Mae ein Diwrnodau Agored yn gyfle gwych i grwydro'n campysau hardd, gallwch gwrdd â staff academaidd a chael blas ar fywyd myfyrwyr ym Mhrifysgol Abertawe. Mae ein rhaglen Diwrnod Agored hyblyg a chyffrous yn rhoi digon o gyfle i chi weld ein cyfleusterau addysgu, dewisiadau llety, cyfleusterau chwaraeon a'r ystod o wasanaethau cefnogi myfyrwyr. Mae hefyd modd i chi gael cymorth ac arweiniad ar gyllid myfyrwyr a chefnogaeth ariannol.

Ydych chi eisiau holi am fywyd myfyrwyr? Siaradwch gydag un o'n llysgenhadon myfyrwyr a fydd o gwmpas drwy gydol y dydd i ateb eich holl gwestiynau. Holwch ni hefyd am fywyd myfyriwr Cymraeg ar y campws ac am y gefnogaeth a'r clybiau a chymdeithasau Cymraeg sydd ar gael i chi.

Darllenwch ein tudalen Cwestiynau Cyffredin Diwrnodau Agored i gael gwybod popeth am ein diwrnodau agored.

Archebwch Ddiwrnod Agored

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu i'r campws ar ein Diwrnod Agored lle gallwch gwrdd â'ch darlithwyr, archwilio Abertawe a sgwrsio gyda myfyrwyr presennol.

Dydd Sadwrn 23ain Mawrth yw ein diwrnodau agored nesaf.

Cynlluniwch eich Diwrnod.

Cadwch le ar 23 Mawrth
Llysgennad myfyrwyr yn dal arwydd 'Yma i Helpu'

Digwyddiadau Yn Y Dyfodol

Ar ôl dyddiadau Gwanwyn 2024, ein digwyddiad nesfa ar y campws fydd:

  • Dydd Sadwrn yr 15fed Mehefin

Cofrestrwch eich manylion isod i gael gwybod pryd bydd modd cadw lle ar gyfer digwyddiadau yn y dyfodol.

Cofrestrwch eich diddordeb yn ein Diwrnod Agored nesaf
Llun o Gampws Parc Singleton
Myfyrwyr yn yfed coffi ar y traeth

Astudio yn Abertawe a Chostau Byw

Dysgwch fwy am gostau dydd i ddydd o astudio yn Abertawe a beth sydd ar gael o ran cyllid myfyrwyr, ysgoloriaethau a chyflogaeth ran amser. Clywch gan fyfyrwyr presennol am sut maent yn rheoli eu harian

Cofrestrwch Nawr

Student Finance

21/03/2024

18:00 - 19:00 GMT

Bydd y digwyddiad yn fyw

Ymuno â'r digwyddiad byw nawr
Ymddiheuriadau, ond mae'r digwyddiad hwn wedi gorffen

Darllenwch y newyddion diweddaraf ar ein ffrwd cyfryngau cymdeithasol