CYLCH GORCHWYL

Rôl allweddol:

Bydd y Gweithgor Staff Ymchwil yn goruchwylio gwaith cyflwyno Cynllun Gweithredu'r Concordat i gefnogi Datblygiad Gyrfa Staff Ymchwil. Darperir diffiniad o'r term 'Staff Ymchwil' yn Atodiad 1.

1. Cylch Gorchwyl:

  1. cydnabod y cyfraniad hanfodol mae staff ymchwil yn ei wneud i'n hymchwil sydd o safon ardderchog yn rhyngwladol ac sy’n arwain y ffordd yn fyd-eang;
  2. monitro ac adolygu cymhwysiad parhaus y Concordat gan y Brifysgol i gefnogi datblygiad gyrfa ymchwilwyr;
  3. derbyn adroddiadau ar brosiectau'r cynllun gweithredu a nodwyd yn y Concordat a goruchwylio'r broses o adnewyddu'r Dyfarniad Rhagoriaeth AD mewn Ymchwil;
  4. derbyn argymhellion gan Staff Ymchwil;
  5. meincnodi perfformiad y Brifysgol yn erbyn perfformiad sefydliadau eraill (e.e. drwy offerynnau megis CEDARS), a lle bo angen, cyflwyno newidiadau i gynllun gweithredu'r Concordat;
  6. sicrhau y defnyddir y sianeli priodol er mwyn cynnwys Staff Ymchwil (e.e. drwy gynrychiolwyr RSWG, Rheolwr Dysgu ac Addysgu, Cyfarwyddwyr Ymchwil)
  7. goruchwylio cymorth gwasanaethau proffesiynol i staff ymchwil, gan gynnwys gweithgareddau recriwtio, sefydlu, arfarnu, cadw, hyfforddi a datblygu gyrfa, gan sicrhau ymagwedd deg a chyson ar draws y Brifysgol;
  8. amlygu materion sy'n ymwneud â Staff Ymchwil yn y Brifysgol, gan gynnig atebion ar gyfer y Brifysgol gyfan.

2. Cyfansoddiad:

  • Cadeirydd:- Dirprwy Is-ganghellor – Ymchwil ac Arloesi (neu ddirprwy) (Yr Athro P Nithiarasu)
  • Cyfarwyddwr Adnoddau Dynol (neu ddirprwy)
  • Pennaeth Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA)
  • Cynrychiolydd Cydraddoldeb ac Amrywiaeth
  • Swyddog Cyfathrebu REIS
  • Rheolwr Dysgu a Datblygu
  • Llyfrgellydd Ymchwil
  • Cynrychiolydd Cydnabyddiaeth a Dyfarniadau
  • Cynrychiolydd Recriwtio a Dethol
  • O leiaf ddau Ymchwilydd o bob Cyfadran (i'w henwebu gan Bennaeth y Gyfadran/Cyfarwyddwyr Ymchwil)
  • Cynrychiolydd yr Undebau Llafur

Yn adrodd i: Dirprwy Is-Ganghellor (Ymchwil ac Arloesi)

3. Amledd Cyfarfodydd:

  1. Un cyfarfod i'w gynnal ddwywaith y flwyddyn academaidd;
  2. Aelodaeth i'w hadolygu yn flynyddol o leiaf;
  3. Ystyried amledd cyfarfodydd yn flynyddol o leiaf.

4. Cyfrinachedd:

Efallai y bydd adegau pan fydd angen trafod eitemau'r agenda yn gyfrinachol. Caiff yr eitemau hyn eu nodi a bydd yn rhaid i aelodau o'r Grŵp gadw materion o'r fath yn gyfrinachol ymhlith ei gilydd ac aelodau eraill o'r grŵp.

ATODIAD 1: Diffiniad Staff Ymchwil.

Rydym yn diffinio ymchwilwyr fel a ganlyn:

  • 'Unigolion y mae eu prif gyfrifoldeb yw gwneud ymchwil ac sydd wedi'u cyflogi at y diben hwn.'

Mae hyn yn cynnwys yr holl staff ar raddau Ymchwil 7 i 9. Gallai teitlau swyddi gynnwys Cynorthwy-ydd Ymchwil, Swyddog Ymchwil, Uwch-swyddog Ymchwil, Cymrawd Ymchwil.

Rydym yn cydnabod bod 'staff ymchwil' yn cyfeirio at amrywiaeth eang o staff, gan gynnwys y rhai hynny o gefndiroedd disgyblaethol gwahanol:

  • lefelau amrywiol o hyfforddiant
  • amrywiaeth eang o wahanol brofiadau a mathau o gyfrifoldeb
  • gwahanol fathau o gontract (penodol, parhaol, llawn neu ran-amser)
  • disgwyliadau gyrfa amrywiol

Ionawr 2021