Darllenwch Ymrwymiadau Prifysgol Abertawe:

“Byddwn yn creu amgylchedd dysgu cefnogol sy'n cyfoethogi profiad ein holl fyfyrwyr.”

“Byddwn yn cefnogi ein myfyrwyr i gyflawni'r canlyniadau uchaf yn eu bywydau personol, academaidd a phroffesiynol.”

“Byddwn yn cynyddu cyfranogiad gan fyfyrwyr o grwpiau a chymunedau a dangynrychiolir, ac yn darparu cymorth o'r ansawdd angenrheidiol i'w galluogi i lwyddo.”

“Byddwn yn darparu amgylchedd diogel, cynhwysol a chefnogol sy'n ategu ein hymrwymiad i wella amrywiaeth ac yn galluogi pobl i gyflawni eu potensial.”

Darllenwch am sut rydym yn cefnogi ein myfyrwyr

Myfyrwyr yn sgwrsio o amgylch bwrdd isel
  • Mae Academi Cynwysoldeb Abertawe yn gweithio i ddarparu cymorth academaidd a bugeiliol cynhwysol ar gyfer ein poblogaeth amrywiol o fyfyrwyr.
  • Mae Academi Dysgu ac Addysgu Abertawe (ADAA) yn datblygu staff ym meysydd dysgu, addysgu ac asesu cynhwysol.
  • Mae Academi Hywel Teifi yn hyrwyddo ac yn cefnogi dysgu cyfrwng Cymraeg ym mhob rhan o'r Brifysgol. Dysgwch fwy am hawliau myfyrwyr i ddefnyddio’r iaith Gymraeg.
  • Mae ein gwasanaethau arbenigol yn cynnwys cymorth ar gyfer anabledd, lles, llesiant, ffydd, arian, llety ac astudio academaidd.
  • Mae ein Gwasanaethau Llyfrgell a Gwybodaeth yn darparu canllawiau hygyrch ac yn cynnig mynediad hyblyg i adnoddau.

Beth rydym yn ei wneud i ehangu mynediad i'r Brifysgol

Myfyrwyr yn sgwrsio o amgylch bwrdd
  • Rhowch gipolwg ar ein Rhaglen Ysgolion a Cholegau ar gyfer disgyblion ac ysgolion a cholegau addysg bellach.
  • Ni yw prif bartner Partneriaeth Ymestyn yn Ehangach y De-orllewin Cymru sy'n cynnig gweithgareddau dysgu a chodi dyheadau.
  • Edrychwch ar y detholiad eang o gyrsiau rhan-amser, gan gynnwys rhaglen BA ran-amser yn y Dyniaethau
  • Archwiliwch ein cyrsiau blwyddyn sylfaen mewn: Gwyddoniaeth, y Gwyddorau Meddygol Cymhwysol, Peirianneg, Cyfrifeg a Chyllid, Rheoli a'r Celfyddydau a'r Dyniaethau.
  • Darllenwch am ein graddau sylfaen mewn Peirianneg, Deunyddiau Uwch, a Gweithgynhyrchu a Thechnolegau Gwybodaeth a Digidol.