Meysydd ymchwil

Mae arbenigedd academaidd yr Ysgol yn eang ac rydym yn gwahodd ceisiadau ar gyfer meysydd canlynol y Gyfraith:

  • Y Gyfraith Gyffredinol, y Gyfraith Gontractau a’r Gyfraith Fasnachol
  • Cyfraith Forwrol
  • Cyfraith Olew a Nwy
  • Y Gyfraith Gyhoeddus ar draws meysydd domestig, rhanbarthol a rhyngwladol, gan gynnwys: Y Gyfraith Weinyddol; Y Gyfraith Feddygol, Hawliau plant; Y Gyfraith Gyfansoddiadol; datganoli; Y Gyfraith Economaidd; Y Gyfraith Amgylcheddol; Y Gyfraith feddygol a biofoesau
  • Y Gyfraith Droseddol a'r Gyfraith mewn perthynas â Therfysgaeth, Seibr-Derfysgaeth a Gwrth-Derfysgaeth

Rhaglenni ymchwil cyfun

Yn ogystal, mae gan Ysgol y Gyfraith Hillary Rodham Clinton fyfyrwyr PhD sydd bellach yn rhan o raddau cyfun â Phrifysgol Leiden yn yr Iseldiroedd ac Université Grenoble-Alpes.

Dysgwch ragor am ein graddau ymchwil.

Gwneud cais i ysgol y gyfraith

Defnyddiwch ein hopsiwn Dod o hyd i Oruchwylydd i ddysgu rhagor am ein hacademyddion sy’n gallu eich goruchwylio a‘ch cefnogi yn eich gradd ymchwil.

A oes angen ambell ganllaw arnoch chi ar gyfer ysgrifennu’ch cais? Bydd ein Canllaw i Wneud Cais yn eich tywys drwy’r broses.

Joe Whittaker