Mae gweithgynhyrchu yn ganolog i'n heconomi. Mae iechyd ein planed a phobl yn y dyfodol yn dibynnu ar ddatblygu a chreu dulliau mwy effeithlon a mwy cynhyrchiol o weithgynhyrchu gan wneud hynny mewn ffordd gynaliadwy.

  • Yn Abertawe, rydym yn arbenigo mewn gwyddor deunyddiau, modelu cyfrifiadurol a systemau gweithgynhyrchu, ac rydym yn gweithio gyda chwmnïau blaenllaw gan gynnwys Airbus, Rolls Royce, GKN, Aston Martin, Ferrari a BASF.
  • Datblygwyd y system ddylunio aerodynameg gyfrifiadurol FLITE, sydd wedi bod o fudd economaidd sylweddol i'r diwydiant awyrofod, ac a arweiniodd at ein rhan ni yn y broses o greu car supersonig cyntaf y byd.
  • Yn ein canolfan ymchwil Gwyddor Deunyddiau, rydym wedi datblygu cynhyrchion metel haenedig newydd, a ddefnyddir ym maes adeiladu sydd â gwarantau gwrth-gyrydu 40 mlynedd. Mae'r technegau newydd hyn bellach yn cael eu gwerthu'n fasnachol gan Brifysgol Abertawe gyda chwsmeriaid yn cynnwys General Electric, Tata, a Tokyo Electric Power.
  • Mae Prifysgol Abertawe yn arwain gwaith ASTUTE 2020 gwerth £22.7 miliwn sy'n gweithio ar draws Cymru i alluogi prosiectau cydweithio o dan arweiniad y diwydiant. Bydd ei Ffatri'r Dyfodol newydd, sy'n cael ei chynnig fel rhan o fargen Dinas-Ranbarth Bae Abertawe, yn creu arddangoswyr ar raddfa ddiwydiannol er mwyn arddangos technoleg glyfar mewn gweithgynhyrchu i'w defnyddio gan y diwydiant yn y dyfodol.

Sut mae ein hymchwil yn ysgogi newid

Y Cyfadrannau

Dysgwch fwy am y gwaith ymchwil sy'n cael ei wneud ym mhob un o'r cyfadrannau sy'n ymwneud â Chyfiawnder a Chydraddoldeb

Cysylltwch â ni am Ymchwil

Rydym yn gweithio gydag amrywiaeth o bobl a sefydliadau i gynnal ymchwil ar y cyd, i wireddu syniadau, i wella cynnyrch, ac i helpu i newid y byd.

01792 606060 

Cysylltwch â ni i gael gwybod sut y gallwn ni weithio gyda chi.

Dysgwch fwy