Mae Prifysgol Abertawe yn cydnabod y cyfraniad hanfodol mae staff ymchwil yn ei wneud i'n hymchwil sy'n rhyngwladol flaenllaw o'r radd flaenaf. Mae llwyddiant ein staff ymchwil yn ategu ein huchelgais a fydd yn hyrwyddo ansawdd ymchwil, yn creu amgylchedd addas lle gall ymchwil ffynnu ac yn sicrhau bod ein hymchwil yn cael yr effaith fwyaf posib. At y diben hwn, rydym yn ymrwymedig i ddarparu amgylchedd a diwylliant sy'n wirioneddol gefnogol, lle gall ymchwilwyr ffynnu yn eu bywydau proffesiynol a phersonol. Mae Ymchwilwyr ar Ddechrau eu Gyrfa yn arbennig o bwysig o ran cynnal ymchwil o safon ac mae’r brifysgol wedi ymrwymo i werthfawrogi a hyrwyddo datblygiad gyrfa ar gyfer y grŵp amrywiol hwn o staff.

DYFARNIAD RHAGORIAETH YMCHWIL AD

Logo - HR Excellence in Research

Mae Prifysgol Abertawe yn ddeiliad Dyfarniad Rhagoriaeth mewn Ymchwil Adnoddau Dynol y Comisiwn Ewropeaidd sy'n cydnabod ein hymrwymiad i gefnogi Datblygiad Gyrfa Staff Ymchwil.

Dyfarnwyd hwn i'r Brifysgol am y tro cyntaf yn 2010, a’i adnewyddu ym mis Ionawr 2013, mis Ionawr 2015, mis Ionawr 2017, mis Mehefin 2019.  mis Ionawr 2021 a mis Ebrill 2023. Mae'n cydnabod ein hymrwymiad i gefnogi Datblygiad Gyrfa Staff Ymchwil, gan gynnwys y ffaith i ni roi'r Concordat i Gefnogi Datblygiad Gyrfa Staff Ymchwil ar waith. Mae ein holl adroddiadau a chynlluniau ar gael i'w darllen ar-lein.

Gweld Cyflwyniadau Concordat a Dyfarniadau

GWEITHGOR STAFF YMCHWIL PRIFYSGOL ABERTAWE (RSWG)

Staff in a meeting

Mae'r RSWG wedi'i gadeirio gan yr Athro Perumal Nithiarasu, Cyfarwyddwr Ymchwil ac Arweinydd Academaidd Sefydliadol, gan gynnwys staff ymchwil o bob Cyfadran (a enwebwyd gan Benaethiaid/Cyfarwyddwyr Ymchwil), ac aelodau o Adnoddau Dynol, Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA), y Gwasanaethau Ymchwil, Ymgysylltu ac Arloesi (REIS), y Gwasanaethau Gwybodaeth a Systemau a'r UCU (yr Undeb Llafur).

Gan adrodd wrth y Pwyllgor Strategaeth Ymchwil ac Arloesi (CRIS), mae'n goruchwylio cyflwyniad Cynllun Gweithredu'r Concordat, i gefnogi Datblygiad Gyrfa Ymchwilwyr.

Cylch Gorchwyl (RSWG)