Croeso i Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton ym Mhrifysgol Abertawe

Mae ein Hysgol yn dod ag amrywiaeth o ddisgyblaethau ynghyd mewn amgylchedd academaidd ffyniannus, wedi’u cefnogi gan staff â phrofiad byd go iawn helaeth. 

Yn Ysgol y Gyfraith rydym yn ymfalchïo yn ein henw da rhyngwladol ac yn paratoi ein myfyrwyr ar gyfer ystod o yrfaoedd sy’n gwneud gwahaniaeth i gymdeithas, gan gyfuno addysg o ansawdd uchel gyda’r sgiliau sydd eu hangen ar gyfer gyrfaoedd academaidd neu broffesiynol llwyddiannus.

Mae ein myfyrwyr wrth galon Ysgol y Gyfraith. Rydym yn darparu addysg unigryw a chyfoes, o lefel israddedig i lefel PhD, gan wella rhagolygon ein myfyrwyr gyda chyfleoedd am ddysgu arbrofol, megis gweithio gyda Chlinig y Gyfraith, a lleoliadau gwaith gydag ystod o bartneriaid allweddol.

Mae’r Ysgol yn canolbwyntio ar ymchwil gan gynnwys gwledd o ganolfannau arbenigol, o Hawliau Dynol Plant i Seiberderfysgaeth a Thechnoleg Gyfreithiol. 

Gweld y Darlun Ehangach