Ymchwil ôl-raddedig yn ysgol y gyfraith Hillary Rodham Clinton

Pam ymuno â ni i wneud ymchwil ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith?

Mae Ysgol y Gyfraith Prifysgol Abertawe yn gartref i gymuned ymchwil ôl-raddedig fywiog a chynhwysol sy’n rhan annatod o fywyd yr Ysgol.

Mae’n myfyrwyr wedi dod o’r DU, Ewrop, Asia, y Dwyrain Canol ac Affrica i ymuno â ni, gan ddod ag amrywiaeth eang o ddiddordebau ymchwil a phrofiadau gyda nhw, sy’n cyfoethogi profiadau dysgu’r gymuned gyfan.

Bydd ein cyrsiau ymchwil yn eich galluogi i ymchwilio i bwnc unigol ac unigryw mewn manylder, wrth hefyd ddatblygu’r sgiliau ymchwilio arbenigol wrth wneud hynny, gyda chefnogaeth a goruchwyliaeth ein staff academaidd a fydd yn eich helpu i ennill eich PhD, neu'ch MPhil mewn cyfleuster o’r radd flaenaf.

I ddysgu rhagor am fywyd fel ymchwilydd ôl-raddedig yn Ysgol y Gyfraith, neu i wneud cais am un o’n rhaglenni: