Hyfforddi Bobl Proffesiynol Yfory

Rydym yn arwain y ffordd wrth hyfforddi'r genhedlaeth nesaf o weithwyr proffesiynol y GIG a Gofal Iechyd. Am bron i dri degawd rydym wedi bod ar flaen y gad wrth hyfforddi gweithlu yfory ar gyfer y GIG. P'un a ydych am ddod yn Wyddonydd Gofal Iechyd, â diddordeb mewn dod yn Feddyg, Nyrs neu Fydwraig yn Abertawe, mae dull arloesol ac ymroddiad i wella darpariaeth gofal iechyd yn ein gwneud yn fan delfrydol ar gyfer y cam cyntaf ar eich gyrfa i ddatblygu'r GIG a gofal iechyd ar gyfer ein anghenion i'r dyfodol.

Wyddoch chi?

Oeddech chi'n gwybod bod ystod o'n Cyrsiau Gofal Iechyd yn cael eu hariannu'n llawn gan Gynllun Bwrsariaeth y GIG.

Diwrnod Agored Gyrfaoedd Gofal Iechyd

Mae ein Diwrnod Agored Gyrfaoedd Gofal Iechyd wedi'i gynllunio i roi cipolwg dyfnach i chi ar astudio Meddygaeth a Gofal Iechyd yn y brifysgol. Yn ogystal â phopeth y byddech chi'n ei ddisgwyl o Ddiwrnod Agored traddodiadol, gan gynnwys teithiau o amgylch y campws a llety, cewch gyfle i archwilio'r proffesiwn o'ch dewis yn fwy manwl.

Bydd y diwrnod yn cynnwys sgyrsiau pwnc-benodol, gwybodaeth am ein rhaglenni a ariennir gan y GIG, ac arweiniad ar ein graddau israddedig Llwybrau i Feddygaeth.

Arwyddwch i fyny
Llawdriniaeth.

Ffordd Amgen i Ddod yn Feddyg

Os oes gennych ddiddordeb mewn bod yn Feddyg ac astudio Meddygaeth yn Abertawe, gallai ein cyrsiau Llwybrau at Feddygaeth fod yr opsiwn i chi. Bydd ein Llwybrau at Feddygaeth yn rhoi cyfweliad gwarantedig i fyfyrwyr sy'n bodloni'r gofynion mynediad sylfaenol ar gyfer ein rhaglen Meddygaeth Mynediad i Raddedigion i astudio ein rhaglen Meddygaeth a dod yn Feddyg.

P'un a ydych am fod ag angerdd am wyddor bywyd yr hoffech ei ddilyn, nad oes gennych y cymysgedd cywir o Lefelau A, neu nad ydych wedi llwyddo i gael cyfweliad ar gyfer Meddygaeth israddedig, efallai mai ein Llwybrau at Feddygaeth yw'r cwrs iawn i chi.

Archwiliwch ein Llwybrau at Feddygaeth

Cyrsiau wedi'u hariannu'n llawn

Dau berson yn archwilio model torso anatomegol

Mae Ymarferwyr Gwyddor Gofal Iechyd yn cyflawni rôl hanfodol wrth atal, diagnosio a thrin nifer enfawr o gyflyrau meddygol, gan gydweithio â meddygon, nyrsys a gweithwyr iechyd proffesiynol eraill. Os ydych chi'n frwdfrydig iawn am wyddoniaeth a thechnoleg, ac yn ffynnu pan fyddwch yn helpu pobl eraill, gallai ein Graddau Gwyddorau Gofal Iechyd a ariennir gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru fod yn ddelfrydol i chi.

Graddau sydd ar gael:

Myfyrwyr yn ymarfer monitro'r ffetws ar fanecîn hyfforddi mamolaeth

Os oes gennych chi ddiddordeb mewn bod yn Fydwraig, mae ein cwrs Bydwreigiaeth wedi'i ariannu gan Gynllun Bwrsariaethau GIG Cymru. Bydd ein gradd mewn Bydwreigiaeth yn eich arfogi chi â'r wybodaeth, y sgiliau a'r ddealltwriaeth i gefnogi mamau yn ystod beichiogrwydd, genedigaeth a phan fydd eu baban newydd yn cyrraedd. Mae gan ein cwrs enw da rhyngwladol ac mae yn y 13eg lle yn y rhestr o gyrsiau gorau’r DU.

Tudalen y cwrs:

Myfyrwyr nyrsio yn adolygu cofnodion meddyginiaeth mewn ward sgiliau clinigol

Mae nyrsio yn broffesiwn i bobl sy'n frwdfrydig am helpu a chefnogi eraill pan fydd ei angen arnynt. Os oes gennych ddiddordeb mewn ymuno â'r Genhedlaeth nesaf o Nyrsys GIG Cymru, mae ein Graddau Nyrsio wedi'u hariannu gan GIG Cymru. 

Cyrsiau sydd ar gael:

Mae person yn tywallt diod boeth mewn cegin tra bod gweithiwr gofal iechyd yn cynorthwyo

Mae Therapyddion Galwedigaethol yn grymuso pobl i ddatblygu, cynnal neu wella ystod amrywiol o weithgareddau sy'n berthnasol ac yn ystyrlon yn eu bywydau bob dydd, o hunanofal sylfaenol gartref i weithgareddau sy'n gysylltiedig â gwaith, hobïau a mwy.

Tudalen Cwrs:

Tîm theatr lawdriniaeth yn cynnal triniaeth

Mae Ymarferwyr Adrannau Llawdriniaeth yn darparu gofal a chymorth medrus a chyfannol i gleifion ar bob cam o lawdriniaeth, o anestheteg, trwy gydol llawdriniaeth ac i adferiad. Maent yn chwarae rhan hollbwysig yng ngallu’r ysbyty i wneud llawdriniaethau gan eu bod hefyd yn gweithio fel rhan o’r tîm llawdriniaeth ac yn cysylltu’r tîm hwn â thimau ac adrannau eraill yn yr ysbyty.

Tudalen Cwrs

Ariannu eich gyrfa yn y GIG

Mae amrywiaeth o gyfleoedd ariannu os byddwch yn dewis astudio tuag at yrfa o fewn y GIG:

Eich Cyfweliad

Rydym yn cyfweld ag ymgeiswyr ar gyfer llawer o'n cyrsiau, gan gynnwys Nyrsio, Gwyddorau Gofal Iechyd, Fferylliaeth a Gwaith Cymdeithasol.

Rydym wedi creu canllaw 'tips cyfweliad' i roi gwybod i chi beth i'w ddisgwyl o'ch cyfweliad, a sut y gallwch baratoi'n well.

Awgrymiadau Cyfweliad

Gwybodaeth ddefnyddiol arall