Croeso i'n tudalen!

Gall aelodau'r cyhoedd elwa o gyngor cyfreithiol am ddim gan Glinig y Gyfraith Abertawe. Mae'r Clinig yn helpu myfyrwyr trydedd flwyddyn y Gyfraith a Throseddeg i ennill profiad gwerthfawr drwy roi damcaniaeth ar waith. Gan weithio ochr yn ochr â chyfreithwyr sy'n ymarfer, gall y myfyrwyr roi cyngor i gleientiaid.

Cyngor cyfrinachol am ddim - Gall aelodau'r cyhoedd, myfyrwyr a staff y Brifysgol dderbyn cyngor cyfreithiol am ddim.

Grŵp o fyfyrwyr hapus ar daith maes gyda'r athro Richard Owen