anuniongyrchol Covid-19 ar glefydau cardiofasgwlaidd (CVD).
-
3 Rhagfyr 2020Ymchwilydd i gyflwyno un o'r prif anerchiadau mewn uwchgynhadledd rithwir unigryw
Bydd yr ymchwilydd Dr Lewis Francis o Brifysgol Abertawe yn rhannu ei waith â chynulleidfa fyd-eang mewn cynhadledd ar-lein ryngwladol yr wythnos nesaf.
-
2 Rhagfyr 2020Ymchwil i wella perfformiad cystadleuwyr o Gymru'n cael hwb ariannol dros bedair blynedd
Bydd gwaith prosiect ymchwil Cymru gyfan sy'n helpu i wella perfformiad cystadleuwyr o Gymru ym myd y campau yn parhau diolch i grant gwerth £440,000 gan Chwaraeon Cymru.
-
1 Rhagfyr 2020Canfyddiadau newydd ynghylch elfennau ym myd natur sy'n amddiffyn yn erbyn pelydrau'r haul
Mae ymchwil gan Brifysgol Abertawe wedi cynnig dealltwriaeth newydd o ymddygiad elfennau ym myd natur sy'n amddiffyn yn erbyn pelydrau'r haul pan fyddant yn dod i gysylltiad â rhannau eraill o'r sbectrwm golau.
-
30 Tachwedd 2020Prifysgol Abertawe yn ail-lansio Cystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies
Mae Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe yn ail-lansio’r Gystadleuaeth Stori Fer Rhys Davies nodedig i awduron o Gymru, neu sy’n byw yng Nghymru.
-
27 Tachwedd 2020Cynnydd ymchwil canser y Brifysgol yn arwain at hwb ariannol gan bartneriaid
Mae gwaith arloesol prosiect Prifysgol Abertawe i wella ffyrdd o bennu diagnosis o ganser yr ofari a thrin y clefyd wedi helpu i sicrhau buddsoddiad gwerth mwy na £3m gan bartneriaid diwydiannol.
-
24 Tachwedd 2020Newid plastigion gwastraff yn gyfansoddion gwerthfawr iawn ar gyfer y diwydiannau ynni.
Mae Llywodraeth Cymru yn cefnogi prosiect gwyddoniaeth hynod flaengar sy’n newid plastigion gwastraff yn gyfansoddion gwerthfawr iawn ar gyfer y diwydiannau ynni.
-
24 Tachwedd 2020Partneriaeth beirianneg newydd i ddatblygu marchnadle digidol er mwyn gwella cadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu
Mae tîm ymchwil, dan arweiniad Coleg Peirianneg Prifysgol Abertawe, yn datblygu marchnadle peilot ar-lein, gyda’r bwriad o optimeiddio rhwydweithiau cadwyn gyflenwi gweithgynhyrchu a chreu model busnes newydd ar draws y diwydiant.
-
19 Tachwedd 2020Partneriaeth y Brifysgol yn barod i helpu busnesau newydd i greu'r cysylltiadau cywir
Bydd cydweithrediad newydd yn rhoi hwb rhwydweithio gwerthfawr i fyfyrwyr entrepreneuraidd wrth iddynt lansio eu syniadau busnes.
-
19 Tachwedd 2020Mwy o berygl i bobl hŷn, dlotach gael adweithiau niweidiol i gyffuriau
Mae adolygiad gan academyddion o Brifysgol Abertawe wedi gweld bod pobl hŷn, dlotach sy'n cadw pellter cymdeithasol rhag eu meddygon neu eu fferyllwyr yn dioddef mwy o adweithiau niweidiol i gyffuriau na'r boblogaeth gyffredinol.
-
17 Tachwedd 2020Arddangosfa newydd am fywyd Richard Burton yn adrodd hanes seren ryngwladol y llwyfan a’r sgrîn
Mae arddangosfa newydd sbon am fywyd Richard Burton yn datgelu’r dyn y tu ôl i’r penawdau – yn ŵr, yn dad, yn ddarllenydd, yn sgwennwr a Chymro balch.
-
12 Tachwedd 2020Cyllid i brosiect newydd i ddefnyddio golau'r haul i drawsnewid gwastraff Covid-19 yn danwydd glân
Gellid defnyddio golau'r haul i drawsnewid gwastraff meddygol peryglus yn danwydd hydrogen glân, gan ddefnyddio techneg newydd sy'n cael ei datblygu gan dîm rhwng Cymru ac India ar y cyd dan arweiniad ymchwilwyr Prifysgol Abertawe. Mae'r prosiect newydd gael cyllid gwerth £47,000 gan Lywodraeth Cymru.
-
11 Tachwedd 2020Arolwg newydd yn datgelu maint effaith Covid-19 ar iechyd meddwl yng Nghymru
Mae Cymru’n wynebu ton o broblemau iechyd meddwl yn sgil Covid-19, gydag oedolion iau, menywod a phobl o ardaloedd difreintiedig yn dioddef fwyaf.
-
5 Tachwedd 2020Cyllid newydd yn gwneud gwahaniaeth i brosiectau ymchwil a allai achub bywydau
Mae pedwar prosiect gan Brifysgol Abertawe sy'n ceisio gwneud gwahaniaeth a allai achub bywydau cleifion wedi cymryd cam mawr i’r cyfeiriad cywir.
-
5 Tachwedd 2020Gwyddonwyr yn datblygu dull o ganfod trapiau gwefru mewn lled-ddargludyddion organig
Mae gwyddonwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu dull sensitif iawn o ganfod mân arwyddion ‘trapiau gwefru’ mewn lled-ddargludyddion organig.
-
5 Tachwedd 2020Gwres nid gwastraff: ymchwil newydd i ystyried ailddefnyddio gwres gwastraff o fyd diwydiant
Bydd ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe a Tata Steel yn rhan o brosiect newydd i ymchwilio i'r posibilrwydd o ailafael mewn gwres gwastraff o fyd diwydiant er mwyn ei ailddefnyddio.
-
4 Tachwedd 2020Plant yn dal i ddysgu yn ystod y cyfnod atal diolch i brosiect allgymorth Prifysgol Abertawe
Mae prosiect allgymorth gan Brifysgol Abertawe wedi helpu i ddosbarthu cannoedd o werslyfrau gwyddoniaeth i blant sy'n astudio gartref yng Nghymru yn ystod y cyfnod atal byr.
-
3 Tachwedd 2020Placiau Glas Tywyll y Brifysgol yn nodi mannau bythgofiadwy
Mae cwrdd â phartner oes, meithrin cyfeillgarwch a mwynhau gyrfa hir a hapus ymysg y profiadau bythgofiadwy sydd bellach yn cael eu coffáu ym Mhrifysgol Abertawe.
-
3 Tachwedd 2020Myfyriwr nyrsio Abertawe orau ym Mhrydain
Pan ddaw i helpu cleifion i baratoi eu hunain ar gyfer llawdriniaeth, gellir dadlau bod Rea Pugh-Davies o Fae Abertawe yn un o'r goreuon sydd o gwmpas.
-
3 Tachwedd 2020Dylunio adeiladau carbon isel: cyflwyno gwybodaeth tîm Abertawe mewn pecyn cymorth newydd
Mae'r tîm a wnaeth ddylunio ac adeiladu dau adeilad carbon isel ym Mhrifysgol Abertawe, sy'n cynhyrchu eu hynni eu hunain, yn cyhoeddi pecyn cymorth sy'n nodi'r egwyddorion dylunio a ddefnyddiwyd. Y nod yw annog eraill i adeiladu'r “Adeiladau Ynni Gweithredol” hyn gan y byddai hynny'n lleihau ôl troed carbon y DU yn sylweddol; ar hyn o bryd, mae 40% o'n hallyriadau'n deillio o wresogi a phweru ein hadeiladau.
