Yn 2015 gwnaeth Prifysgol Abertawe a Tata Steel lofnodi cytundeb i weithio’n agosach er mwyn cefnogi graddedigion talentog a’u hannog i aros yn y rhanbarth a helpu i hybu economi Cymru.

Oherwydd y cytundeb sylweddol hwn, mae’r Brifysgol wedi bod yn brif ffynhonnell graddedigion i Tata Steel yn y rhanbarth, gyda myfyrwyr yn cael profiad ymarferol ym myd diwydiant a chysylltiadau â chwmnïau lleol ar gyfer cyflogaeth yn y sector yn y dyfodol.

Hefyd mae’r cytundeb wedi galluogi Tata Steel i fanteisio ar gyfleoedd ynghylch:

Lleoliadau i Fyfyrwyr

Cyngor ar Yrfaoedd a Chymorth Recriwtio

Gwelliannau i’r cwricwlwm