Wrth ddechrau rhaglen ymchwil, un o’r tasgau pwysicaf y bydd angen i chi ei gwneud yw dewis goruchwyliwr academaidd.

Beth yw rôl goruchwyliwr?

Yn syml, rôl goruchwyliwr yw eich cynorthwyo a’ch cefnogi drwy gydol eich gwaith ymchwil. Bydd eich goruchwyliwr yn:

  • Eich helpu i ddatblygu eich cynllun ymchwil yng nghamau cynnar eich PhD
  • Rhoi cyngor ar nodau ac amcanion ymchwil ac yn awgrymu cyrsiau hyfforddiant neu sgiliau perthnasol
  • Rhoi cyfarwyddwyd o ran llenyddiaeth a ffynonellau perthnasol
  • Rhoi arweiniad o ran casglu, cofnodi a dadansoddi data
  • Goruchwylio eich gwaith ysgrifenedig, yn cynnig beirniadaeth adeiladol ac yn sicrhau eich bod yn cadw at ddyddiadau cau
  • Rhoi cymorth a chyngor pan fyddwch yn cyflwyno papurau mewn cynadleddau, yn cyhoeddi eich gwaith ac yn mynd i’ch viva (yr arholiad llafar terfynol ar eich traethawd ymchwil)