Os oes gennych chi drwyn am stori, yna gall Swyddfa’r Wasg Prifysgol Abertawe gael cyswllt i chi gyda’n hacademyddion, ymchwil arloesol, a straeon eraill o bob cwr o’r Brifysgol.
-
27 Ionawr 2023Hwb gwerth £100,000 i CADR i gefnogi oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw
Mae academyddion o Brifysgol Abertawe wedi derbyn cyllid gwerth £100,000 i roi hwb i dystiolaeth a dealltwriaeth hanfodol am bwysigrwydd creu cymdogaethau priodol, cymdeithasol, cynaliadwy a gwydn yn ogystal ag amgylchoedd ar gyfer oedolion hŷn sydd wedi colli eu clyw.
-
26 Ionawr 2023Pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a straeon pobl ifanc sydd wedi ymddieithrio yn cael lle blaenllaw ar restr hir Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe 2023
Cyhoeddir rhestr hir ryngwladol un o'r gwobrau llenyddol mwyaf yn y byd i ysgrifenwyr ifanc – Gwobr Dylan Thomas Prifysgol Abertawe – heddiw, ddydd Iau 26 Ionawr. Gydag awduron yn hanu o'r DU, Iwerddon, Nigeria, Cenia, Somalia, Libanus ac Awstralia, mae'r rhestr hir eleni o 12 yn cynnwys cynifer o newydd-ddyfodiaid ag enwau cyfarwydd, gyda lleisiau pobl sy’n hanu’n wreiddiol o Affrica a menywod yn cael lle blaenllaw ar y rhestr hir.