tri myfyriwr ôl-raddedig yn eistedd ar bwys ffynnon

mathau o ymweliad

Myfyriwr Ymchwil ar Ymweliad

Mae Prifysgol Abertawe yn awyddus i annog myfyrwyr ymchwil cenedlaethol a rhyngwladol i ddod i ymweld â ni lle y mae’r cyfle i astudio neu gwblhau prosiect mewn prifysgol arall sy’n uniongyrchol berthnasol i’r cwrs maent yn ei astudio. Rydym yn ystyried pob cais ac rydym yn gwneud pob ymdrech i hwyluso’r ceisiadau, ond sylwer ein bod yn derbyn llawer o ddiddordeb yn y rhaglen yma. Mae’r gystadleuaeth yn uchel, ac mae pob cais yn cael ei ystyried fesul achos.

Ceisiadau hyd at 6 mis – Pwyntiau Allweddol:

  • Yn rhad ac am ddim
  • Proses mewnfudo hwylus, trwy lwybr Fisa Ymwelwyr Safonol y DU.
  • Mae ein gofynion iaith Saesneg yn cynnwys IELTS 5.5, IELTS 6.0 ac IELTS 6.5 (nodwch fod Prifysgol Abertawe yn cydnabod tystiolaeth iaith Saesneg arall) sydd yn dibynnu ar y maes ymchwil. Am fwy o fanylion am ein gofynion iaith Saesneg, ewch i yma. Mae ymwelwyr llwyddiannus sydd wedi derbyn cynnig amodol gyda sgôr arholiad iaith Saesneg yn gallu cadw lle (yn rhad ac am ddim am y tro cyntaf) i sefyll arholiad SWELT Prifysgol Abertawe.
  • Mae’n rhaid i ymwelwyr llwyddiannus sydd angen cliriad ATAS cyn cofrestru gyflwyno cais gyda digon o amser cyn dyddiad arfaethedig yr ymweliad. Mae hyn er mwyn caniatáu digon o amser i’r cais cael ei brosesu.

Nid oes angen i fyfyrwyr neu academyddion ymchwil sydd yn ddinasyddion o wledydd yr UE, yr Ardal Economaidd Ewrop (EEA), Awstralia, Canada, Japan, Seland Newydd, Singapôr, De Corea, y Swistir neu Unol Daleithiau America gyflwyno cais am dystysgrif ATAS. Nodwch gall y rhestr yma newid yn sydyn, felly mae’n bwysig i bob ymgeisydd wirio ei gymwysterau ATAS cyn cwblhau’r ffurflen gais.

Ceisiadau rhwng 6 a 12 mis – Pwyntiau Allweddol:

  • • Mae bosib y codir tâl o rhwng 50 a 75% pro-rata o gyfanswm ffi y cwrs ar gyfer misoedd 6-12.
  • Mae’r costau am ymweliadau dros 6 mis yn cael eu hadennill yn y mwyafrif o geisiadau, ond gall Cyfadrannau ildio costau lle ceir rhesymeg glir yn y ffurflen gais, ac y mae’r penderfyniad yn cael ei ardystio gan y Prif Weithredwr (neu enwebwr).
  • Nodyn i ymwelwyr sy’n gymwys i dalu ffioedd y DU, mae ymweliad 12 mis yn gallu costio dros £1,500. Nodwch fod hyn yn esiampl o’r gost lawn a gall newid. Mae cost yr ymweliad yn cael ei nodi’n gywir yn y llythyr cynnig.
  • • Nodyn i ymwelwyr sy’n gymwys i dalu ffioedd rhyngwladol, mae ymweliad 12 mis yn gallu costio dros £6,750. Nodwch mai esiampl o’r gost lawn yw hyn a gall newid. Mae cost yr ymweliad yn cael ei nodi’n gywir yn y llythyr cynnig.
  • • Mae myfyrwyr sydd yn bwriadu ymweld â ni am 6 i 12 mis angen Llwybr Myfyriwr Nawdd Haen 4  – Mae proses gyflawn Fisa’r DU i fyfyrwyr yn angenrheidiol. Cofiwch ganiatáu digon o amser i drefnu eich Fisa wrth gynllunio dyddiadau arfaethedig.
  • Mae ein gofynion iaith Saesneg yn cynnwys IELTS 5.5, IELTS 6.0 ac IELTS 6.5 (nodwch fod Prifysgol Abertawe yn cydnabod tystiolaeth iaith Saesneg arall) sydd yn dibynnu ar y maes ymchwil. Am fwy o fanylion am ein gofynion iaith Saesneg, cliciwch yma.  Mae ymwelwyr llwyddiannus sydd wedi derbyn cynnig amodol gyda sgôr arholiad iaith Saesneg yn gallu cadw lle (yn rhad ac am ddim am y tro cyntaf) i sefyll arholiad SWELT Prifysgol Abertawe.
  • Mae’n rhaid i ymwelwyr llwyddiannus sydd angen cliriad ATAS cyn cofrestru gyflwyno cais gyda digon o amser cyn dyddiad arfaethedig yr ymweliad. Mae hyn er mwyn caniatáu digon o amser i’r cais cael ei brosesu 

