Os ydych yn gwmni rhyngwladol neu’n fenter newydd, os hoffech ddod i ffair yrfaoedd brysur neu gynnig digwyddiad pwrpasol, gallwn eich helpu i lunio doniau'r dyfodol ar gyfer eich diwydiant.
Dewch i'n ffair yrfaoedd
Dewch i'n Ffair Yrfaoedd flynyddol yn yr hydref i gwrdd â'ch darpar aelodau staff graddedig nesaf. Mae ein Ffair Yrfaoedd, a gynhelir dros ddau ddiwrnod ac ar ddau gampws, yn denu mwy na 2000 o fyfyrwyr o bob un o'n meysydd pwnc.
Ar gyfer blwyddyn academaidd 2022/2023, cynhelir ein Ffair Yrfaoedd ar y dyddiadau canlynol:
Dydd Mawrth 25 Hydref - Campws Parc Singleton*
Dydd Mercher 26 Hydref - Campws y Bae*
Ewch i'n tudalen we Ffair Yrfaoedd i gael rhagor o wybodaeth.
Os oes gennych ddiddordeb mewn arddangos neu os oes gennych unrhyw gwestiynau, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â'n tîm cyflogadwyCyflwynwch i'n myfyrwyr
Gallwn drefnu digwyddiad sy'n rhoi sylw ar y cyflogwr, wedi'i deilwra i'ch anghenion, a fydd yn datblygu dealltwriaeth myfyriwr o'ch sector ac yn hyrwyddo'ch busnes.
Os hoffech fwy o wybodaeth neu i drafod sut y gallwch ymgysylltu â'n myfyrwyr a'n graddedigion dawnus, cysylltwch â ni.
Cysylltwch â'n tîm cyflogadwye