-
2 Tachwedd 2020Astudiaeth newydd o'r ffordd y mae mesurau diogelwch Covid-19 yn cynyddu pryderon ac ymddygiad osgoi
Mae astudiaeth newydd yn cael ei lansio gan Brifysgol Abertawe i ymchwilio i'r ffordd y mae mesurau diogelwch Covid-19 o bosib yn cael yr effaith anffodus o wneud i bobl deimlo'n llai diogel, gan gynyddu pryderon ac achosi i bobl osgoi sefyllfaoedd a mannau roeddent yn teimlo'n ddiogel ynddynt o'r blaen.
-
30 Hydref 2020Yr astudiaeth gyntaf i asesu risg COVID-19 i iechyd gweithwyr gofal cartref yng Nghymru
Mae'r astudiaeth gyntaf i nodi risg COVID-19 i weithwyr gofal cartref ledled Cymru yn cael ei lansio heddiw.
-
29 Hydref 2020Gwobr i ffisegydd am ei waith ar wrthfater
Mae'r Sefydliad Ffiseg wedi rhoi anrhydedd uchel ei fri i ffisegydd o Brifysgol Abertawe am ei arweinyddiaeth dros 30 mlynedd ym maes gwyddor gwrthfater.
-
29 Hydref 2020Y Brifysgol yn cyfrannu at y cyfarwyddyd cytunedig cyntaf ar ymarfer corff diogel i bobl â diabetes
Mae academydd o Brifysgol Abertawe wedi helpu i lunio cytundeb arloesol rhwng arbenigwyr rhyngwladol ar gyfarwyddyd safonol cyntaf y byd ynghylch sut gall pobl â diabetes ddefnyddio dyfeisiau monitro glwcos modern er mwyn eu helpu i wneud ymarfer corff yn ddiogel.
-
28 Hydref 2020Myfyriwr nyrsio o Brifysgol Abertawe yn ennill gwobr glodwiw Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn
Mae Matt Townsend, myfyriwr Nyrsio Oedolion o Brifysgol Abertawe, wedi ennill gwobr Myfyriwr Mwyaf Ysbrydoledig y Flwyddyn yng Ngwobrau Myfyrwyr Nursing Times eleni.
-
27 Hydref 2020Academyddion yn galw am glinigau triniaeth gamblo GIG yng Nghymru
Mae academyddion Prifysgol Abertawe wedi galw am glinigau triniaeth anhwylder gamblo GIG i’w sefydlu yng Nghymru, wrth i lythyr, a gyhoeddwyd yn The Lancet ddatgelu effaith difrifol y broblem o gamblo yng Nghymru, yn enwedig ymhlith pobl ifanc.
-
27 Hydref 2020Y cysylltiad rhwng hormon yn y coludd a dementia pobl â chlefyd Parkinson - ymchwil Abertawe
Mae gwaith ymchwil dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi darganfod bod hormon yn y coludd, sef ghrelin, yn allweddol wrth reoli nerfgellau newydd yn ymennydd oedolion. Gallai helpu i baratoi'r ffordd ar gyfer cyffuriau newydd i drin dementia mewn pobl sy'n dioddef o glefyd Parkinson.
-
27 Hydref 2020Prosiect rhyngwladol yn arwain at archif ar-lein o waith Dylan Thomas
Mi fydd casgliad digidol o lawysgrifau a ffotograffau sy'n gysylltiedig â'r bardd a'r awdur Dylan Thomas ar gael ar-lein cyn hir, diolch i gydweithrediad rhyngwladol.
-
26 Hydref 2020Gwobrau diabetes: Llwyddiant dwbl i'r Brifysgol
Mae uwch-diwtor er anrhydedd a myfyriwr gradd meistr o Brifysgol Abertawe wedi cael eu hanrhydeddu am eu hymroddiad i ofal diabetes mewn seremoni fawr i wobrwyo gweithwyr gofal iechyd yn y DU.
-
26 Hydref 2020Animeiddiad newydd yn helpu cleifion lymffoedema i adnabod symptomau
Mae fideo animeiddiedig newydd wedi'i ddatblygu gan Brifysgol Abertawe i godi ymwybyddiaeth o lymffoedema ac i helpu cleifion i ddeall mwy am sut caiff eu cyflwr ei drin.
-
23 Hydref 2020Prosiect SUNRISE ar y rhestr fer ar gyfer gwobr Times Higher Education
Mae SUNRISE wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer ‘Cydweithrediad Rhyngwladol y Flwyddyn’ yng Ngwobrau Times Higher Education (THE), sydd yn ei 16eg flwyddyn.
-
23 Hydref 2020Athro'n helpu i hyrwyddo nanofeddygaeth ledled y DU yn ei rôl newydd
Mae'r Athro Steve Conlan o Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi derbyn rôl allweddol yn helpu i dynnu sylw at ymchwil i nanofeddygaeth yn y DU.
-
20 Hydref 2020Cyllid o'r UE yn rhoi hwb i dechnoleg solar werdd yng Nghymru
Gall Cymru ddal i arwain y ffordd o ran technoleg ynni solar y genhedlaeth nesaf, ar gyfer defnyddiau megis synwyryddion o bell a cherbydau trydan, diolch i gyllid gwerth £2.5m o'r UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru, er mwyn parhau â rhaglen ymchwil dan arweiniad Abertawe.
-
19 Hydref 2020Darlith gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe yn dangos sut gall dur wedi'i gaenu ddefnyddio ynni solar
Gall dur wedi'i gaenu ddefnyddio ynni solar a lleihau allyriadau carbon, yn ôl darlith gyhoeddus ar-lein gan arbenigwr o Brifysgol Abertawe, a gynhelir i nodi'r ffaith bod y Sefydliad Deunyddiau, Mwynau a Mwyngloddio (IOM3) wedi dyfarnu Medal Aur Bessemer iddo.
-
16 Hydref 2020Gwobr Allgymorth ac Ymgysylltu i'r ymchwilydd o Brifysgol Abertawe
Mae'r ymchwilydd ôl-ddoethurol Dr Claire Price wedi cael ei chydnabod am ei gwaith i wneud gwyddoniaeth yn fwy hygyrch i'r gymuned yn ei thref leol.
-
15 Hydref 2020Mwy o broblemau iechyd meddwl ymhlith gofalwyr teulu yn ystod y cyfyngiadau symud
Roedd cyfraddau problemau iechyd meddwl pobl sy'n gofalu am blant ac oedolion ag anabledd deallusol yn eu teulu hyd at 10 o weithiau'n uwch yn ystod y cyfyngiadau symud nag yn achos rhieni heb y cyfrifoldebau hynny, yn ôl astudiaeth newydd.
-
15 Hydref 2020Prifysgol Abertawe'n un o fannau gwyrdd gorau'r wlad
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei henwi ymysg enillwyr Gwobr y Faner Werdd unwaith eto eleni. Dyma arwydd rhyngwladol sy'n dynodi parc neu fan gwyrdd o safon.
-
8 Hydref 2020Modiwl newydd yn galluogi myfyrwyr peirianneg i weithio o bell gyda thîm yn Nhecsas
Mae grŵp o fyfyrwyr peirianneg wedi dechrau modiwl a gynhelir gan Brifysgol A&M Tecsas, gan weithio o bell gyda pheirianwyr eraill dramor, diolch i fenter newydd gan y Coleg Peirianneg, sy'n seiliedig ar gysylltiadau Prifysgol Abertawe â Thecsas.
-
8 Hydref 2020Y myfyriwr Matt yn dweud fod Covid-19 wedi dysgu iddo beth yw gwir ystyr bod yn nyrs
Pan gafodd Matt Townsend, myfyriwr nyrsio o Brifysgol Abertawe, gyfle i ymuno â rheng flaen y GIG ar anterth argyfwng y coronafeirws, roedd yn gwybod yn syth beth oedd yn rhaid iddo ei wneud.
