Dyn ar feic Santander Prifysgol Abertawe

Rydym wedi datblygu partneriaethau hirdymor gyda sefydliadau amrywiol dros y blynyddoedd i gyflwyno digwyddiadau mawr, rheoli cyfleusterau, neu lansio mentrau cymunedol i enwi dim ond rhai.

Gallwn bartneru â’ch sefydliad ar brosiectau ar raddfa fawr neu gynnig gwasanaeth ymgynghori pwrpasol ar gyfer eich sefydliad.

Ffurfiwch bartneriaeth gyda ni

Y criw o bobl a oedd wedi cyflawni'r bartneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a'r Gweilch

Hyd yma rydym wedi cefnogi mentrau mawr yn llwyddiannus gan gynnwys:

  • datblygu cyfleuster hyfforddi Fairwood Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe (Clwb Pêl-droed Dinas Abertawe)
  • cyflwyno Pencampwriaethau Athletau Ewropeaidd yr IPC (IPC, Llywodraeth Cymru, Chwaraeon Cymru, Chwaraeon Anabledd Cymru, Cyngor Abertawe)
  • lansio a chyflwyno 360 Beach & Watersports (Bay Leisure Ltd, Cyngor Abertawe)
  • lansio cynllun Beicio Santander Abertawe (Nextbike, Santander, Crowdfunder, Cyngor Abertawe)

Ymgynghoriaeth wedi'i deilwra

Y beiciau Santander mewn rhes

Mae ein Gwasanaethau Masnachol yn cynnig gwasanaeth ymgynghori a gallant gefnogi eich sefydliad gyda:

  • cyflwyno digwyddiadau;
  • dadansoddiadau masnachol ac arfarniadau opsiynau;
  • partneriaethau cyhoeddus-preifat;
  • parhad busnes;
  • iechyd a diogelwch;
  • gwreiddio cynaliadwyedd