Sesiynau Sydyn a Sesiynau Rhagflas
Drwy ein rhaglen Bod yn ACTIF o sesiynau sydyn a sesiynau rhagflas, cewch y cyfle i roi cynnig ar rywbeth newydd. Byddwn yn cynnal sesiynau sydyn a sesiynau rhagflas ar y campws bob wythnos, gan gwmpasu amrywiaeth o weithgareddau hwyliog, gan gynnwys;
- Pêl-foli
- Tennis byr
- Badminton
- Rownderi
- Criced Chwim
- Hunanamddiffyn
- Golff stryd
- Molkky
- Cwrlo yr oes newydd
- Boules
- Ffrisbi
- Byrddio mynydd
Ewch i dudalennau gwe Undeb y Myfyrwyr i weld y rhaglen lawn. Nid oes angen i chi drefnu lle ar sesiwn sydyn, dim ond troi i fyny a Bod yn RHAN O'R CYFAN.
Dim byd yn mynd â'ch bryd?Dywedwch wrthym beth fyddai'n eich helpu i fod yn actif a pha weithgareddau yr hoffech i ni eu cynnig drwy ddefnyddio ein ffurflen Bod yn ACTIF – Dweud eich Dweud.
Heriau Gweithgarwch
Does dim byd gwell na phennu nodau ac ymuno mewn her i'ch helpu i symud mwy.
Drwy gydol y flwyddyn, byddwn yn trefnu heriau misol i chi gymryd rhan ynddynt – gallwch hyd yn oed gystadlu yn erbyn eich ffrindiau a'ch cydweithwyr. P'un a yw'n blancio bob diwrnod, rhestr bwced y Glas neu 10,000 o gamau, byddwn yn eich gwahodd i gymryd rhan mewn heriau rheolaidd, gyda'r nod o sicrhau eich bod yn symud ac yn dychwelyd i gael mwy.
Digwyddiadau a Gwyliau
Drwy Fod yn ACTIF, byddwn yn cynnal digwyddiadau rheolaidd ar y campws, o Wythnos Hwyl y Glas i Garnifalau Chwaraeon, Diwrnodau Chwaraeon, Gwyliau Traeth a mwy. Cadwch lygad ar ein tudalennau gwe a dilynwch ni ar y cyfryngau cymdeithasol (dolenni isod) i gael y wybodaeth ddiweddaraf.