-
7 Hydref 2020Cyllid Llywodraeth Cymru i ESRI ar gyfer cyfarpar diogelu personol y genhedlaeth nesaf
Mae Llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi cyllid i'r Sefydliad Ymchwil Diogelwch Ynni (ESRI) ym Mhrifysgol Abertawe at ddiben datblygu ymagwedd unigryw at gyfarpar diogelu personol y genhedlaeth nesaf fel rhan o'r frwydr yn erbyn feirysau.
-
5 Hydref 2020Tîm Menywod Cymru'n paratoi i wynebu'r Alban ym Mhrifysgol Abertawe
Mae Tîm Menywod Cymru'n defnyddio cyfleusterau chwaraeon Prifysgol Abertawe wrth iddynt baratoi i wynebu'r Alban ym Mhencampwriaeth y Chwe Gwlad.
-
5 Hydref 2020Seithfed flwyddyn Bod yn Ddynol
Mae Sefydliad Diwylliannol Prifysgol Abertawe wedi cael ei ddewis i fod yn un o bedwar hyb Bod yn Ddynol 2020. Dyma unig ŵyl genedlaethol y dyniaethau yn y DU.
-
2 Hydref 2020Cyllid i ariannu arddangosfa ar amrywiaeth ddiwylliannol a hiliaeth yn yr henfyd
Mae cyllid gwerth £1,100 wedi cael ei ddyfarnu ar y cyd i arbenigwr ar hanes yr henfyd a Chanolfan Eifftaidd Abertawe er mwyn datblygu arddangosfa newydd ar yr Aifft a'i chymdogion, a ddefnyddir ar gyfer rhaglen addysg y Ganolfan ar faterion megis hunaniaeth, hiliaeth a senoffobia yn yr henfyd.
-
1 Hydref 2020Mae ymchwil yn datgelu sut mae pandemig wedi effeithio ar gefnogaeth hanfodol o fwydo ar y fron
Mae cydweithrediad ymchwil newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi tynnu sylw at ddiffyg cefnogaeth bwydo ar y fron o ansawdd uchel i rai teuluoedd yn ystod pandemig Covid-19.
-
1 Hydref 2020Prifysgol Abertawe'n enwi llu o sêr ar gyfer Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe 2020
Bydd Gŵyl Wyddoniaeth Abertawe yn dychwelyd ym mis Hydref, gyda llu o westeion arbennig, gan gynnwys yr Athro Brian Cox, Steve Backshall, Konnie Huq, Iolo Williams a Lyn Evans.
-
25 Medi 2020Arbenigwyr Abertawe'n lansio podlediad newydd ar ymgyrch arlywyddiaeth 2020
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi lansio cyfres newydd o bodlediadau sy'n defnyddio data ar y pryd o farchnadoedd gamblo gwleidyddol er mwyn dadansoddi ymgyrch arlywyddiaeth 2020 yr Unol Daleithiau.
-
24 Medi 2020Y Brifysgol yn cael dau lwyddiant cynaliadwyedd
Mae ymrwymiad Prifysgol Abertawe i gynaliadwyedd wedi arwain at ddau gyflawniad.
-
24 Medi 2020Cyllid gwerth £3.7m i gefnogi sefydliadau yn ne Cymru i arloesi economi gylchol
Bydd prosiect newydd gwerth £3.7m yn helpu sefydliadau gwasanaeth cyhoeddus yn ne Cymru i gydweithredu i ddatblygu atebion gwasanaeth rhanbarthol newydd ar gyfer heriau presennol yr economi gylchol.
-
23 Medi 2020Sut gall pobl sydd wedi goroesi Covid-19 helpu gwaith ymchwil i wella'r broses adfer
Mae ymchwilwyr sy'n archwilio dull newydd o helpu i adfer iechyd pobl ar ôl Covid-19, gan ddefnyddio ymarferion anadlu a dyfais llaw, yn chwilio am wirfoddolwyr sydd wedi dioddef o'r cyflwr er mwyn eu helpu i'w brofi. Gallai'r gwaith fod o fudd i gleifion a lliniaru'r straen ar y GIG.
-
22 Medi 2020Prifysgol Abertawe'n cefnogi ymgyrch i wneud Cymru'n bencampwyr ailgylchu'r byd
Mae Prifysgol Abertawe wedi troi'n wyrdd, a hynny'n llythrennol, er mwyn pwysleisio'r neges y dylid ailgylchu.
-
18 Medi 2020Gwyddonwyr gwirfoddol yn helpu i ddangos bod afonydd y DU yn rhanedig
Mae ymchwil newydd a arweinir gan academyddion o Brifysgol Abertawe, drwy gymorth gwyddonwyr gwirfoddol, wedi gweld bod 99% o fasnau afonydd yn y DU wedi'u rhannu gan rwystrau artiffisial fel argaeau, coredau a chwlferi. Mae angen cymryd camau gweithredu brys i ailgysylltu afonydd, er mwyn sicrhau eu hiechyd hirdymor, ac iechyd hirdymor y cymunedau o'u cwmpas.
-
17 Medi 2020Y Brifysgol yn helpu 1,100 o ddisgyblion i barhau i ddysgu yn ystod y cyfyngiadau symud
Cafodd mwy na mil o ddisgyblion yn ne Cymru eu helpu i astudio yn ystod y cyfyngiadau symud, diolch i brosiect y mae Prifysgol Abertawe'n cymryd rhan ynddo.
-
15 Medi 2020Gwyddoniaeth gyfranogol yn ehangu rhestrau o isadeileddau mewnffrydiau byd-eang
Mae tîm rhyngwladol o ymgyrchwyr – gan gynnwys rhai o Brifysgol Abertawe – wedi defnyddio data a synhwyrir o bell sydd ar gael drwy beiriant Google Earth er mwyn nodi, mapio a dilysu isadeileddau mewnffrydiau megis argaeau, coredau a lociau ledled y byd.
-
11 Medi 2020Protestiadau, streiciau a rhannu ystafell â Paul McCartney
Mae miloedd o fyfyrwyr wedi mynd drwy ddrysau Prifysgol Abertawe dros y 100 mlynedd diwethaf, ond mae'n annhebygol bod llawer ohonynt wedi cael amser mwy cofiadwy na Jeffrey Temple.
-
11 Medi 2020Rhaglen gofal iechyd newydd y Brifysgol sy'n seiliedig ar werth
Mae Prifysgol Abertawe wedi datblygu rhaglen gofal iechyd bwrpasol sy'n seiliedig ar werth (VBHC) mewn cydweithrediad â'i phartner strategol Sprink Ltd, fel rhan o'i chynnig Addysg Weithredol.
-
10 Medi 2020£1m ar gyfer menter newydd gan Brifysgol Abertawe i ddatblygu systemau storio ynni uwch
Bydd tîm ymchwil o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe yn ffurfio partneriaeth newydd â'r darparwr atebion ynni byd-eang mawr ENSERV POWER.
-
9 Medi 2020Cydnabyddiaeth i fyfyrwyr iechyd a meddygaeth Abertawe am wirfoddoli yn ystod argyfwng Covid-19
Bydd oddeutu 1,000 o fyfyrwyr gofal iechyd a meddygaeth sydd wedi gwirfoddoli yn ystod pandemig Covid-19 yn derbyn tocyn anrheg am fusnes lleol, diolch i gyfraniad gwerth £27,500 gan Santander, drwy'r fenter Prifysgolion Santander.
-
8 Medi 2020Gwir faint siarc anferthol cynhanes wedi'i ddatgelu o'r diwedd
Mae astudiaeth newydd dan arweiniad Prifysgol Abertawe a Phrifysgol Bryste wedi datgelu maint siarc anferthol chwedlonol y Megalodon, gan gynnwys esgyll sydd mor fawr â dyn.
-
7 Medi 2020Prifysgol Abertawe yn dringo i safle 24 yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd ei safle uchaf erioed mewn unrhyw dabl cynghrair yn y DU ar ôl codi o safle 31 i 24 yng Nghanllaw Prifysgolion y Guardian 2021.
