Gyda dim ond tua 300,000 o drigolion, nid Abertawe yw'r ddinas fwyaf yr ochr hon i Bont Hafren, ond mae ganddi bersonoliaeth fawr!
O'i dechreuadau diymhongar yn y diwydiant cynhyrchu copr, mae'r ddinas borthladdol fach hon wedi ffynnu i fod yn ganolfan fywiog amlddiwylliannol, sy'n cynnig amwynderau metropolitan a thirweddau naturiol hyfryd.
P'un a ydych chi’n hoffi archwilio yn yr awyr agored, yn mwynhau ychydig o ddiwylliant, neu unrhyw beth yn y canol, mae gan Abertawe rywbeth at ddant pawb.
Does dim ots sut rydych chi’n cyrraedd, byddwch chi’n ymgartrefu'n gyflym.