Ein rhaglen datblygu a hyfforddi

Mae ein rhaglen yn cynnwys gweithdai hyfforddi ffurfiol a gyflwynir gan arbenigwyr mewnol ac allanol, cyfleoedd ymdrochol sy'n eich galluogi  chi i ddefnyddio ac adfyfyrio ar eich sgiliau, yn ogystal ag adnoddau ar-lein y gallwch chi eu cyrchu ar alw, mor aml ag y mynnwch chi. Mae'r rhaglen wedi'i seilio ar ein fframwaith hyfforddi, sy'n cynnwys 10 thema wahanol a gynlluniwyd i gefnogi eich ymchwil a'ch datblygiad proffesiynol ar bob cam o'ch astudiaethau.

Cynlluniwyd ein fframwaith  10 thema hyfforddi i'ch helpu i ddeall ac adfyfyrio ar eich anghenion datblygu a hyfforddi a gwneud cynlluniau i gyflawni eich nodau. Mae gan bob thema weithdai, adnoddau a chyfleoedd cysylltiedig ar lefelau gwahanol. Mae’r fframwaith wedi'i lywio gan y Fframwaith Datblygu Ymchwilwyr Vitae, sef fframwaith a gydnabyddir yn rhyngwladol i ymchwilwyr sy'n amlinellu'r wybodaeth, y galluoedd, y technegau a'r sgiliau proffesiynol mae eu hangen ar gyfer gwaith ymchwil, yn ogystal â'r nodweddion, yr wybodaeth a'r sgiliau i weithio'n effeithiol gydag eraill. Mae gan fyfyrwyr Ymchwil Ôl-raddedig fynediad i adnoddau Vitae i gefnogi eu datblygiad.