-
7 Medi 2020Penodi Kier ar gyfer prosiect adeiladu CISM gwerth £30m ar Gampws y Bae
Mae cyfleuster newydd o'r radd flaenaf ym Mhrifysgol Abertawe a fydd yn cyfuno ymchwil arloesol â datblygu technoleg ym maes peirianneg a gwyddor lled-ddargludyddion gam yn agosach ar ôl dyrannu'r prif gontract adeiladu i Kier ar gyfer y Ganolfan Deunyddiau Lled-ddargludydd Integreiddiol (CISM) ar Gampws y Bae.
-
4 Medi 2020Nid yw pellter yn broblem wrth i ddosbarthiadau iaith myfyrwyr Tsieineaidd barhau ar-lein
Mae myfyrwyr Tsieineaidd, yn eu hawydd i baratoi ar gyfer cyrsiau Prifysgol Abertawe, wedi parhau i astudio – er bod pellter o fwy na 5,000 milltir rhyngddynt a'u hathrawon.
-
4 Medi 2020Disgyblion yn dychwelyd yn ddiogel i 12 o ysgolion lleol oherwydd hylif diheintio’r Brifysgol
Plant mewn 12 o ysgolion lleol sy'n dychwelyd i'w gwersi yr wythnos hon yw'r bobl ddiweddaraf i gael eu diogelu gan hylif diheintio dwylo a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae labordy technoleg solar wedi newid yr hyn y mae'n ei gynhyrchu dros dro yn ystod argyfwng COVID-19.
-
3 Medi 2020Astudiaeth yn canolbwyntio ar ymdrin â galwadau 999 gan gleifion Covid-19
Mae astudiaeth newydd gan Brifysgol Abertawe sy'n ystyried y ffordd orau i wasanaethau ambiwlans ymdrin â galwadau Covid-19 tybiedig newydd ennill cymorth ariannol mawr.
-
3 Medi 2020Gwasanaethau osteopatheg yn ailddechrau yn Academi Iechyd a Llesiant Abertawe
Bydd Academi Iechyd a Llesiant Prifysgol Abertawe'n dechrau darparu gwasanaethau osteopatheg i'r cyhoedd eto o ddydd Llun 7 Medi.
-
2 Medi 2020Ymchwil newydd yn datgelu sbardunau amgylcheddol cymhlethdod ecolegol mewn cymunedau rhynglanwol morol
Mae amgylchiadau amgylcheddol megis tymheredd arwyneb môr ac achosion o bistyllio dŵr oer yn gyfrifol am strwythur rhwydweithiau rhyngweithio mewn cymunedau rhynglanwol morol o ganlyniad i'w heffaith ar gyfoeth rhywogaethau, yn ôl ymchwil newydd.
-
2 Medi 2020Buddsoddiad o £20m yn ymestyn prosiect AgorIP hyd at 2023
Mae'r Prosiect AgorIP, sydd wedi helpu economi ac arloesedd Cymru yng Ngorllewin Cymru i ffynnu dros y pedair blynedd diwethaf, wedi'i ymestyn er budd Cymru gyfan, gyda chyfanswm buddsoddiad o dros £20m.
-
2 Medi 2020Adroddiad newydd yn rhybuddio am gwymp anferth o ran poblogaethau pysgod dŵr croyw a pherygl i swyddi
Mae The Living Planet Index for Migratory Freshwater Fish, yr adroddiad byd-eang cynhwysfawr cyntaf am statws pysgod mudol, wedi datgelu bod poblogaethau pysgod dŵr croyw wedi cwympo 76% ar gyfartaledd rhwng 1970 a 2016 – gan gynnwys cwymp cyfartalog syfrdanol o 93% yn Ewrop.
-
1 Medi 2020Athrawon yn croesawu dychwelyd i'r ysgol, ond yn mynegi pryderon – arolwg
Wrth i ysgolion ailagor, mae arolwg o staff ysgolion cynradd yng Nghymru'n dangos eu bod yn cefnogi'r ffaith bod plant yn dychwelyd i'r dosbarth, er lles eu haddysg a'u datblygiad cymdeithasol, ond bod ganddynt bryderon gwirioneddol hefyd.
-
28 Awst 2020Prifysgol Abertawe'n cyhoeddi cyllid gwerth £230,000 i hybu profiad myfyrwyr
Bydd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe'n elwa o hwb ariannol i gynnal rhaglen o ddigwyddiadau ar gyfer myfyrwyr newydd a rhai sy'n dychwelyd rhwng mis Medi 2020 a mis Chwefror 2021.
-
26 Awst 2020Clytiau micronodwydd i roi brechlynnau
Mae ffordd newydd chwyldroadol o roi brechlynnau drwy glytiau micronodwydd yn cael ei phrofi ym Mhrifysgol Abertawe, diolch i gyllid gwerth £200,000 gan yr UE a gyhoeddwyd gan Lywodraeth Cymru.
-
25 Awst 2020Mewnfridio'n lleihau cydweithrediad rhwng mongwsiaid rhesog yn ôl astudiaeth
Gall mewnfridio leihau cydweithrediad rhwng mongwsiaid rhesog yn ôl astudiaeth ddiweddar gan ymchwilwyr.
-
20 Awst 2020Yr awdur enwog David Walliams yn cefnogi cystadleuaeth ysgolion y Brifysgol
Mae'r awdur plant hynod boblogaidd David Walliams wedi cefnogi cystadleuaeth i blant a gynhelir i nodi canmlwyddiant Prifysgol Abertawe.
-
20 Awst 2020Delweddau pelydr X 3D yn datgelu cyfrinachau bywydau a marwolaethau anifeiliaid yn yr hen Aifft
Mae ymchwilwyr wedi dadlapio a dadansoddi tri anifail mymïaidd o'r hen Aifft yn ddigidol, gan ddefnyddio sganiau 3D eglur iawn sy'n rhoi manylder digynsail am fywydau'r anifeiliaid – a'u marwolaethau – dros 2,000 o flynyddoedd yn ôl.
-
19 Awst 2020Y Brifysgol yw noddwr newydd blaen crys yr Elyrch
Mae Prifysgol Abertawe'n falch o gyhoeddi mai hi fydd noddwr blaen crys Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe ar gyfer tymor 2020-21.
-
14 Awst 2020Ymchwilwyr yn ffilmio hylif yn ymddwyn fel solid
Mae ymchwilwyr o Goleg Peirianneg Prifysgol Abertawe wedi ffilmio hylif yn ymateb fel solid drwy ddull newydd o arsylwi ar hylifau dan amgylchiadau gwasgeddedig.
-
14 Awst 2020Arbenigwyr y Brifysgol wrth wraidd ymchwil i glefydau pandemig
Mae pedwar academydd o Brifysgol Abertawe'n rhan o brosiect ymchwil mawr newydd sy'n ymchwilio i Covid-19 a'r hyn y gall ein dysgu am ymdopi â chlefydau pandemig yn y dyfodol.
-
14 Awst 2020Discovery yn cael cyllid i gynorthwyo'r ymateb i bandemig COVID-19
Mae Llywodraeth Cymru wedi dyfarnu dau grant i'r elusen Discovery SVS er mwyn helpu ei gwaith i liniaru effaith COVID-19 yng Nghymru ac mewn cymunedau yn Affrica.
-
12 Awst 2020Arwr rygbi'r Gweilch, Cymru a'r Llewod James Hook yw hyfforddwr ymosodol Prifysgol Abertawe
Mae'r arwr rygbi rhyngwladol James Hook, a wnaeth chwarae 81 o weithiau dros Gymru a theithio gyda Llewod Prydain ac Iwerddon i Dde Affrica yn 2009, wedi derbyn swydd hyfforddwr ymosodol timau rygbi Prifysgol Abertawe.
-
12 Awst 2020Prosiect yn datgelu sut gallai algâu fod yn allweddol wrth gynhyrchu bwyd yn gynaliadwy
Mae prosiect arloesol gan Brifysgol Abertawe'n defnyddio mân algâu i archwilio sut i ailddefnyddio gwastraff a chynhyrchu mwy o fwyd ar yr un pryd.
