Sut i wneud cais am radd ymchwil ddoethurol (PhD)

Heb os nac oni bai, bydd astudio ar gyfer PhD yn un o'r mentrau mwyaf heriol ond gwerth chweil y byddwch yn ymgymryd ag ef. Rydym wedi creu canllaw defnyddiol i sicrhau bod y broses o wneud cais mor hawdd â phosibl i chi:

Yn Abertawe, rydym yn cynnig dau brif fath o brosiect PhD:

  1. y rhai hynny y mae academydd wedi'u cynllunio ymlaen llaw (yn fwy cyffredinol ym meysydd gwyddoniaeth a pheirianneg)
  2. a'r rhai hynny rydych yn eu dylunio ar eich pen eich hun.