Croeso i'r Coleg, Prifysgol Abertawe

Y Coleg yw darparwr llwybrau rhyngwladol pwrpasol Prifysgol Abertawe sy'n cynnig ystod eang o opsiynau llwybrau israddedig ac ôl-raddedig i fyfyrwyr o bob cwr o'r byd. Cyflwynir ein cyrsiau ar y campws gan dîm arbenigol o academyddion ac mae dilyniant i Brifysgol Abertawe wedi'i warantu ar ôl cwblhau un o'n cyrsiau'n llwyddiannus.

Mae myfyrwyr yn y Coleg yn fyfyrwyr Prifysgol Abertawe o'r diwrnod cyntaf ac yn mwynhau cyfleusterau dysgu a byw ar lan y môr, mynediad at holl wasanaethau cymorth Prifysgol Abertawe (yn ogystal â'r rhai hynny a gynigir gennym ni) a'r cyfle i astudio mewn amgylchedd gwirioneddol amrywiol a rhyngwladol gyda'r cyfle i gwrdd â myfyrwyr o bedwar ban byd. Gallwch archwilio ein cyrsiau sydd ar gael isod i ddarganfod mwy!

Os ydych chi'n fyfyriwr Cartref (o’r DU), gallwch ddod o hyd i wybodaeth am raglenni Sylfaen Prifysgol Abertawe yma:

Sylwer bod ceisiadau ar gyfer y rhaglenni hyn drwy UCAS a byddant yn cael eu prosesu gan y Brifysgol.

Ysgol Haf Prifysgol Abertawe

Students walking on the Swansea beach in the sun.