Beth sydd ar gael yn y Gymraeg yn ôl Maes Pwnc
Mae gan Brifysgol Abertawe ddarpariaeth eang a chyffrous ar gyfer myfyrwyr sy’n dymuno astudio cwrs gradd gyflawn neu ran ohoni trwy gyfrwng y Gymraeg. Mae nifer o ysgoloriaethau a bwrsariaethau os ydych chi’n astudio trwy gyfrwng y Gymraeg.
Bydd parhau i astudio trwy’r Gymraeg wedi i chi adael yr ysgol neu’r coleg yn rhoi hwb i’ch cyfle i gael yr addysg orau. Mae cyfleoedd ar gael i fyfyrwyr sy’n rhugl ac yn hyderus yn yr iaith yn ogystal ag i’r rhai sy’n llai hyderus neu sy’n ddysgwyr. Mae yna ddewis sy’n iawn i chi: o gyrsiau gradd cyfangwbl trwy’r Gymraeg i gyrsiau lle mae rhai modiwlau yn y Gymraeg. Mewn rhai pynciau mae’n bosibl cael dosbarthiadau seminar a thiwtorial ar gyfer modiwlau sy’n cael eu dysgu yn bennaf drwy gyfrwng y Saesneg. Mae hawl gennych i ysgrifennu eich gwaith cwrs ac i sefyll eich arholiadau yn y Gymraeg, hyd yn oed os ydych wedi dewis dilyn cyrsiau cyfrwng Saesneg. O barhau i astudio y cyfan neu ran o’ch cwrs trwy gyfrwng y Gymraeg, byddwch yn datblygu eich sgiliau yn y ddwy iaith – y Gymraeg a’r Saesneg – gan agor drysau i’ch hunan ar ôl i chi adael y Brifysgol.