Cyflogadwyedd

Un o brif amcanion y Brifysgol yw paratoi a hyrwyddo cyflogadwyedd myfyrwyr. Mae ein cyrsiau academaidd yn anelu at dy arfogi â’r profiad gwerthfawr a sgiliau lefel uchel y mae cyflogwyr yn chwilio amdanynt. Lle bynnag y bo’n bosibl, mae ein cyrsiau wedi’u hachredu gan gyrff proffesiynol. Mae ein hanes hir o weithio gyda busnes, diwydiant, masnach a’r yn y sector cyhoeddus n ein galluogi i ychwanegu gwerth gwirioneddol at dy addysg. Rydym yn gwrando ar gyflogwyr pan fyddant yn dweud wrthym pa sgiliau a phrofiadau y maent yn ei gwneud yn ofynnol gan eu gweithwyr graddedig, ac rydym yn teilwra’n cyrsiau i sicrhau dy fod yn ennill sgiliau proffesiynol a lefel uchel sy’n dy alluogi i ffynnu yn y byd cystadleuol sydd ohoni.

 

Tystysgrif Sgiliau Iaith, Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Dyma gyfle i ennill Tystysgrif Sgiliau Iaith sy’n dangos i gyflogwyr eich bod yn hyderus wrth ddefnyddio’r Gymraeg ar lafar ac yn ysgrifenedig fydd o fantais wrth ymgeisio am swyddi. Bydd y Coleg yn trefnu sesiynau trwy Academi Hywel Teifi er mwyn cynorthwyo myfyrwyr i baratoi ar gyfer y Dystysgrif ac mae adnoddau ychwanegol ar-lein. I ennill y Dystysgrif mae angen gwneud cyflwyniad llafar a chwblhau prawf ysgrifenedig sy'n cynnwys tair tasg. Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch Indeg Owen, Swyddog Cangen Prifysgol Abertawe.

Academi Cyflogadwyedd Abertawe

Mae Academi Cyflogadwyedd Abertawe (SEA) yn darparu rhwydwaith i gysylltu myfyrwyr â chyflogwyr - yn amrywio o weithdai a sgyrsiau gan gyflogwyr i ddigwyddiadau rhwydweithio dan arweiniad myfyrwyr. Mae'r Academi'n cefnogi myfyrwyr Prifysgol Abertawe ar bob cam o'u taith tuag at yrfa raddedig - o gydlynu cyngor proffesiynol ar yrfaoedd, rheoli ystod o gynlluniau lleoliadau gwaith a sicrhau cefnogaeth un i un ac ar-lein i ddarparu arweiniad ar gyfer gwneud penderfyniadau gwybodus ynghylch gyrfa a pharatoi ar gyfer cyfweliadau.

Gall ein Tîm Gyrfaoedd a Chyflogadwyedd o fri dy helpu i:

  • archwilio syniadau gyrfa
  • llunio CV trawiadol ac effeithiol
  • gael lleoliad gwaith
  • ddod o hyd i swydd neu i ddysgu mwy am addysg bellach

Cwrs Datblygu Gyrfa

Mae’r Cwrs Datblygu Gyrfa yn gwrs ar-lein, am ddim, sy’n darparu gwybodaeth ar amrywiaeth o bynciau gyrfa ac yn ar gael trwy gyfrwng y Gymraeg! Mae’r 16 uned yn canolbwyntio ar bynciau gwahanol i'ch helpu i ddatblygu eich gyrfa, gan gynnwys:

  • Gallwch ddysgu rhagor amdanoch chi eich hun a’ch opsiynau
  • Ysgrifennu CVs, ffurflenni cais a datganiadau personol
  • Paratoi am gyfweliadau
  • Gwneud penderfyniadau
  • Sgiliau meddal megis datblygu eich meddylfryd a’ch gwytnwch

Does dim terfyn ar nifer yr unedau y gallwch eu cwblhau, ond byddwch yn ennill gwobr y Cwrs Datblygu Gyrfa drwy gwblhau 5 uned a byddwch yn ennill gwobr y Cwrs Datblygu Gyrfa Uwch drwy gwblhau 10 uned. Byddwch yn derbyn bathodyn electronig am y wobr y gallwch ei rannu â'ch proffil LinkedIn, a chaiff ei ychwanegu at eich cofnod HEAR. Cliciwch yma i gofrestru am y cwrs.

Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am gymorth ac adnoddau gyrfa ychwanegol sydd ar gael trwy Academi Cyflogadwyedd Abertawe yma.

 

Gweithio fel Myfyriwr Llysgennad i Brifysgol Abertawe

Yn ystod eich amser yn y Brifysgol, mae'n bosib gweithio fel Myfyriwr Llysgennad i Brifysgol Abertawe. Mae nifer o resymau dros ddod yn fyfyriwr llysgennad.

