Trosolwg o'r Cwrs
Mae'r LLB Y Gyfraith ar Waith gyda Throseddeg ym Mhrifysgol Abertawe yn rhaglen arbenigol sy'n eich paratoi ar gyfer gyrfaoedd ar y croestoriad rhwng y gyfraith a throseddeg, wrth hefyd roi profiad gwerthfawr i chi yn y gweithle.
Wedi'i chynllunio i'ch paratoi ar gyfer ystod eang o yrfaoedd, mae'r rhaglen wedi'i seilio ar ragoriaeth academaidd ac wedi'i llywio gan ymchwil flaenllaw. Mae'n cyfuno damcaniaeth ac ymarfer, gan eich galluogi i ddeall sut mae systemau cyfreithiol yn gweithredu mewn cyd-destunau cymdeithasol, gwleidyddol ac economaidd ehangach, gan archwilio achosion a chanlyniadau troseddu'n feirniadol.
O'r cychwyn cyntaf, byddwch yn datblygu dealltwriaeth gynhwysfawr o sylfeini gwybodaeth gyfreithiol, gan gynnwys Cyfraith Contract, Cyfraith Camwedd, Cyfraith Trosedd, Cyfraith Gyhoeddus, Cyfraith Tir, Ecwiti ac Ymddiriedau a Chyfraith yr UE. Mae'r pynciau craidd hyn yn bodloni cam academaidd yr hyfforddiant sy’n ofynnol gan Fwrdd Safonau'r Bar, ac yn cefnogi'r rhai hynny sy'n dymuno sefyll yr Arholiad Cymhwyso Cyfreithwyr (SQE).
Ochr yn ochr â'r meysydd craidd hyn, byddwch yn astudio modiwlau troseddeg sy'n archwilio pynciau megis cymdeithaseg troseddu, plismona, cosb, cyfiawnder ieuenctid a'r system cyfiawnder troseddol.
Yn pedwaredd flwyddyn eich gradd LLB, byddwch yn ymgymryd ag interniaeth â thâl gyda chyflogwr mewn lleoliad cyfreithiol. Bydd hyn yn eich galluogi i gael profiad o ymarfer cyfreithiol yn uniongyrchol, a meithrin sgiliau allweddol a fydd yn ddefnyddiol dros ben yn eich gyrfa yn y dyfodol.
Wrth i chi symud drwy'ch rhaglen, gallwch deilwra eich gradd drwy amrywiaeth eang o fodiwlau dewisol yn y gyfraith ac mewn troseddeg. Mae opsiynau y Gyfraith yn cynnwys Hawliau Dynol, Cyfraith Feddygol, Seiberdroseddu, Cyfraith Amgylcheddol, Cyfraith Teulu a Masnach Ryngwladol. Gall opsiynau Troseddeg gynnwys Penydeg, Seicoleg Droseddol a Therfysgaeth ac Eithafiaeth Dreisgar.