Mae'n eithaf cyffredin i rai myfyrwyr newid eu meddwl pan fyddant yn y brifysgol. Efallai rydych yn teimlo eich bod wedi dewis y brifysgol neu’r cwrs anghywir, yn teimlo’n hiraethus ac eisiau bod yn agosach at eich cartref neu efallai rydych wedi cwblhau cwrs sylfaen ac eisiau trosglwyddo ar yr adeg honno; beth bynnag yw’r rheswm dros drosglwyddo i Brifysgol Abertawe, byddwn yn ystyried eich achos ac yn gwneud ein gorau i’ch helpu.

Caniateir trosglwyddiadau fel arfer os:

  1. Oes gennym ddigon o leoedd ar gael.
  2. Rydych chi'n bodloni'r gofynion mynediad ar gyfer y cwrs - gweler ein gofynion mynediad ar gyfer cyrsiau unigol
  3. Ydych chi am drosglwyddo i’r ail flwyddyn astudio, a bod cynnwys blwyddyn gyntaf y cwrs yr ydych eisoes wedi ei ddilyn yn cyd-fynd yn agos â’n cynnwys ni. (Os nad ydym ni’n gallu cynnig lle i chi yn yr ail flwyddyn, efallai y byddwn yn cynnig lle i chi i ddechrau yn y flwyddyn gyntaf).

Cysylltwch â’r Tîm Derbyn os hoffech drafod trosglwyddo i Brifysgol Abertawe, byddem wrth ein bodd yn clywed gennych chi!