Gwyddonwyr, Haneswyr, Beirdd, Peiriannwyr, Arloeswyr y Dyfodol...

Rydych chi wedi darllen y cyfan am yr ymchwil addysgu arobryn a safon fyd-eang sy’n digwydd ym Mhrifysgol Abertawe, dyma gyfle i chi ddarganfod mwy am ddinas Abertawe yn ei holl ogoniant. 

O'r Mwmbwls i'r Ardal Forol, darganfyddwch ddinas llawn swyn a chymeriad. Mae'n gyflym ac yn hawdd cyrraedd lle mae angen i chi fod yn enwedig gyda'r Unibus sy'n rhedeg 24 awr yn ystod y tymor a'n Cynllun Llogi Beiciau Santander poblogaidd. Gwnewch yn siŵr eich bod chi'n edrych ar restr 10 peth gorau Undeb y Myfyrwyr i'w gwneud yn Abertawe i gael y cyflwyniad orau i'r ddinas.

Dinas Fach. Personoliaeth Fawr

Gyda dim ond tua 300,000 o drigolion, nid Abertawe yw'r ddinas fwyaf yng Nghymru, ond mae ganddi bersonoliaeth fawr! O'i dechreuadau diymhongar yn y diwydiant copr, mae'r ddinas borthladd fechan hon wedi ffynnu i fod yn ganolfan amlddiwylliannol fywiog sy'n cynnwys amwynderau metropolitan yng nghanol tirweddau naturiol syfrdanol. P'un a ydych yn hoffi crwydro'r awyr agored, mwynhau ychydig o ddiwylliant, neu unrhyw beth yn y canol, mae gan Abertawe rywbeth bach at ddant pawb.

Tri myfyriwr yn cerdded ym Mharc Singleton

Gallen ni ddweud wrthych chi fod Abertawe yn deimlad…

Ond fyddech chi ddim yn deall hynny ...Nid nes eich bod chi wedi bod yma.

Darganfyddwch eich lle ym Mhrifysgol Abertawe

Pa bynnag ffordd y byddwch chi’n cyrraedd, bydd croeso cynnes yma i chi.

Antur Abertawe Elen

Mae Elen yn un o'r myfyrwyr niferus Cymraeg sydd wedi dewis astudio gyda ni. Gwrandewch ar ei phrofiad a pham y dewisodd Abertawe.

Byd Cerddoriaeth Abertawe

Mae gan Abertawe sîn gerddoriaeth egnïol sy'n parhau i dyfu. Mae gan y ddinas amrywiaeth o leoliadau ac mae'n gartref i wyliau a digwyddiadau cerddorol trwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys Dawns Haf Undeb y Myfyrwyr (yn bendant ddim yn un i'w golli!) ac mae Menter Iaith Abertawe a Tŷ Tawe yn cynnal gigs Cymraeg. Ychwanegiad mwyaf newydd Abertawe yw arena 3,500 o gapasiti yng nghanol y ddinas sy'n cynnig adloniant i bawb.

4 myfyriwr gwrywaidd yn sefyll o flaen llwyfan
5 allan o 5 seren
Mae Abertawe yn wych ar gyfer bywyd lleol! Mae wrth ymyl y traeth ac allen i ddim gofyn am fwy. Mae parciau hyfryd i gerdded drwyddyn nhw sy'n cysylltu â'r campws. Mae’r bywyd nos yn wych, digon o glybiau i fynd iddyn nhw ac yn gymharol rhad yn dibynnu i ble rydych chi'n mynd. Mae’r bysiau yn dda iawn ac yn rhedeg yn rheolaidd, maen nhw'n mynd i bobman y gallai myfyriwr fod angen ei gyrraedd

Celfyddydau a Diwylliant

Mae Abertawe'n ganolfan fywiog ar gyfer celf a diwylliant. Crwydrwch galeri'r Glynn Vivian neu ymweld â Chanolfan Celfyddydau Taliesin. Gallwch ymweld â chartref Dylan Thomas, ac ymweld â Siop Tŷ Tawe i bori drwy’r silff lyfrau am y nofelau Cymraeg diweddaraf.

Dilynwch Wayne a Robyn ar eu taith fwyd wrth iddyn nhw gael blas ar Abertawe!

perfformiad chwarae ar lwyfan

Ar y Campws

Bydd eich Undeb Myfyrwyr yn sicrhau eich bod yn cael y gorau o fywyd y campws! Ar gampws Singleton, yn JC's gallwch chi wylio gemau sgrin fawr, cymryd rhan yn y cwis dafarn wythnosol neu fentro ar lwyfan yn y noson meic agored ar nos Fawrth. Os ydych chi ar Gampws y Bae, byddwch chi’n gwylio bob gêm yn Nhafarn Tawe, a gallwch ymuno yn y cwis dafarn nos Sul a’r dewis eang o nosweithiau thema.

myfyrwyr tafarn tawe

Sgwrsio gyda'n myfyrwyr presennol

Eisiau gwybodaeth am fywyd myfyrwyr? Siaradwch ag un o'n llysgenhadon myfyrwyr cyfeillgar:

Chwaraeon a Chymdeithasau

Cymerwch ran! Dewch i gwrdd â ffrindiau newydd a rhoi cynnig ar bethau newydd gyda bron i 50 o glybiau chwaraeon a thros 150 o gymdeithasau yn cael eu cynnig gan gynnwys y Gymdeithas Gymraeg, Aelwyd yr Elyrch, Rygbi Tawe, a'r Gymdeithas Feddygol Gymraeg.

Tîm Rygbi Varsity Dynion

Anturiaethau Di-ri’

Daliwch don ar un o’r 3 traeth baner las, cwtshwch lan wrth ymyl y tân traeth clyd, neu archwiliwch fryniau a dyffrynnoedd dirifedi’r Bannau Brycheiniog. Os ydych chi'n un ar gyfer antur, mae un rownd bob cornel yn Abertawe!

Dilynwch anturiaethau ein myfyrwyr wrth iddynt arddangos eu hoff fannau awyr agored yn Abertawe yn eu blogiau a flogiau.

myfyrwyr gyda byrddau syrffio ar y traeth