Sefydlwyd y Brifysgol i helpu i ddiwallu anghenion diwydiant mewn ardal sy'n enwog am ei harbenigedd mewn metelau. Mae Prifysgol Abertawe a'i phartneriaid wedi chwarae rhan hanfodol dros yr 20 mlynedd diwethaf yn y gwaith o gefnogi'r diwydiant dur yn ne Cymru.
Mae ymchwilwyr yn Abertawe o'r farn bod dur yn ddiwydiant ar gyfer yr 21ain ganrif, sy'n hanfodol ar gyfer llawer o dechnolegau'r dyfodol, ac maent yn defnyddio dur i ddatblygu technolegau'r dyfodol, o geir ysgafnach i adeiladau gwyrddach.