Dulliau Talu 'Y Coleg'

Mae'r canlynol yn gymwys i'r holl ffioedd a chostau eraill gan gynnwys llety. Dylai pob taliad, gan gynnwys costau trafod, gael eu gwneud mewn £, punnoedd i Y Coleg drwy:

  • Drafft banc rhyngwladol
  • Trosglwyddiad telegraffig
  • Cerdyn debyd banc y DU
  • Cerdyn Debyd banc y tu allan i'r Deyrnas Unedig (bydd tâl ychwanegol o 3%)

Os yw'r taliad yn cael ei wneud drwy drosglwyddiad telegraffig bydd rhaid nodi (a) enw'r myfyriwr, a (b) Cyfeirnod y myfyriwr ar gyfer y taliad, a chyflwyno prawf o'r tâl i Y Coleg. 

Mae modd talu ffioedd dysgu Y Coleg drwy ein ffurflen ar-lein yma, neu i'r cyfrif banc canlynol:

Enw'r cyfrif: SWAN GLOBAL EDUCATION LLP
Rhif y cyfrif: 0018499152
Cod Didoli: 18-50-08
Côd Swift: CITIGB2L
IBAN: GB07CITI18500818499152
Enw’r Banc: CITIBANK LONDON
Cyfeiriad y Banc: Citigroup Centre, Canada Square, Canary Wharf, Llundain E14 5LB, Y Deyrnas Unedig

*Sylwer: bydd rhai cyfrifon yn  gofyn am 8 digid yn hytrach na'r 10 digid llawn ar gyfer rhif y cyfrif. Yn yr achos hwn, gadewch y ddau sero cyntaf allan o rif y cyfrif a defnyddiwch 18499152

Tâl ar-lein drwy Western Union

Mae modd talu'ch ffioedd ar-lein yma: WU Global Pay

Mae'r defnydd o'r platfform yn caniatáu i chi dalu eich ffioedd drwy ddefnyddio Cerdyn Credyd, Cerdyn Debyd neu Drosglwyddiad Banc yn yr arian cyfred o'ch dewis fel nad oes angen i chi boeni am gyfraddau cyfnewid neu ffioedd banc. I wneud taliad dilynwch y ddolen uchod. Am ragor o wybodaeth ar sut mae'r gwasanaeth yn gweithio, gwyliwch y fideo isod.

Sylwer bod 'Y Coleg, Prifysgol Abertawe' yn fenter ar y cyd rhwng Prifysgol Abertawe a Navitas sy'n cynnig llwybrau academaidd sy'n arwain at raddau israddedig ac ôl-raddedig.    

I dalu eich ffioedd dysgu am gwrs Prifysgol Abertawe, ewch i Ffioedd a Chyllid i Fyfyrwyr.