Trosolwg o'r Cwrs
Cymerwch y camau cyntaf tuag at amrywiaeth o yrfaoedd cyffrous a gwerth chweil yn y gyfraith gyda'n gradd LLB Anrhydedd Sengl yn y Gyfraith.
Byddwch yn ennill sylfaen gadarn yn y saith maes sy'n cael eu cynnwys mewn gradd yn y gyfraith: Cyfraith Contract, Cyfraith Droseddol, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedolaethau, Cyfraith yr Undeb Ewropeaidd, Cyfraith Camweddau a Chyfraith Gyhoeddus.
Wrth i'ch astudiaethau fynd yn eu blaenau, gallwch ddewis o blith amrywiaeth eang o feysydd pwnc arbenigol yn y gyfraith sy'n gysylltiedig â meddyginiaeth, hawliau dynol, y teulu, yr amgylchedd, masnach, cyflogaeth a'r cyfryngau.
Trwy gydol eich gradd israddedig yn y Gyfraith, byddwch yn datblygu sgiliau ymchwil a dadansoddi ardderchog a’r gallu i gyfleu eich syniadau’n effeithiol ar lafar ac yn ysgrifenedig.
Mae ein holl raglenni israddedig y Gyfraith yn cynnwys sylfeini gwybodaeth gyfreithiol y mae ei hangen i ddechrau gyrfa fel cyfreithiwr. Mae ein rhaglenni’n darparu sylfaen gadarn i fyfyrwyr sydd am sefyll yr Arholiadau Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE) yn y dyfodol, ac yn bodloni cyfnod academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau’r Bar i’r myfyrwyr sydd am fod yn fargyfreithwyr.