Cangen Prifysgol Abertawe, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Mae Prifysgol Abertawe yn gweithio ar y cyd â'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol ac mae Cangen y Brifysgol wedi'i lleoli yn Academi Hywel Teifi.  Fel aelod o’r Coleg, byddwch chi hefyd yn aelod o Gangen y sefydliad. Mae’r Gangen yn rhan allweddol o drefniadaeth y Coleg, a threfniadaeth cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe, gan dynnu at ei gilydd aelodau o staff er mwyn trafod ac ystyried materion cyfrwng Cymraeg yn sefydliadol ac yn genedlaethol.

Mae Cangen Prifysgol Abertawe yma i ddarparu cymorth a chefnogaeth i chi. Mae drws y gangen ar agor os ydych chi am fwy o wybodaeth am y cyfleoedd a’r gweithgaredd sydd ar gael yn y Brifysgol. Ystafell 162, Adeilad Talbot.

Mae’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol yn creu cyfleoedd hyfforddi ac astudio yn y Gymraeg drwy weithio gyda cholegau addysg bellach, prifysgolion, darparwyr prentisiaethau a chyflogwyr. Ryn ni’n ysbrydoli ac yn annog pawb i ddefnyddio’u sgiliau Cymraeg.

Nod y Coleg yw adeiladu system addysg a hyfforddiant Cymraeg a dwyieithog sy’n agored i bawb ac i ddatblygu gweithluoedd dwyieithog.

 

Digwyddiadau'r Gangen

Fforwm Staff: Hydref 18fed, 2023 a Mai 1af, 2024 

Cyfarfod Blynyddol y Gangen: Rhagfyr 6ed, 2023 

Fforwm Myfyrwyr: Hydref 16eg, 2023 a Mawrth 18fed, 2024 

Fforwm Myfyrwyr Ôl-raddedig: Tachwedd 13eg, 2023 ac Ebrill 22ain, 2024 

 

Eich Swyddog Cangen yw 

Indeg Llewelyn Owen

Darllenwch Newyddlen Dathlu'r 10 Cangen Abertawe