Yn asesiad 2021, cafodd 86% o ymchwil gyffredinol y Brifysgol ei hystyried o safon sy'n arwain y byd neu sy'n rhagorol yn rhyngwladol – cynnydd o 80% oddi ar yr ymarfer REF blaenorol yn 2014.

Rydym yn parhau i gael ein cydnabod am effaith ein hymchwil, sy'n gwneud gwahaniaeth real, cadarnhaol i fywydau pobl ar hyd a lled y byd. Mae 86% o’n hymchwil, a gafodd ei beirniadu gan banel o arbenigwyr REF, yn cael effaith eithriadol a sylweddol iawn o ran cyrhaeddiad ac arwyddocâd, ar lefel leol, ranbarthol a byd-eang.

Mae 91% o’n hamgylchedd ymchwil yn cael ei ystyried o safon sy’n arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol (a chynnydd o 6 pwynt % ers REF 2014). Mae hyn yn atgyfnerthu'r ffaith bod Prifysgol Abertawe yn amgylchedd rhagorol i fyfyrwyr neu academyddion gynnal ymchwil, a honno'n ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd.

Fframwaith Ymchwil Ardderchog 2021

Enghreifftiau o Astudiaethau Achos

Fframwaith Ymchwil Ardderchog 2014

Enghreifftiau o Astudiaethau Achos

TROI ADEILADAU YN ORSAFOEDD PŴER

https://www.swansea.ac.uk/cy/ymchwil/ein-huchafbwyntiau/arloesedd-dur/specific/