Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r radd ran amser yn y Dyniaethau yn gyfle cyffrous i fyfyrwyr sy'n oedolion astudio amrywiaeth eang o feysydd pynciau yn y Dyniaethau ar y campws ac yn y gymuned.
Mae'r rhaglen yn arloesol, yn ddynamig ac yn hyblyg a byddwch yn datblygu'r sgiliau, yr wybodaeth a'r profiad a fydd yn agor drysau i chi i ddyfodol disglair mewn nifer o rolau heriol a gwobrwyol mewn amrywiaeth eang o sectorau a/neu astudiaethau ôl-raddedig.
Mae ein haddysgu a'n hymchwil cyffrous ac arloesol yn cyfoethogi ein cyfraniad at gymunedau lleol, cenedlaethol a byd-eang ac yn llywio profiad ardderchog i fyfyrwyr.
Fel rhan o'n cwrs BA yn y Dyniaethau (rhan-amser), rydym ni hefyd yn cynnig cyrsiau rhagflas ar-lein am ddim am 3 wythnos lle byddwch yn cael dealltwriaeth o sut beth yw astudio yn y brifysgol. Mae'r sesiynau hyn yn berffaith os ydych chi'n oedolyn sydd am fynd yn ôl i fyd addysg. Darganfod mwy.