GALLWN EICH HELPU I DREFNU EICH DIGWYDDIAD NEU EICH CYNHADLEDD NESAF NEU I GYNNA

Ni waeth a ydych yn trefnu cynhadledd fawr neu'n cynnal arddangosfa, yn cynllunio cinio neu gyfarfod neu dderbyniad bach yng Nghymru, mae gan Brifysgol Abertawe ddewis helaeth o leoliadau cyfarfod a digwyddiad, i gyd yn daith gerdded fer o lan môr adnabyddus Abertawe.


Mae ein dewis o leoliadau cynhadledd a digwyddiad yn cynnwys ein Neuadd Fawr fawreddog sy’n werth £32 miliwn ar Gampws y Bae ac sy'n gartref i dair darlithfa fawr, amrywiaeth o fannau hyblyg â llawr gwastad ac Awditoriwm Syr Stanley Clarke sy'n cynnig 700 o seddau ynghyd ag acwsteg o safon fyd-eang a thechnoleg glyweled o'r radd flaenaf.


Mae ein pecynnau fforddiadwy i gynadleddwyr yn cynnig gwasanaethau arlwyo a chymorth digwyddiadau rhagorol gan dîm o arbenigwyr digwyddiadau proffesiynol; mae gan ein campysau amrywiaeth o gyfleusterau o fewn cyrraedd hwylus i'ch cynadleddwyr, gan gynnwys caffis a bariau, archfarchnadoedd, cyfleusterau chwaraeon a dewis o lety fforddiadwy a chyfleus ar y safle rhwng mis Gorffennaf a mis Medi.

Meeting in progress
Central Engineering
Picture of Bay