Cafodd cryfder ein hamgylchedd ymchwil ei asesu yn Fframwaith Rhagoriaeth Ymchwil 2021 (REF), pan gawsom ein rhoi yn y 26ain safle am ansawdd ein hymchwil. Mae 91% o’n hamgylchedd ymchwil yn cael ei ystyried o safon sy’n arwain y byd ac yn rhagorol yn rhyngwladol (a chynnydd o 6 pwynt % ers REF 2014). Mae hyn yn atgyfnerthu'r ffaith bod Prifysgol Abertawe yn amgylchedd rhagorol i fyfyrwyr neu academyddion gynnal ymchwil, a honno'n ymchwil sy'n gwneud gwahaniaeth gwirioneddol yn y byd. Yn achos 10 Uned Asesu, ystyriwyd bod 100% o'r amgylchedd yn arwain y byd neu'n rhagorol yn rhyngwladol, gan gynnwys Busnes a Rheolaeth, Ieithoedd Modern, a Gwaith Cymdeithasol a Pholisi Cymdeithasol. Darganfod mwy am ein canlyniadau REF 2021

Yn Abertawe, rydym yn cydnabod nad yw heriau mawr heddiw yn parchu'r ffiniau artiffisial rhwng disgyblaethau traddodiadol. Mae ein hamgylchedd ymchwil yn adlewyrchu hyn, gan gyfuno arloesi a chyfleusterau rhagorol i ddarparu cartref lle gall ymchwil rhyngddisgyblaethol ffynnu.

 

Cymuned ymchwil Prifysgol Abertawe

FameLab

Logo Fame Lab