Gallwn helpu i lenwi lleoliadau gwaith, swyddi rhan-amser a rolau i raddedigion

Rydym yn ymrwymedig i gynhyrchu graddedigion hyderus, hyblyg a chyflogadwy iawn. Felly, os ydych yn chwilio am rywun i lenwi lleoliad gwaith, rôl ran-amser neu os hoffech gynnig cyfle i fyfyriwr graddedig, gallwn eich helpu i ddod o hyd i'r ymgeisydd perffaith o'n cronfa ddoniau o dros 20,000 o fyfyrwyr.

Bydd ein tîm ymroddedig yn gweithio gyda chi drwy gydol y broses recriwtio er mwyn deall eich anghenion unigol a sicrhau eich bod yn denu'r myfyrwyr a'r graddedigion gorau i'ch sefydliad.

 

Hysbysebwch eich swyddi

Gallwch hysbysebu eich swyddi gwag drwy'r Parth Cyflogaeth, ein hysbysfwrdd swyddi digidol am ddim, sy'n cael ei ddefnyddio gan ein myfyrwyr a'n graddedigion i chwilio am leoliadau gwaith, rolau rhan-amser a chyfleoedd i raddedigion.

Rhagor o Wybodaeth

Wedi cofrestru eisoes? Mewngofnodwch yma