Pam astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe?

Enillwch y sgiliau a'r profiad i lansio gyrfa werth chweil a gwerthfawr fel bydwraig gyda'n cwrs gradd Bydwreigiaeth o fri, a gydnabyddir yn rhyngwladol.

Mae gennym enw da rhagorol am Fydwreigiaeth ac rydym yn 9fed yn y DU (Canllaw Prifysgol Guardian 2022). Mae rhagolygon swydd yn rhagorol, gyda 100 y cant o'n graddedigion Bydwreigiaeth yn cael eu cyflogi mewn swydd broffesiynol neu reoli o fewn chwe mis (DLHE 2018).

Gwerthfawrogir ein cymhwyster Bydwreigiaeth yn rhyngwladol, gan roi'r potensial i chi ddatblygu eich gyrfa dramor mewn gwledydd gan gynnwys Awstralia, Canada a Seland Newydd.

Wedi defnyddio eich holl ddewisiadau UCAS?

Nid yw'n rhy hwyr i wneud cais trwy UCAS Extra. Ewch i'n canllaw UCAS Extra i ddarganfod sut mae Extra yn gweithio ac a allech chi fod yn gymwys i gael cyfle arall i wneud cais i'ch cwrs delfrydol.

Canllaw UCAS Extra

Ein Straeon myfyrwyr

Tirion Thomas
Llun Tirion Thomas

"Mae’n gwrs dwys gyda hanner y cwrs yn cael ei addysgu yn y brifysgol a'r hanner arall mewn lleoliadau ymarfer, gan weithio gyda bydwragedd mewn timau cymunedol, canolfannau geni a arweinir gan fydwreigiaeth ac unedau mamolaeth mewn ysbytai. Mae’r cwrs wedi gallu rhoi'r cydbwysedd i mi barhau mewn addysg yn ogystal â chael blas ar y byd gwaith go iawn. Er yn gwrs anodd dwi’n gwybod fy mod i ar y radd gywir ac rwy’n mwynhau pob eiliad wrth ddod a llawenydd newydd mewn i'r byd bob dydd yn ogystal â chefnogi mamau a’u teuluoedd trwy rhai o amserau anoddaf eu bywydau."

Darganfod mwy am stori myfyriwr Tirion

Angharad Grimwood

100% Cyflogadwyedd i Fydwreigiaeth Graddedig

Yn ôl ein data graddedigion diweddaraf, mae 100% o’n graddedigion Bydwreigiaeth mewn cyflogaeth, astudiaeth bellach neu’n teithio 15 mis ar ôl gadael Prifysgol Abertawe (HESA2022). Rydym yn cynnig cyfleoedd dysgu rhagorol, addysgu, a chefnogaeth academaidd.

Darganfyddwch bopeth sydd angen i chi ei wybod am astudio Bydwreigiaeth ym Mhrifysgol Abertawe - o ofynion mynediad i gyfleoedd lleoliad, i ragolygon graddedigion.

Graddau a Gyllidir yn Llawn

Gallai dewis i ddilyn eich brwdfrydedd am ofal iechyd dalu ar ei ganfed. Mae hamrywiaeth hwn o raddau wedi'u hariannu'n llawn drwy Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru.

Golyga hyn os byddwch chi'n ymrwymo i weithio i GIG Cymru am gyfnod ar ôl i chi raddio, bydd eich ffioedd addysgu yn cael eu talu'n llawn gan Fwrsariaeth GIG Cymru, yn ogystal â chyllid cynhaliaeth gwerth hyd at £4,491 a benthyciad gan Gyllid Myfyrwyr. 

Rhagor o wybodaeth am Gynllun Bwrsariaeth GIG Cymru

Am wybod mwy?

Mae gennym ni gymaint mwy rydyn ni eisiau ei rannu gyda chi, beth am archwilio ein tudalen cwrs Bydwreigiaeth neu archebu lle ar ein diwrnod agored nesaf.