Mae gradd ôl-radd yn gymhwyster lefel uwch a fydd yn datblygu eich gwybodaeth ymhellach mewn maes penodol. Fel arfer mae’n rhaid eich bod wedi cwblhau gradd israddedig cyn eich bod yn gallu dechrau astudiaeth ôl-radd.

Mae astudiaeth ôl-radd fel arfer wedi ei rhannu i ddwy ran eang; rhaglenni sy’n cael eu dysgu a rhaglenni ymchwil.

Darllenwch drwy ein canllawiau cyflwyno defnyddiol i ddarganfod ai gradd a addysgir neu ymchwil a fyddai orau i chi:

Cyrsiau a addysgir

Rydym yn cynnig ystod o gyrsiau ôl-radd a addysgir ym Mhrifysgol Abertawe. Edrychwch ar eich opsiynau yma:

Rhaglenni Ymchwil

O MRes i PhD, rydym yn cynnig ystod o raglenni ymchwil mewn amryw o feysydd pwnc. Fel sefydliad ymchwil sydd yn y 30 uchaf y DU, gallwch fod yn sicr y byddwch yn derbyn profiad astudio o’r radd flaenaf waeth beth fydd eich dewis. Darganfyddwch beth sydd ar gael: