Ynghylch Prifysgol Abertawe

Mae Prifysgol Abertawe wedi bod yn gwneud gwaith ymchwil o safon fyd-eang ers 1920. Mae gennym hanes hir o weithio gyda byd busnes a diwydiant, ond heddiw mae ein hymchwil yn cael effaith ehangach o lawer ar iechyd, cyfoeth, diwylliant a lles cymdeithas fyd-eang.

Rydym wedi cael llwyddiant aruthrol dros y blynyddoedd diwethaf wrth i'n gweithgarwch ymchwil ragori ar lawer o brifysgolion mwy. Fodd bynnag, nid yw hyn wedi amharu ar yr awyrgylch cyfeillgar a hamddenol sydd bob amser wedi bod yn nodweddiadol o'r “profiad o fod yn Abertawe”.

Wrth i ni barhau i fod yn Brifysgol addas ar gyfer yr 21ain ganrif, edrychwn ymlaen at fod yn sefydliad gwirioneddol fyd-eang, gan ganolbwyntio ar y materion mawr a gwella bywydau, yn ogystal ag ysbrydoli drwy addysgu o hyd.