(O'r chwith i'r dde) Dr Meg Gundlach, Rheolwr Mynediad at Gasgliadau, Dr Kenneth Griffin, Curadur, a Sam Powell, gwirfoddolwr a Chyfarwyddwr Abaset, yn sefydlu cast plaster sylfaen y cerflun o Djedhor. Cafodd y sylfaen a'r cerflun eu hailuno'r llynedd am y tro cyntaf mewn dros 50 mlynedd.

Cyfle prin i Ganolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe astudio a rhoi lle i arteffactau sy'n dyddio'n ôl 6000 o flynyddoedd.

Wedi treulio'r rhan fwyaf o'u bodolaeth mewn casgliadau preifat, mae dros 800 o greiriau Eifftaidd wedi cyrraedd Canolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe, gyda 30 ohonyn nhw yn cael eu harddangos i'r cyhoedd, a bydd pob un o'r arteffactau yn cael eu hastudio'n fanwl am y tro cyntaf, gan ddatgelu manylion oedd gynt ar goll mewn hanes.

Wrth i Eifftolegwyr Abertawe gychwyn ar y gwaith o ddatguddio cyfrinachau'r creiriau hyn, bydd y cyhoedd hefyd yn gallu cael mynediad i'r arteffactau sy'n adrodd straeon am sut y bu i hen wareiddiad ymdrechu i gael ei gofio.

Mae'r casgliad o arteffactau, o'r enw Peri i'w Henwau Fyw, yn amrywio o ddarnau o eirch, hen arysgrifau testun, meini coffau a chonau angladdol (darnau o galchfaen gyda lluniau arnyn nhw sy'n dangos golygfeydd yn dathlu bywyd yr ymadawedig).

Daw'r casgliad i Gymru am y tro cyntaf ar fenthyg gan Amgueddfa Harrogate lle roedden nhw'n cael eu harddangos gyda balchder ond dim ond wedi eu harchwilio'n rhannol. Y gobaith yw y bydd benthyg y casgliad i Ganolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe - un o brif ganolfannau ymchwil Eifftoleg y DU - yn rhoi goleuni newydd ar y straeon yr oedd yr hen Eifftwyr yn gobeithio eu dweud wrthym ni.

Meddai'r Dr Ken Griffin, Curadur y Ganolfan Eifftaidd ym Mhrifysgol Abertawe: "I'r hen Eifftwyr, roedd cysyniad diwylliannol etifeddiaeth yn hynod o arwyddocaol. Un o'r pethau pwysicaf iddyn nhw fel diwylliant oedd y byddai eu henwau'n cael eu cofio ac mae'r casgliad newydd hwn yn darlunio'r camau a gymerwyd ganddyn nhw i sicrhau y byddai'r dymuniad hwn yn troi'n realiti.

"Uchafbwynt y casgliad hwn yw cerflun eisteddog o Senetre, merch Nebamun. Cafodd ei henw ei arysgrifio ar y sedd garreg fawreddog, gan ddangos dymuniad ei thad y byddai ei henw hi'n goroesi pob un ohonyn nhw ar ôl iddi farw.

"Drwy ddarllen enwau'r unigolion sy'n cael eu cynrychioli yma, gall y cyhoedd ac ymchwilwyr fel ei gilydd wireddu dymuniadau hen wareiddiad. Edrychwn ymlaen at ddysgu rhagor am y casgliad a rhannu ein canfyddiadau gyda Chasgliad Harrogate."

Mae dadorchuddio'r casgliad yng Nghanolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe yn digwydd yn ystod blwyddyn dathlu 25 mlynedd yr amgueddfa. 

Meddai'r Athro Ryan Murphy, Deon Gweithredol Cyfadran y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: "Bydd ychwanegu Casgliad Harrogate at y Ganolfan Eifftaidd yn cryfhau ymhellach ein hymchwil i Eifftoleg, ond ar ben hynny, mae'n amlygu pwysigrwydd mynediad cyhoeddus i ddiwylliant a hanes.

"Ddylai astudio'r arteffactau hyn ddim digwydd y tu ôl i ddrysau caeedig: rydyn ni'n falch i groesawu ymwelwyr i'r Ganolfan Eifftaidd, lle byddan nhw'n gallu dysgu mwy am ein hen wareiddiadau, gan gyfoethogi ein dealltwriaeth gyffredin o'r gorffennol. Gobeithiwn y bydd dyfodiad y casgliad i'r Ganolfan Eifftaidd yn ysbrydoli rhagor o ymwelwyr, gan annog diddordeb hir-dymor mewn hanes, diwylliant, y celfyddydau ac archaeoleg."

Dysgwch ragor am ddyfodiad Casgliad Harrogate i Ganolfan Eifftaidd Prifysgol Abertawe.

Rhannu'r stori