Rydym ni’n cydnabod yr heriau mae unigolion a chymdeithasau yn eu hwynebu wrth weithio a byw mewn byd sydd o hyd yn newid. Mae ein hymchwil ryngddisgyblaethol, a arweinir gan academyddion arloesol sy’n defnyddio cyfleusterau sydd ar flaen y gad, yn helpu pobl i addasu i newid a gwella eu bywydau.

Wrth nodi, datblygu a chyfuno meysydd ymchwil sy’n dod i’r amlwg, rydym yn torri tir newydd ac yn creu lle i syniadau dyfu, gan ddiffinio a chyflymu meysydd ymchwil sy’n newid bywydau.

Mae ein hymchwilwyr deinamig, cefnogol ac uchelgeisiol yn gweithio ar y cyd ar draws pynciau, diwydiannau a meysydd gwahanol yn y byd academaidd i fod yn gatalydd ar gyfer newid a gweithio tuag at fynd i’r afael â Nodau Datblygu Cynaliadwy’r Cenhedloedd Unedig ar gyfer byd gwell. Rydym wedi ymrwymo i yn y rhanbarth, y DU ac yn fyd-eang ac rydym yn y deg uchaf yng Nghynghrair Prifysgol 'People and Planet'.

 

Rydym yn arloesi mewn diagnosis iechyd, gweithdrefnau a dyfarniadau

Mae ein hymchwil ym maes iechyd yn galluogi arloesi dyfeisiau, gwasanaethau a diagnosisau i hyrwyddo iechyd a lles da mewn cymunedau ac unigolion yn fyd-eang.

Mae ein canolfannau ymchwil o'r radd flaenaf fel y Ganolfan Nano-iechyd ac adnoddau gan gynnwys cronfa ddata SAIL yn hyrwyddo cydweithredu rhwng llywodraethau, diwydiant a'r byd academaidd i fynd i'r afael ac atal afiechydon, gwrthdroi stigma, a lleihau pwysau.

Arloesi ym maes iechyd

Rydym yn dod o hyd i ffordd i warchod y byd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol

Rydym yn cydnabod yr heriau byd-eang yr ydym i gyd yn eu hwynebu. Mae ein hymchwil yn dod o hyd i ffyrdd o warchod ac amddiffyn y byd ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

O redeg prosiect adfer morwellt mwya'r DU, i hedfan yn uchel gyda chondorau yn yr Ariannin gyda SLAM (Lab Abertawe ar gyfer Symud Anifeiliaid), a chreu adeiladau sy'n harneisio ac yn storio ei egni ei hun. Rydym yn gweithio i frwydro yn erbyn effeithiau'r argyfwng hinsawdd ar gyfer y dyfodol.

Dyfodol Cynaliadwy, Ynni a'r Amgylchedd

Rydyn ni'n dod â phobl ynghyd, yn cadw hanes, ac yn dylanwadu ar bolisi

Rydyn ni'n gweithio gyda chymunedau lleol a byd-eang i warchod hanes, dylanwadu ar bolisi ac annog diwylliannau agored a meithrin.

Mae ein canolfannau ymchwil fel Canolfan y Celfyddydau a'r Dyniaethau Digidol a'r Ganolfan Ymchwil Iaith yn ein galluogi i ddeall y gorffennol i ddylanwadu ar y dyfodol. Maent yn ein galluogi i gyflawni ein huchelgais i greu byd cyfartal, diogel a chynaliadwy trwy ddeall a chydweithio.

Diwylliant, Cyfathrebu a Threftadaeth

Rydym yn gwneud gwahaniaeth i gymdeithas, diogelu pobl, a sicrhau cydraddoldeb

Rydym yn deall gwerth amrywiaeth ar draws gweithluoedd, cymunedau a bywyd. Ein cred yw y dylid cael cydraddoldeb a chyfiawnder i bawb.

Trwy ein canolfannau ymchwil rydym wedi gallu dylanwadu ar bolisïau, wynebu heriau cyfoes, a gwneud gwahaniaeth i gymdeithasau ar draws y byd go iawn a digidol.

Cyfiawnder a Chydraddoldeb

Rydyn ni'n rhoi pobl wrth wraidd gwelliannau digidol

Mae ein hymchwil yn gosod pobl wrth wraidd gwelliannau technolegol. Rydyn ni’n creu amgylcheddau digidol mwy diogel sy’n integreiddio ac yn gwella ffyrdd o fyw bodau dynol.

Gan weithio’n rhyngwladol ac yn rhai o’n canolfannau ymchwil arloesol megis Canolfan Ymchwil i Farchnadoedd Newydd (EMaRC), Canolfan Nanoiechyd, a CHERISH-DE, mae ein hacademyddion yn gosod bodau dynol wrth wraidd ein hymchwil, ein hallbynnau, a’n hargymhellion ar gyfer dyfodol mwy cynhwysol a mwy diogel.

Dyfodol Digidol

Rydym yn helpu diwydiant i fod yn fwy cynaliadwy

Gan weithio gyda phartneriaid ac arbenigwyr yn eu maes, gall ein hymchwilwyr symleiddio a gwella cynhyrchiant i leihau gwastraff a lleihau gwariant o fewn gweithgynhyrchu.

Yn gartref i Ganolfan Peirianneg Gyfrifiadurol Zienkiewicz a chyfleusterau o'r radd flaenaf fel labordy Peirianneg Arfordirol, ffliw tonnau 30m, a thwnnel gwynt, rydym wedi buddsoddi miliynau o bunnoedd i gynnal ymchwil ystyrlon i aerodynameg arbrofol, dynameg hylif cyfrifiadol, a mwy.

Gweithgynhyrchu Clyfar

Rydym yn creu arloesedd mewn dur a'r broses creu dur

Mae ein hymchwil i ddur wedi arwain at ddatblygu dur ysgafnach, gwyrddach, doethach a phroses gynhyrchu lanach, gan helpu i frwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd.

Mae ein campws gwerth miliynau o bunnoedd, sy'n gartref i brosiectau fel SPECIFIC, ac yn agos at bartneriaid y diwydiant Tata Steel, wedi ein galluogi i weithio ar draws disgyblaethau i greu a datblygu atebion posibl i'r argyfwng hinsawdd.

 

Arloesedd Dur