Cefnogaeth gynhwysol academaidd a bugeiliol ar gyfer ein myfyrwyr

Mae'r Academi Cynwysoldeb Abertawe yn gweithio gyda chydweithwyr ar draws Prifysgol Abertawe i sicrhau bod dysgu, addysgu ac asesu cynhwysol yn hygyrch i bawb; bod gan bob myfyriwr fynediad i’r cyfleoedd sydd ar gael; a bod pob myfyriwr yn cael ei gefnogi i gyflawni ei botensial yn llawn.

Mae ein prosiectau'n cefnogi:  

  • Cadw myfyrwyr– Cefnogi myfyrwyr i bontio drwy'r brifysgol a chwblhau eu hastudiaethau.
  • Cynnydd– Sicrhau bod gan fyfyrwyr y cymorth academaidd a bugeiliol cynhwysol i symud o lefel i lefel.
  • Canlyniadau – Cefnogi myfyrwyr i gyflawni'r canlyniadau gradd gorau y gallant.

Sefydlu a phontio

Myfyrwyr yn sgwrsio ar risiau Adeilad Grove

Darllenwch ein canllaw i ddysgu sut i ddarparu rhaglen sefydlu lwyddiannus i fyfyrwyr a sicrhau proses bontio ddi-drafferth.

Mentora cymheiriaid gan fyfyrwyr

Myfyrwyr yn sgwrsio yng Nghaffi Blas

Edrychwch ar yr e-becyn cymorth am fentora cymheiriaid: Gwybodaeth i staff ynghylch creu cynllun ac i fyfyrwyr sydd eisiau dod yn fentor.