BLWYDDYN 12 – CAMU YMLAEN I BRIFYSGOL ABERTAWE#

Beth yw Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe?
Cyfres o ddigwyddiadau undydd a digwyddiad preswyl byr ym Mhrifysgol Abertawe yw’r rhaglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe. Mae ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 12 sy’n cwblhau blwyddyn gyntaf cymhwyster lefel 3 mewn ysgol neu goleg yn ne-orllewin Cymru (Castell-nedd Port Talbot, Abertawe, Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin) er mwyn iddynt gael profiad o fywyd mewn prifysgol. Ar ôl iddynt gwblhau’r rhaglen yn llwyddiannus, bydd myfyrwyr yn gallu hawlio gostyngiad ym mhwyntiau tariff os ydynt yn ymgeisio am gyrsiau israddedig ym Mhrifysgol Abertawe.

Pwy sy’n gallu dod?
Rhaid i fyfyrwyr unigol wneud cais am le ar Raglen Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe. Mae Camu Ymlaen i Brifysgol Abertawe ar gyfer myfyrwyr Blwyddyn 12 a myfyrwyr lefel 3 yn eu blwyddyn gyntaf mewn ysgolion a cholegau yn ne-orllewin Cymru sydd â’r gallu i lwyddo ond, oherwydd amgylchiadau teuluol, personol neu eraill, yn wynebu rhwystrau a allai eu hatal rhag symud ymlaen i addysg uwch (gweler y pecyn gwneud cais am fanylion pellach).

Caiff ymgeiswyr llwyddiannus eu gwahodd i Ddigwyddiad Croeso ym Mhrifysgol Abertawe. Yna, bydd myfyrwyr yn gallu dod i gyfres o ddiwrnodau blas ar bwnc, diwrnod lles, a diwrnodau sgiliau astudio. Cynhelir y digwyddiadau hyn o fis Mawrth tan fis Mehefin yn ystod Blwyddyn 12 a’r uchafbwynt yw profiad preswyl a gynhelir ym mis Gorffennaf. Caiff gweithgareddau/digwyddiadau dewisol eu cynnig i fyfyrwyr pan fyddant ym Mlwyddyn 13, megis ffug gyfweliadau er enghraifft.

Dysgwch fwy am sut mae Tîm Camu Ymlaen yn gofalu am yr wybodaeth y maent yn ei chasglu, sut y maent yn ei storio a sut y maent yn ymdrin â hi.

CYFLWYNIAD I GAMU I SWANSEA

Mae Gweithgareddau estyn allan ar gyfer ysgolion a cholegau AB

Mae gweithgareddau ar gael yn Sir Benfro, Sir Gaerfyrddin, Abertawe a Chastell-nedd Port Talbot.  Mae cymhwysedd yn cael ei seilio ar gyfran y disgyblion o ddau gwintel isaf Mynegai Amddifadedd Lluosog Cymru. Cynigir diwrnodau rhagflas, dosbarthiadau meistr ar bynciau penodol, cyfarfodydd cwrdd ac addysgu a/neu gynadleddau staff chweched dosbarth, a chyfleoedd i ddisgyblion astudio’n annibynnol.

Rhif ffon: 01792 513637

E-bostiwch ni

Dysgu Cymunedol i Oedolion ym Mhrifysgol Abertawe

Fel rhan o'n Cenhadaeth Ddinesig, mae gan Brifysgol Abertawe ymrwymiad parhaus i gyfoethogi’r gymuned leol a chyfrannu at iechyd a lles ein dinasyddion. 

Dewiswch o blith ein sesiynau a’n cyrsiau am ddim:

  • Cwrs Dysgu a Newid - i bobl sydd eisiau cael newid yn eu bywyd: 2 awr yr wythnos, am bum wythnos (grŵp).
  • Sesiynau Gwirio Sgiliau - archwiliwch eich profiad, eich gwybodaeth a’ch sgiliau a sut i symud ymlaen yn eich bywyd: 1 i 2 awr (yn unigol neu mewn grwpiau).
  • Sesiynau Bwrdd Dychmygu — am ffordd greadigol o nodi sut i wireddu eich breuddwydion (grŵp): 3 awr (grŵp).
  • Cwrs Cysgu’n Dda - i bobl a hoffai gysgu’n well: 2 awr yr wythnos am bum wythnos (grŵp).

Ffoniwch neu e-bostiwch Claudia os oes gennych ddiddordeb, neu llenwch ein ffurflen gysylltu.

E-bost: c.h.mollzahn@abertawe.ac.uk | Ffôn: 07599 274561.

Canllaw i ddarpar fyfyrwyr ynghylch cymorth a chefnogaeth ychwanegol

Tri myfyriwr ac athro yn gweithio gyda'i gilydd o gwmpas bwrdd

Rydym yn awyddus i'n holl fyfyrwyr wneud y gorau y gallant. Rydym yn cynnig llawer o gymorth a chefnogaeth os oes eu hangen ar fyfyrwyr. Darllenwch ein Canllaw i Gymorth a Chefnogaeth Ychwanegol am ragor o wybodaeth.

ADNODDAU AR-LEIN

UNIVERSITY READY 

Casgliad o adnoddau gan bob prifysgol yng Nghymru i helpu pobl i gychwyn ym myd addysg uwch. 

Ymestyn yn Ehangach

Mae Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach De Orllewin Cymru yn gweithio gyda disgyblion ysgol, teuluoedd ac oedolion, gan gynnwys pobl ifanc sydd wedi bod mewn gofal, a gofalwyr o ardaloedd yn nau chwintel isaf Mynegrif Amddifadedd Lluosog ar gyfer Cymru yn Abertawe, Castell-nedd Port Talbot, Sir Gaerfyrddin a Sir Benfro.