Cam mawr yn nhaith eich plentyn tuag at fod yn annibynnol yw penderfynu i fynd i'r Brifysgol ac er bod hwn yn amser cyffrous, rydym yn deall y gall fod yn heriol hefyd. Yn Abertawe, does dim ffordd well o ddysgu am y Brifysgol nag i chi a'ch plentyn brofi diwrnod agored drosoch chi eich hunain.

Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth i rieni a gwarcheidwaid am yr hyn i'w ddisgwyl ar ddiwrnod agored. Yn ogystal â hynny, gallwch chi ymuno â'n cymuned rhieni a gwarcheidwaid i dderbyn rhagor o gyngor ac awgrymiadau defnyddiol ar gyfer eich plentyn.

Diwrnodau Agored sydd ar ddod

Rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau diwrnod agored israddedig wyneb yn wyneb drwy gydol y flwyddyn. Mynegwch eich diddordeb isod a byddwn yn rhoi gwybod i chi pan fydd y cyfnod cadw lle ar waith.

Mynegwch eich diddordeb
Gwirfoddolwr diwrnod agoed yn dal arwydd teithiau campws i fyny

Cyngor ar ddiwrnodau agored i rieni a gwarcheidwaid

Profiadau o Ddiwrnodau Agored

Gallwch chi weld pam mae rhieni a gwarcheidwaid yn meddwl bod diwrnodau agored Prifysgol Abertawe mor werthfawr drwy wylio'r fideo isod.

Cynlluniwch eich taith

Cyn i chi ddod i un o'n diwrnodau agored, bydd cynllunio eich taith ymlaen llaw yn gwneud y daith i Abertawe'n ddidrafferth ac yn hamddenol.

Mae Prifysgol Abertawe'n cynnwys dau gampws hyfryd; Campws Parc Singleton a Champws y Bae. Mae Campws Parc Singleton yn wynebu traeth Bae Abertawe ac mae mewn parcdir aeddfed sy'n cynnwys gerddi botaneg. Lleolir Campws y Bae ar hyd y traeth ar y fynedfa ddwyreiniol i Abertawe.

Dylech chi gael gwybod ble bydd sgyrsiau’r pynciau'n cael eu cynnal fel rydych chi'n gwybod ble i fynd.

Ar ôl i chi gyrraedd Prifysgol Abertawe, bydd y mapiau a ddarperir isod yn ddefnyddiol iawn wrth eich helpu chi i ddod o hyd i'ch ffordd o gwmpas y campws:

Gwobrau a Thablau Prifysgol Abertawe

Mae arbenigedd a sgiliau Prifysgol Abertawe wedi cael eu cydnabod gan wobrau a dyfarniadau mewn nifer o feysydd yn ystod y blynyddoedd diweddar.

Rhagolygon Gyrfa

6ed Safle ar gyfer Rhagolygon Gyrfa (Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2023)

Logo Gwobrau Dewis Myfyrwyr WhatUni 2023 ar gyfer 6ed safle ar gyfer Rhagolygon Gyrfa