-
12 Awst 2020Abertawe'n llwyddo yn ei chais i recriwtio 250 o fyfyrwyr peirianneg ychwanegol
Mae Prifysgol Abertawe wedi llwyddo yn ei chais i'r Adran Addysg i recriwtio 250 o fyfyrwyr peirianneg ychwanegol fel rhan o ymgyrch gan Lywodraeth y DU i gynnig dros 9,000 o leoedd ychwanegol mewn prifysgolion yn y DU ar gyfer cyrsiau a fydd yn darparu gwasanaethau allweddol, yn cefnogi'r economi ac yn creu canlyniadau cadarnhaol i fyfyrwyr.
-
7 Awst 2020Y Brifysgol yn croesawu Dirprwy Is-ganghellor Ymchwil ac Arloesi newydd
Mae Prifysgol Abertawe wedi croesawu Dirprwy Is-ganghellor newydd i'w huwch-dîm rheoli, a fydd yn gyfrifol am bortffolio Ymchwil ac Arloesi'r Brifysgol.
-
7 Awst 2020Adnoddau ar-lein i gyflymu'r broses o roi diagnosis o awtistiaeth
Mae rhieni sy'n pryderu am y posibilrwydd bod eu plentyn yn dioddef o un o anhwylderau'r sbectrwm awtistig (ASD) yn gorfod aros am hyd at bedair blynedd am ddiagnosis ffurfiol, ond gall asesiadau ar-lein helpu i gyflymu'r broses hon, yn ôl dwy astudiaeth ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe.
-
31 Gorffennaf 2020Prosiect yn helpu i leihau nifer y bobl sy'n cael eu llosgi yn Nepal
Mae prosiect i atal llosgiadau a gefnogir gan arbenigwyr o Brifysgol Abertawe wedi cael effaith ddramatig ar gymunedau yn Nepal.
-
31 Gorffennaf 2020Academi Hywel Teifi Prifysgol Abertawe yn cyfrannu at arlwy Gŵyl AmGen
Roedd disgwyl i wythnos gyntaf mis Awst fod yn un brysur i Dregaron eleni, ond gan na fydd y Brifwyl yn cael ei chynnal yno bellach, mae’r Eisteddfod wedi lansio Gŵyl AmGen 2020 - prosiect a fydd yn rhoi blas ar y Brifwyl i bobl rhwng 30 Gorffennaf ac 8 Awst, a’r cyfan ar gael ar S4C, Radio Cymru a gwefan Cymru Fyw.
-
26 Gorffennaf 2020£6 miliwn i ddefnyddio technoleg solar y genhedlaeth nesaf mewn ffyrdd newydd
Bydd grant gwerth £6 miliwn yn ysgogi'r broses o ddefnyddio technoleg solar y genhedlaeth nesaf mewn ffyrdd newydd.
-
24 Gorffennaf 2020Tîm arloesi'r Brifysgol yn helpu i ddatblygu adnodd dementia o'r radd flaenaf
Mae arbenigwyr arloesi ym Mhrifysgol Abertawe'n helpu i fireinio dyfais o'r radd flaenaf sydd eisoes yn gwneud gwahaniaeth allweddol i bobl sy'n byw gyda dementia a'u gofalwyr.
-
23 Gorffennaf 2020Cystadleuaeth canmlwyddiant yn gwahodd disgyblion i edrych tua'r dyfodol
Mae Prifysgol Abertawe'n nodi ei chanmlwyddiant drwy ofyn i blant rannu eu gweledigaeth ynghylch pa olwg fydd arni ymhen 100 mlynedd arall.
-
23 Gorffennaf 2020“Fy ngradd oedd fy achubiaeth” – Natalie’n graddio ar ôl trechu canser
Dihangodd Natalie Jarvis, sy'n 27 oed, ar ôl dioddef cam-drin domestig ac mae hi bellach wedi goresgyn canser y fron. Yr wythnos hon, bydd yn graddio o Brifysgol Abertawe. Dyma stori Natalie yn ei geiriau ei hun.
-
22 Gorffennaf 2020Partneriaeth i archwilio sut gallai algâu helpu i wneud eli haul yn fwy diogel
Mae prosiect ym Mhrifysgol Abertawe sy'n archwilio sut i ddefnyddio algâu i greu'r genhedlaeth nesaf o gynhyrchion eli haul bellach yn cydweithio â chwmni gofal croen arobryn er mwyn helpu i ddatblygu'r syniad.
-
22 Gorffennaf 2020Llawenydd i Julia ar ôl aros 50 mlynedd i raddio
Mae gwas sifil sydd wedi ymddeol yn dathlu ar ôl graddio o Brifysgol Abertawe – 50 mlynedd yn hwyrach na'r disgwyl.
-
20 Gorffennaf 2020Myfyrwyr Abertawe sydd am hedfan yn uchel ar ôl graddio
Mae dau fyfyriwr yn edrych ymlaen at ragor o lwyddiant i'w busnes hedfanaeth byd-eang ar ôl iddynt raddio o Brifysgol Abertawe.
-
19 Gorffennaf 2020Tywysog Cymru'n recordio neges ar gyfer canmlwyddiant Prifysgol Abertawe
Mae Tywysog Cymru wedi recordio neges fideo arbennig ar gyfer Prifysgol Abertawe wrth iddi ddathlu ei chanmlwyddiant ar 19 Gorffennaf.
-
17 Gorffennaf 2020Astudiaeth yn dangos bod profiadau trawmatig yn gallu gadael eu hôl ar lygaid unigolyn
Mae ymchwil newydd gan academyddion yn dangos bod canhwyllau llygaid claf yn gallu dangos a yw wedi dioddef profiad trawmatig yn y gorffennol.
-
17 Gorffennaf 2020Abertawe i ddefnyddio cyllid ar gyfer dathliadau canmlwyddiant i ymladd yn erbyn Covid-19
Bydd Prifysgol Abertawe, sy'n nodi ei chanmlwyddiant eleni, yn defnyddio cyllid a glustnodwyd yn flaenorol ar gyfer digwyddiadau dathlu er mwyn ymladd yn erbyn Covid-19 a hyrwyddo arloesedd
-
16 Gorffennaf 2020Rhyfeddu at y ffordd mae crwbanod y môr yn dod o hyd i ynysoedd bach, anghysbell
Mae astudiaeth arloesol gan wyddonwyr wedi ateb un o hen gwestiynau Charles Darwin ynghylch sut mae crwbanod yn dod o hyd i ynysoedd.
-
15 Gorffennaf 2020Prifysgol Abertawe yn y 6ed safle yn y DU am foddhad myfyrwyr
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y chweched safle am foddhad cyffredinol myfyrwyr yn Arolwg Cenedlaethol o Fyfyrwyr (NSS) 2020.
-
13 Gorffennaf 2020Astudiaeth aruchel gan arbenigwyr yn amlygu arferion adar esgynnol
Mae ymchwil newydd wedi datgelu nad yw'r adar mwyaf yn dibynnu ar chwifio eu hadenydd er mwyn symud yn yr awyr. Yn hytrach na hynny, maent yn defnyddio ceryntau aer i'w cadw yn yr awyr am oriau ar y tro.
-
9 Gorffennaf 2020Teulu myfyriwr o Abertawe'n ysbrydoli syniad arobryn ar gyfer teclyn i gynorthwyo pobl anabl
Profiad personol myfyriwr o Brifysgol Abertawe oedd yr ysbrydoliaeth ar gyfer ei gynnig buddugol mewn cystadleuaeth ledled y wlad i ddod o hyd i'r cynnyrch mwyaf arloesol ar gyfer pobl anabl.
-
9 Gorffennaf 2020Y Brifysgol yn ymuno â menter ledled y wlad i helpu myfyrwyr i gyrraedd addysg uwch
Mae Prifysgol Abertawe wedi cytuno i fod yn rhan o fenter ar-lein newydd sydd am helpu myfyrwyr sydd dan anfantais oherwydd y pandemig coronafeirws i gyrraedd addysg uwch.