  • Cynllun Myfyrwyr Llysgennad cyflogedig gyda hyfforddiant lawn wrth ennill profiadau gwych i’w hychwanegu ar eich CV.
  • Cwrdd â ffrindiau newydd a chynrychioli Prifysgol Abertawe mewn amryw o ddigwyddiadau Cymraeg a Saesneg; gyda chyfleoedd i weithio am dâl mewn adrannau arall ar draws y Brifysgol.
  • Digwyddiadau cymdeithasol drwy gydol y Flwyddyn Academaidd.
  • Cyfle i ymgeisio i fod yn Uwch-fyfyriwr Llysgennad ar ôl blwyddyn fel Myfyriwr Llysgennad.
  • Gweithio tuag at Wobr Llysgennad y Swyddfa Recriwtio Myfyrwyr ac Achrediad WOWee gydag Academi Cyflogadwyedd Abertawe a gydnabyddir ar eich tystysgrif HEAR wrth raddio.

Mae bob tro angen siaradwyr Cymraeg yn ystod digwyddiadau fel Diwrnodau Agored ac i ymweld ag ysgolion Cymraeg. Am fanylion pellach, ewch i dudalennau Cynllun Myfyrwyr Llysgennad ar dudalennau MyUni'r Brifysgol.

 

Gweithio fel Myfyriwr Llysgennad i'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol

Os ydych chi'n astudio rhan o'ch cwrs yn Gymraeg, mae hefyd cyfle i chi weithio fel Myfyriwr Llysgennad gyda'r Coleg Cymraeg Cenedlaethol. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr israddedig ac ôl-raddedig. Mae bod yn llysgennad gyda'r Coleg yn waith sy'n derbyn tâl ac mae’r unigolion yn cael y cyfle i hyrwyddo’r Gymraeg o fewn eu prifysgol yn ogystal â bod yn rhan o waith marchnata y Coleg Cymraeg er mwyn hyrwyddo parhâd y defnydd o’r Gymraeg o’r ysgol i’r gweithle. Mae’r gwaith hwn yn cynnwys digwyddiadau, ymweliadau ysgolion, blogiau, cyfweliadau a gwaith ar wefannau cymdeithasol.

Mae’r holl waith y mae’r llysgenhadon yn ei wneud yn eu helpu i ddatblygu nifer o sgiliau gan gynnwys sgiliau cyflwyno, siarad cyhoeddus, codi hyder a digidol.

Am fanylion pellach, ewch i dudalennau'r Coleg Cymraeg isod;

 

Cyfloedd profiad gwaith gydag Academi Hywel Teifi

Mae gradd yn bwysig er mwyn sicrhau swydd dda, ond mae cyflogwyr yn chwilio am lawer mwy na gradd wrth ddewis pa raddedigion i’w cyflogi. Bydd sicrhau lleoliad gwaith a datblygu sgiliau wrth astudio ac yn ystod y gwyliau yn eich gwneud yn fwy abl i gystadlu am swyddi. Mae Academi Hywel Teifi yn cynnig lleoliad gwaith SPIN bob blwyddyn sy'n rhoi cyfle i chi weithio am dâl yn hyrwyddo'r Gymraeg mewn digwyddiadau fel Eisteddfod yr Urdd. 

 

Cyfleoedd am brofiadau rhyngwladol

Rydym ni’n gallu cynnig profiadau rhyngwladol unigryw a lleoliadau gwaith heb eu hail gan fod cysylltiadau rhyngwladol yn hollbwysig i Brifysgol Abertawe. Mae nifer o ddarlithwyr ein cyrsiau cyfrwng Cymraeg yn arbenigwyr byd-eang yn eu meysydd.

Mae rhaglenni astudio dramor yn rhoi’r cyfle i chi ennill sgiliau rhyngbersonol a throsglwyddadwy gwerthfawr fel trefnu a chynllunio, cydweithredu, datrys problemau a chyfathrebu. Mae cyflogwyr yn cydnabod pwysigrwydd, ac yn disgwyl, dealltwriaeth o faterion rhyngwladol neu o ddiwylliannau eraill yn eu graddedigion. O ganlyniad, mae’r Brifysgol yn cynnig nifer o gyfleoedd i chi astudio fel rhan o’ch gradd neu i fanteisio ar un o’n rhaglenni haf. Mae gennym gysylltiadau ar gyfer cyfleoedd i weithio dramor, i wirfoddoli dramor neu i astudio dramor gyda 150 o brifysgolion a sefydliadau partner. Am fwy o wybodaeth ewch i wefan Cyfleoedd Byd-eang.