Mae PAWS (Cymorth Ysgrifennu Academaidd Cymheiriaid) yn cynnig amser a lle i fyfyrwyr PhD a staff ar Gampws Singleton ar gyfer amser a chymorth ysgrifennu pwrpasol gan eu cymheiriaid i wella eu sgiliau ysgrifennu/annog allbwn ysgrifennu.
Rydym yn cwrdd yn Nhŵr Vivian, ystafell 813, ddwywaith yr wythnos (Dydd Llun a Dydd Gwener) o 10am i 12pm i ganolbwyntio ar ysgrifennu. Gall hyn amrywio o erthyglau, cynigion grant i benodau, ond mae hefyd yn cynnwys darllen, adolygu a golygu, ynghyd ag amlinellu darn o ysgrifennu. Gallwch weithio ar eich gliniadur, ar ddarn o bapur neu ar waith a argraffwyd, gan ddibynnu ar y dasg a'ch ffordd chi o weithio. Mae croeso i chi ymuno â ni pan fydd yn gyfleus i chi, a does dim rhaid i chi ddod am ddwy awr os mai ond un awr sydd genych yn rhydd.
Ceir rhagor o wybodaeth ar ein gwefan
Dilynwch ni ar Twitter hefyd (@SwanseaPaws) a thanysgrifio i'n rhestr e-bostio i gael y diweddaraf a negeseuon atgoffa am ddigwyddiadau.
Os oes gennych gwestiynau, gallwch e-bostio Jen Gatzemeier
Edrychwn ymlaen at gwrdd â chi a'ch croesawu i'n grŵp.