-
9 Gorffennaf 2020Anrhydedd i ddarlithydd gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain
Mae darlithydd ym Mhrifysgol Abertawe wedi ennill y wobr urddasol, sef Gwobr Jacob Bronowski ar gyfer Gwyddoniaeth a’r Celfyddydau gan Gymdeithas Wyddoniaeth Prydain.
-
6 Gorffennaf 2020Myfyrwyr yn ateb y galw i gynnig cymorth mewn argyfwng
Mae dau fyfyriwr o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio i helpu'r gwasanaethau brys yn ystod pandemig Covid-19.
-
3 Gorffennaf 2020Prifysgol Abertawe ar y rhestr fer yng Ngwobrau Prifysgolion 2020 The Guardian
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyrraedd y rhestr fer ar gyfer Profiad Gorau i Fyfyrwyr yng Ngwobrau Prifysgolion 2020 The Guardian.
-
3 Gorffennaf 2020Platfform cronfa ddata a thechnoleg goruwch Cymru’n chwarae rhan fawr mewn cydweithrediad ymchwil Covid-19 rhyngwladol newydd
Mae’r Banc Data Diogel ar gyfer Cysylltiadau Gwybodaeth Ddienw (SAIL), y mae Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru’n ei ariannu, wedi’i ddewis i chwarae rhan allweddol mewn cydweithrediad rhyngwladol i gyflymu ymchwil Covid-19.
-
3 Gorffennaf 2020Troelli neu rolio? Y ffordd y mae moleciwlau'n cylchdroi sy'n gyfrifol am eu hymateb pan fyddant yn gwrthdaro ag arwynebau
Beth sy'n digwydd pan geir gwrthdrawiad rhwng moleciwl ac arwyneb? Mae ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe wedi dangos bod cyfeiriad moleciwl wrth iddo symud – p'un a yw'n troelli fel llafn hofrennydd neu'n rholio fel olwyn cert – yn bwysig wrth benderfynu'r hyn sy'n digwydd yn y gwrthdrawiad.
-
2 Gorffennaf 2020Pâr yn rhannu atgofion hapus o'r Brifysgol a adwaenid fel Butlin’s-ger-y-môr
Heb os nac oni bai, bydd Sandra a Bob Cuthill ymhlith y rhai a fydd yn cynnig llwncdestun i Brifysgol Abertawe pan fydd yn nodi ei chanmlwyddiant y mis hwn.
-
2 Gorffennaf 2020Buddsoddiad yr UE gwerth £6m yng Nghanolfan Arloesi a Gwybodaeth SPECIFIC yn dangos llwyddiant y prosiect
Yn 2011, Roedd SPECIFIC yn un o chwe Chanolfan Arloesi a Gwybodaeth yn y DU a grëwyd gan Lywodraeth y DU.
-
2 Gorffennaf 2020Academyddion Abertawe yn ymuno â'r alwad am ardoll statudol ar gwmnïau gamblo i leihau niwed
Mae academyddion yn rhybuddio bod y system gyfredol yn rhoi gormod o ddylanwad i ddiwydiant ar sut mae arian yn cael ei wario.
-
1 Gorffennaf 2020Meddygon newydd yn cael y clodydd yn nathliad graddio rhithwir cyntaf y Brifysgol erioed
Daeth mwy na 150 o gyn-fyfyrwyr yn ôl at ei gilydd i ddathlu eu hamser yn Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe mewn seremoni raddio rithwir unigryw.
-
30 Mehefin 2020Myfyrwraig o Brifysgol Abertawe'n derbyn Gwobr Diana uchel ei bri i gydnabod ei gwaith gwirfoddol
Mae Isabel Francis, sy'n astudio'r gyfraith ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill yr anrhydedd uchaf sydd ar gael i rywun ifanc rhwng naw oed a 25 oed am weithredoedd cymdeithasol neu ymdrechion dyngarol – Gwobr Diana.
-
30 Mehefin 2020Amddiffynwyr wyneb a ddyluniwyd gan dîm yn y Brifysgol i'w defnyddio gan y GIG yn ennill nod diogelwch CE
Mae amddiffynwyr wyneb i ddiogelu staff y GIG, sydd wedi'u dylunio a'u cynhyrchu drwy argraffyddion 3D gan dîm ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill nod diogelwch CE, sy'n golygu y gellir bellach eu cynhyrchu ar raddfeydd mwy ar gyfer ysbytai.
-
30 Mehefin 2020Cynllun rhannu beiciau poblogaidd y Brifysgol yn ailddechrau
Bydd beicwyr yn Abertawe yn ôl ar y cyfrwy o 1af Gorffennaf yn dilyn penderfyniad i ailagor cynllun rhannu beiciau poblogaidd y Brifysgol.
-
29 Mehefin 2020Galw i ailgysylltu afonydd Ewrop wrth i filiwn o rwystrau gael eu darganfod
Mae ymchwil newydd wedi dangos bod afonydd Ewrop ymysg y mwyaf rhanedig yn y byd, gyda hyd at filiwn o rwystrau i'w llif, ac mae bellach yn hollbwysig cymryd camau ar frys i'w hailgysylltu er mwyn sicrhau iechyd hirdymor yr afonydd hyn a'u cynefinoedd cyfagos.
-
26 Mehefin 2020Prosiect sy'n helpu staff iechyd i gyfathrebu wrth ddefnyddio masgiau wyneb yn cipio gwobr arloesi
Mae Canolfan Technoleg Gofal Iechyd Prifysgol Abertawe wedi chwarae rôl allweddol wrth ddatblygu adnodd cymorth cyfathrebu ar gyfer staff iechyd ar y rheng flaen sy'n gorfod gwisgo masgiau wyneb yn ystod y pandemig.
-
26 Mehefin 2020Prosiect CSconnected yn cael cyllid gan lywodraeth y DU
Mae Llywodraeth y DU wedi cyhoeddi bod prosiect mawr gwerth £43.74m ar y cyd â chlwstwr lled-ddargludyddion cyfansawdd De Cymru wedi cael ei gymeradwyo ymysg y cyllid cyntaf i'w ddyrannu drwy gronfa flaenllaw Strength in Places y corff Ymchwil ac Arloesi yn y DU (UKRI). Bydd cyllid gwerth £25.44m o gronfa Strength in Places (SIPF) yn ategu'r prosiect.
-
25 Mehefin 2020Ffurfiwyd gan Ddur – cynhadledd Twitter gyntaf ar agor i bawb
‘Ffurfiwyd gan Ddur’ yw’r gynhadledd Twitter gyntaf erioed i gael ei chynnal gan Brifysgol Abertawe. Wrth i gynadleddau ‘wyneb yn wyneb’ mwy traddodiadol gael eu canslo oherwydd pandemig COVID-19 mae tîm prosiect ymchwil ‘Byd Cymdeithasol Dur’ yr Adran Hanes yn defnyddio Twitter fel ffordd arall o rannu ymchwil ac ymarfer treftadaeth i gynulleidfa wahanol y Twittersffêr.
-
25 Mehefin 2020Ymchwilwyr yn darganfod dull newydd o drin dŵr sy'n ecogyfeillgar
Mae ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe wedi datblygu dull newydd o gael gwared ar gemegion gwenwynig o ddŵr.
-
24 Mehefin 2020Proses unigol arloesol a allai helpu i ddiogelu ansawdd dŵr, yr amgylchedd ac iechyd
Mae tîm ymchwil ym Mhrifysgol Abertawe wedi datblygu dull newydd ar gyfer canfod llygryddion sy'n deillio o gynhyrchion fferyllol cyffredin fel paracetamol, ibuprofen ac asbrin, a chael gwared arnynt yn gyflym, a allai leihau eu heffaith ar yr amgylchedd.
