Dewis astudio trwy gyfrwng y Gymraeg

Mae darpariaeth academaidd cyfrwng Cymraeg Prifysgol Abertawe wedi cynyddu’n sylweddol dros y blynyddoedd diwethaf. Trwy waith Academi Hywel Teifi, canolfan y Brifysgol sy’n arwain ar y datblygiadau hyn, a’n partneriaeth â’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, mae Prifysgol Abertawe yn cynnig cyfleoedd unigryw a chyffrous a fydd yn eich paratoi ar gyfer gyrfa lewyrchus yng Nghymru a’r tu hwnt. Dewisiwch un o'r opsiynau isod i ddarllen proffiliau gan fyfyrwyr israddedig neu ôl-raddedig sydd wedi manteisio ar y ddarpariaeth cyfrwng Cymraeg ym Mhrifysgol Abertawe.