Croeso i'r Gyfadran Meddygaeth, Iechyd a Gwyddor Bywyd

Drwy ddysgu, ymchwil ac arloesi rhyngddisgyblaethol a rhyngbroffesiynol, fe'n dyfernir yn gyson yn un o'r darparwyr gorau yn y DU o ran addysg i weithwyr proffesiynol y gwyddorau iechyd a bywyd, a byddwn ni'n cynnal ein henw da rhyngwladol am ymchwil, addysgu ac arloesi ardderchog sy'n cyflawni gwelliannau go-iawn o ran iechyd, lles a'r economi yng Nghymru ac yn y byd.

Rydym yn gwneud gwahaniaeth i fywydau pobl ar draws y byd, gyda'n hymchwil arloesol a thrwy ein gwaith gyda'r GIG, Gwasanaethau Cymdeithasol a'r sector preifat.

Mae ein cymuned o fyfyrwyr, ymchwilwyr a phartneriaid yn defnyddio ac yn elwa o arbenigedd ein hymchwilwyr ac addysgwyr rhyngwladol, gan adeiladu ar ein heffaith ymchwil rhagorol yn y byd go iawn.

Archwiliwch eich opsiynau cwrs

Rydym yn cynnig amrywiaeth o gyrsiau meddygaeth, gofal iechyd a seicoleg, cymerwch olwg ar ein canllawiau cyflym i ddod o hyd i'r cwrs gorau i chi. Os ydych chi am ymuno a ni, pam nad ydych chi’n ymuno a’n Diwrnod Agored Israddedig nesaf ac archwilio’r opsiynau cwrs sydd ar gael i chi. Heb os, diwrnod agored yw’r ffordd orau i ddod i’n hadnabod ni; cael profiad o’n campws ar y traeth, cwrdd â’r tîm dysgu, a siarad â’n myfyrwyr presennol.

Archebwch nawr - Diwrnodau Agored

Archwiliwch Ein Hymchwil

Mae gennym dros 25 mlynedd o brofiad o yrru ymchwil i wella iechyd, lles a chyfoeth. Rydym yn cymryd mewnwelediadau o erchwyn y gwely i'r fainc ac yn ôl eto, gan arwain at effaith byd go iawn a chanlyniadau gwell i gleifion. Mae safon ein hymchwil unwaith eto wedi cael ei chydnabod yn REF2021, gyda 85% o ymchwil y gyfadran yn cael ei hadnabod i arwain y ffordd yn fyd-eang neu’n rhagorol yn rhyngwladol (REF2021).