-
18 Mehefin 2020Hanesydd yn datgelu rôl allweddol Prifysgol Abertawe yn ystod yr ail ryfel byd ac yn ei sgil mewn llyfr newydd
Daw hanes Prifysgol Abertawe o dan y chwyddwydr mewn llyfr newydd a gyhoeddwyd i nodi canmlwyddiant y brifysgol yn 2020.
-
18 Mehefin 2020Athro yn y Brifysgol yn cael ei anrhydeddu am ei gyfraniad eithriadol at arloesedd a gwyddoniaeth
Mae'r Athro Dave Worsley o Brifysgol Abertawe wedi ennill Gwobr Dewi Sant am ei gyfraniad at Arloesedd, Gwyddoniaeth a Thechnoleg.
-
18 Mehefin 2020Grant cymunedol gan y Brifysgol yn cefnogi elusen i'r digartref
Mae Prifysgol Abertawe wedi rhoi grant cymunedol gwerth £250 i'r elusen i'r digartref Llamau.
-
17 Mehefin 2020Un o fyfyrwyr Abertawe'n helpu i sicrhau bod staff ysbyty'n dal i gael eu diogelu
Mae un o fyfyrwyr Prifysgol Abertawe'n chwarae rôl allweddol wrth reoli'r cyflenwad o gyfarpar diogelu personol yn un o'r ysbytai sydd wedi dioddef fwyaf o ganlyniad i'r pandemig.
-
16 Mehefin 2020Ymchwilwyr o Brifysgol Abertawe'n derbyn yr her o godi arian am ganser
Mae ymchwilwyr i ganser o Brifysgol Abertawe wedi herio eu hunain i feicio am fwy na 4,500km ym mis Mehefin er mwyn codi arian am yr elusen Gofal Canser Tenovus.
-
16 Mehefin 2020Academi Hywel Teifi yn cyfrannu at raglen Tafwyl Digidol
Mae partneriaeth Academi Hywel Teifi a Tafwyl yn parhau unwaith eto eleni wrth i’r ŵyl boblogaidd symud ar-lein yn sgil pandemig coronafeirws.
-
12 Mehefin 2020Gwersi Saesneg am ddim yn parhau ar-lein yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae'r gwersi Saesneg am ddim i ddechreuwyr a gynigir gan Brifysgol Abertawe yn dal i ffynnu er gwaethaf y cyfyngiadau symud.
-
10 Mehefin 2020Cymerwch ran mewn prosiect newydd i lywio cymorth iechyd meddwl a lles yng Nghymru ar ôl Covid-19
Mae'r ymchwilwyr sy'n gyfrifol am astudiaeth newydd fawr sy'n nodi sut y mae pobl Cymru wedi ymdopi â'r argyfwng coronafeirws yn apelio am wirfoddolwyr i rannu eu profiadau.
-
10 Mehefin 2020Gwella o coronafeirws: gall peiriant anadlu newydd achub bywydau a chreu swyddi
Mae tîm o feddygon a pheirianwyr o Abertawe wedi dylunio peiriant anadlu newydd y gellir ei adeiladu'n gyflym o gydrannau lleol ac – yn hollbwysig – y gall hyd yn oed cleifion sy'n dioddef yn ddifrifol o coronafeirws ei ddefnyddio. Hyd yn hyn, mae’r naill beth neu'r llall wedi bod yn wir am beiriannau anadlu, nid y ddau.
-
10 Mehefin 2020Myfyrwraig PhD yn ennill rownd derfynol cystadleuaeth 3MT Prifysgol Abertawe
Mae myfyrwraig PhD o Brifysgol Abertawe wedi ennill rownd derfynol Thesis Tair Munud (3MT) Prifysgol Abertawe.
-
9 Mehefin 2020Abertawe'n dringo'n uwch nag erioed yn nhablau'r Complete University Guide
Mae Prifysgol Abertawe’n rhannu’r 32ain safle yn Nhablau Cynghrair 2021 y Complete University Guide – ei safle uchaf erioed.
-
5 Mehefin 2020Achrediad cyflog byw go iawn i Brifysgol Abertawe
Mae Prifysgol Abertawe wedi cael ei hachredu fel cyflogwr cyflog byw go iawn gan y Sefydliad Cyflog Byw (LWF).
-
4 Mehefin 2020Myfyriwr o Brifysgol Abertawe yn cael ei choroni’n bencampwr FameLab
Mae Rebecca Ellis, myfyriwr ym Mhrifysgol Abertawe, wedi ennill FameLab UK - cystadleuaeth gyfathrebu fwyaf blaenllaw'r byd ym maes gwyddoniaeth.
-
1 Mehefin 2020Discovery: Newid bywydau ers mwy na 50 mlynedd
Fel rhan o Wythnos Gwirfoddolwyr ledled y DU (1-7 Mehefin), rydym yn bwrw golwg dros y ffordd y mae Discovery yn parhau i helpu i newid bywydau yn Ne Cymru ac ym mhedwar ban byd.
-
29 Mai 2020Adnoddau gwyddoniaeth ar-lein yn cadw plant yn dysgu yn ystod y cyfyngiadau symud
Mae gwyddonwyr ac academyddion allgymorth o Brifysgol Abertawe wedi bod yn gweithio'n galed yn eu ceginau a'u gerddi i lunio gweithdai a gwersi gwyddoniaeth a chynnwys ar gyfer clwb gwyddoniaeth ar-lein, er mwyn rhoi'r cymorth a'r adnoddau y mae eu hangen ar fyfyrwyr ysgol i barhau i ddysgu am wyddoniaeth gartref, yn ystod y cyfyngiadau symud.
-
29 Mai 2020Ymchwilwyr yn datblygu dull newydd o fapio metaboledd colesterol yn yr ymennydd
Mae tîm o ymchwilwyr dan arweiniad Prifysgol Abertawe wedi datblygu technoleg newydd i fonitro colesterol ym meinwe'r ymennydd a allai ddatgelu ei berthynas â chlefydau niwroddirywiol a chreu cyfle i ddatblygu triniaethau newydd.
-
27 Mai 2020Prifysgol Abertawe yn cyhoeddi ei bwriad i fod ar agor i addysgu ar ddechrau'r flwyddyn academaidd newydd
Mae Prifysgol Abertawe wedi cyhoeddi ei bwriad i agor ac addysgu ar-lein ac wyneb yn wyneb ar ddechrau’r flwyddyn academaidd newydd ym mis Medi 2020.
-
27 Mai 2020Pennaeth Ysgol Feddygol - aelod annibynnol newydd o fwrdd iechyd lleol
Penodwyd yr Athro Keith Lloyd, pennaeth Ysgol Feddygol Prifysgol Abertawe, yn Aelod Annibynnol o Fwrdd Iechyd Prifysgol Bae Abertawe (SBUHB).
-
26 Mai 2020Mynychder feirysau: astudiaeth o gimychiaid yn taflu goleuni ar glefydau
Mae'n ymddangos bod lefelau heintio â feirws ymysg cimychiaid yn gysylltiedig â chynefinoedd a rhywogaethau eraill, yn ôl dwy astudiaeth newydd o ardaloedd morol gwarchodedig yn y Caribî.
-
22 Mai 2020Testun a Threfedigaeth: Cymru a De Asia - sesiwn drafod ddigidol
Mae’r Athro Daniel G. Williams o Adran Saesneg Prifysgol Abertawe a Chyfarwyddwr Canolfan Astudiaethau Cymreig Richard Burton, wedi cadeirio sesiwn drafod ddigidol ar y cysylltiadau rhwng De Asia a Chymru. Roedd dros 150 o gynrychiolwyr o bob rhan o’r byd yn mynychu trwy ‘zoom’.
-
22 Mai 2020Llwyddiant dwbl i Brifysgol Abertawe o ran rownd derfynol FameLab
Bydd naw o'r lleisiau newydd gorau ym maes gwyddoniaeth o bob rhan o'r wlad, gan gynnwys dau o Brifysgol Abertawe, yn brwydro i gynrychioli'r DU yn FameLab – cystadleuaeth gyfathrebu fwyaf blaenllaw'r byd ym maes gwyddoniaeth.
