Mae gennym amrywiaeth o gyfleusterau ar gyfer digwyddiadau a mannau cyfarfod hyblyg ar Gampws y Bae a Champws Singleton felly os ydych chi am gynnal cyfarfod, digwyddiad neu gynhadledd, gallwn ni ddiwallu eich anghenion.

Gallwn hefyd eich helpu i ddatblygu cyfleoedd masnachol mewn meysydd megis rheoli cyfleusterau, chwaraeon, manwerthu, arlwyo a digwyddiadau felly byddem yn croesawu'r cyfle i weithio gyda'r sefydliad ar sail ymgynghori neu bartneriaeth.

Gan dynnu ar arbenigedd o Brifysgol Abertawe a'n partneriaid, byddwn yn gweithio gyda chi bob cam o'r ffordd i sicrhau bod eich digwyddiad neu eich prosiect yn llwyddiannus.