Tata Steel

Gweithio mewn partneriaeth

Sefydlwyd Prifysgol Abertawe er mwyn diwallu anghenion y diwydiannau metel. Heddiw, mae ei gwaith o ran dur a’i chydweithredu â byd diwydiant yn bwysicach nag erioed.

A chan fod campws y Brifysgol yn y Bae yng ngolwg gweithfeydd dur Port Talbot, un o bartneriaethau cryfaf a mwyaf oesol Prifysgol Abertawe yw’r bartneriaeth gyda Tata Steel.

Trwy weithio mewn partneriaeth, mae Prifysgol Abertawe a Tata Steel wedi datblygu’r ganolfan ragoriaeth arloesedd dur gyntaf yn y DU, gan greu clwstwr ymchwil uwch-dechnoleg sy’n cysylltu’r gadwyn gyflenwi leol â phrosiectau ymchwil newydd, cyfleoedd masnachol, prosiectau a ariennir, hyfforddiant, a chydweithio a chydweithrediadau pellach.

Tata Steel

Ar y cyd, rydym yn gweithio er mwyn:

  • lleihau allyriadau carbon, cymryd carbon deuocsid a’i ddefnyddio er mwyn creu nwyddau o werth uchel er mwyn hybu economi gryfach a gwyrddach;
  • datblygu’r genhedlaeth newydd o gaenau a chladinau dur ar gyfer adeiladau y byddant yn dal, yn storio ac yn rhyddhau ynni solar – prosiect sydd wedi ennill sawl gwobr nodedig yn y diwydiant gweithgynhyrchu;
  • darparu 40 doethuriaeth mewn Peirianneg, gwella sgiliau gweithlu Tata a darparu lleoliadau ar gyfer ein myfyrwyr.

Cefnogi'r brifysgol

Cefnogi'r brifysgol

Yn y Newyddion

Dysgwch ragor am Arloesedd Dur ym Mhrifysgol Abertawe

Arloesedd Dur

Delwedd o ddur yn cael ei dorri

Dur Prifysgol Abertawe ar Flickr

21st century steel