-
21 Mai 2020Ymchwil ar y cyd â Phrifysgol Tasmania i newid yn yr hinsawdd yn Antarctica
Mae ymchwil i effaith newid yn yr hinsawdd yn Antarctica wedi cael ei hybu gan ddyfarniad gwerth $20 miliwn (£10 miliwn) gan lywodraeth Awstralia ar gyfer gwaith a arweinir gan Brifysgol Tasmania mewn partneriaeth â rhewlifegwyr o Brifysgol Abertawe.
-
21 Mai 2020Astudiaeth newydd yn archwilio'r risgiau sy'n wynebu staff meddygol rheng flaen yn ystod y pandemig
Mae clinigydd blaenllaw o Brifysgol Abertawe ymysg grŵp o arbenigwyr sy'n galw am gyflwyno asesiad risg ar gyfer gweithwyr iechyd proffesiynol ar y rheng flaen sy'n trin cleifion sy'n dioddef o coronafeirws.
-
21 Mai 2020Astudiaeth yn dangos barn gymysg y cyhoedd ar apiau olrhain cysylltiadau o ran COVID-19
Mae astudiaeth gan ymchwilwyr ym Mhrifysgol Abertawe a Phrifysgol Manceinion yn awgrymu bod gwahaniaeth barn rhwng pobl ynghylch a fyddant yn defnyddio ap ar gyfer ffonau symudol i olrhain cysylltiadau o ran COVID-19, y bwriedir iddo gael ei ryddhau yn y DU yn ddiweddarach y mis hwn.
-
21 Mai 2020Yr Ysgol Feddygaeth yn penodi dau Athro er Anrhydedd mewn Fferylliaeth
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi penodi dau aelod allweddol o staff wrth iddi baratoi i lansio ei chwrs fferylliaeth newydd.
-
21 Mai 2020Academyddion Abertawe yn derbyn medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru
Mae dau academydd o Brifysgol Abertawe ymhlith enillwyr diweddaraf medalau Cymdeithas Ddysgedig Cymru, a gyhoeddwyd yng Nghyfarfod Cyffredinol y Gymdeithas ddydd Mercher, 20 Mai.
-
20 Mai 2020Arbenigwyr o Brifysgol Abertawe'n cyflwyno gweithgareddau gwyddoniaeth cyfrwng Cymraeg ar-lein fel rhan o Eisteddfod rithwir
Bydd gwyddonwyr o Brifysgol Abertawe'n cyflwyno cyfres o weithgareddau ar-lein cyfrwng Cymraeg fel rhan o ddigwyddiad amgen Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ar ei newydd wedd a gynhelir ar-lein rhwng 25 a 30 Mai.
-
18 Mai 2020Hillary Clinton yn canmol ymateb Prifysgol Abertawe i argyfwng Covid-19
Mae'r Ysgrifennydd Hillary Clinton wedi canmol staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe am eu “hymateb critigol” i bandemig Covid-19.
-
14 Mai 2020Bryan Washington yn ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe gwerth £30,000
Mae Bryan Washington, awdur 27 oed o America, wedi ennill Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe gwerth £30,000 am ei gasgliad cyntaf o straeon byrion, LOT.
-
14 Mai 2020Sector tai’n defnyddio hylif diheintio dwylo a wnaed yn y Brifysgol
Gweithwyr tai ar y rheng flaen, gwasanaethau cymorth i'r digartref a'r bobl y maent yn gofalu amdanynt, y mae llawer ohonynt yn agored i niwed, yw'r grwpiau diweddaraf i ddefnyddio hylif diheintio dwylo a wnaed ym Mhrifysgol Abertawe, lle mae labordy technoleg solar wedi newid dros dro i gynhyrchu 5,000 litr yr wythnos yn ystod argyfwng COVID-19.
-
13 Mai 2020Ysgol Feddygaeth yn sicrhau hwb mawr i ymchwil nanofeddygaeth
Mae Ysgol Feddygaeth Prifysgol Abertawe wedi sicrhau hwb ariannol o ffynhonnell uchel ei bri i gyflymu'r broses o droi darganfyddiadau ymchwil yn brosiectau datblygu ym maes nanofeddygaeth.
-
13 Mai 2020£5 miliwn ar gyfer ymchwil gofal sylfaenol a gofal brys yng Nghymru
Mae Llywodraeth Cymru am fuddsoddi £4.85 miliwn dros y pum mlynedd nesaf ar ymchwil i ofal sylfaenol a gofal brys yng Nghymru.
-
8 Mai 2020Athro i gyflwyno'r prif anerchiad mewn uwchgynhadledd ymchwil rithwir unigryw
Yr Athro Steve Conlan o Brifysgol Abertawe fydd y prif siaradwr yn uwchgynhadledd rithwir gyntaf y byd ar ymchwil canser ac imiwnoleg.
-
7 Mai 2020Prawf ar-lein arloesol a fydd yn croesawu mwy o fyfyrwyr rhyngwladol i Brifysgol Abertawe
Bydd myfyrwyr rhyngwladol sydd am astudio yn Abertawe bellach yn cael sefyll prawf iaith Saesneg hollbwysig ar-lein, gan sicrhau y gall eu ceisiadau i'r Brifysgol barhau yn ôl yr arfer.
-
7 Mai 2020Nyrs raddedig yn falch o fod yn rhan o'r GIG
Mae un o raddedigion Prifysgol Abertawe wedi dweud ei bod yn falch dros ben o fod yn rhan o'r Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) yn ystod pandemig Covid-19.
-
6 Mai 2020Y Brifysgol yn helpu pobl anabl a'u gofalwyr yn ystod y cyfyngiadau symud
Bydd pobl ifanc ac oedolion anabl yn gallu elwa ar gyngor iechyd a lles gan Brifysgol Abertawe wrth iddynt ymdopi â bywyd yn ystod y cyfyngiadau symud.
-
6 Mai 2020Stori fer wedi'i lansio ar gyfer plant ifanc yn Ne Cymru
Mae Labordy FIRE (Ymchwil ac Ymgysylltu Rhyngddisgyblaethol o ran Dŵr Croyw) ym Mhrifysgol Abertawe wedi helpu i lansio ffilm fer wedi'i hanimeiddio ar gyfer plant ifanc yn Ne Cymru a'r tu hwnt.
-
6 Mai 2020Astudiaeth newydd i nodi'r ffactorau risg mwyaf ar gyfer COVID-19
Mae gwyddonwyr o bob rhan o'r DU, gan gynnwys Prifysgol Abertawe, yn galw ar y cyhoedd i gymryd rhan mewn astudiaeth newydd a fydd yn helpu i adnabod pwy sy'n wynebu'r perygl mwyaf o ddal COVID-19 a pham mae rhai pobl yn dioddef yn waeth nag eraill.
-
1 Mai 2020Academyddion yn helpu i roi cipolwg rhithwir i ddisgyblion ar fywyd yn y Brifysgol
Mae academyddion o Brifysgol Abertawe ymhlith arbenigwyr blaenllaw'r byd sy'n rhannu eu gwybodaeth er mwyn helpu disgyblion chweched dosbarth i astudio yn ystod cyfnod y cyfyngiadau symud.
-
1 Mai 2020Ymchwil i’r cyfyngiadau symud: a fydd buddion byrdymor yn arwain at fuddion hirdymor?
Mae ymchwil newydd gan Brifysgol Abertawe'n awgrymu y gallai cyfyngiadau symud byr, dwys i wastatáu cromlin epidemig COVID-19 arwain at fwy o farwolaethau – ac y gellid lleihau cyfanswm cyffredinol yr achosion drwy gyflwyno amrywiaeth o fesurau dros gyfnod hir.
-
1 Mai 2020Myfyrwyr nyrsio’n dweud eu bod yn barod i helpu yn ystod y pandemig
Myfyrwyr nyrsio Abertawe yn dweud eu bod yn falch o allu wynebu’r her o ymuno â’r GIG yn ystod y pandemig.