Nid oes angen i fyfyrwyr neu academyddion ymchwil sydd yn ddinasyddion o wledydd yr UE,g Ardal Economaidd Ewrop (EEA), Awstralia, Canada, Japan, Seland Newydd, Singapôr, De Corea, y Swistir neu Unol Daleithiau America gyflwyno cais am dystysgrif ATAS. Nodwch gall y rhestr yma newid yn sydyn, felly mae’n bwysig i bob ymgeisydd wirio ei gymwysterau ATAS cyn cwblhau’r ffurflen gais.

 

Sut i gyflwyno cais i ymweld Ymchwilydd Cysylltiol

Cwestiynau Cyffredin

C. Pryd ydw i’n gallu dechrau’r ymweliad?

A. Yn ystod y cyfnod cofrestru ym misoedd Hydref, Ionawr, Ebrill a Gorffennaf fel y bo’n berthnasol. Rydym yn derbyn llawer o ddiddordeb yn y rhaglen yma, ac felly nid yw’n bosib addo lle i bob ymwelydd cyn ystyried pob cais, a gynhelir drwy broses gystadleuol.

C. A oes angen i mi dalu ffioedd i ddod i ymweld â Phrifysgol Abertawe?

A. Mae ceisiadau i ymweld â ni am hyd at 6 mis yn rhad ac am ddim. Mae’n bosib y codir tâl rhwng 50% a 70% o gost y ffioedd dysgu am y PhD perthnasol, pro-rata i ymweld â’r Brifysgol am dros 6 mis. Mae’r union swm (am ymweliadau rhwng 6 a 12 mis) yn cael ei nodi yn y llythyr cynnig

C. Ydy’n bosib hepgor costau sydd wedi eu dynodi yn y llythyr cynnig? (Ymweliadau 6-12 mis)

A. Er mwyn sicrhau chwarae teg i bob myfyriwr sydd am ymweld â’r Brifysgol, rydym yn codi tâl lle bo hynny’n bosib ym mhob achos ac felly nid yw’n bosib hepgor costau.

C. Beth yw gofynion iaith Saesneg y Brifysgol?

A. Am fwy o wybodaeth am ein gofynion iaith Saesneg, cliciwch yma. Mae ein gofynion iaith Saesneg yn dibynnu ar y maes ymchwil, ac yn cael eu dynodi’n glir yn y llythyron cynnig. Mae myfyrwyr gyda chynnig amodol yn gallu sefyll arholiad Saesneg SWELT y Brifysgol yn rhad ac am ddim (am y tro cyntaf). 

C. Rwyf yn fyfyriwr rhyngwladol/tramor, a oes angen i mi gyflwyno cais am Fisa?

A. Am fwy o fanylion ynglŷn â dod i’r DU i astudio, cliciwch yma.

C. Ar ôl cofrestru, ydw i’n gallu ymestyn yr ymweliad hyd at 6 mis, i dros 6 mis?

A. Ar ôl cofrestru, yn anffodus nid yw’n bosib ymestyn eich ymweliad hyd at 6 mis, i dros 6 mis.

C. Pryd dylwn i gyflwyno cais am fy ymweliad?

A. Rydym yn derbyn ceisiadau unrhyw bryd, fodd bynnag, i ganiatáu cwblhau ein proses ymgeisio/dewis ac ar gyfer amodau cynigion, ceisiadau posib am fisa a chwblhau cymeradwyo ATAS, rydym yn argymell eich bod yn cyflwyno cais dim hwyrach na thri mis cyn dyddiad arfaethedig dechrau’r ymweliad.