Mae graddau ymchwil yn rhaglenni ôl-raddedig academaidd dwys, ac mae angen i chi gynnal astudiaeth fanwl o’ch pwnc dewisol am gyfnod estynedig o amser ar eu cyfer. Yn wahanol i raglenni israddedig neu raglenni ôl-raddedig a addysgir nid oes gofyn i chi fynd i ddarlithoedd neu seminarau ffurfiol ar gyfer y rhan fwyaf o’n graddau ymchwil.Meddyliwch am eich gradd fel prosiect ymchwil manwl ac estynedig.

Erbyn diwedd eich gradd, bydd gennych sgiliau lefel uchel wrth ymchwilio a byddwch wedi cynhyrchu corff o waith gwreiddiol a fydd yn cyfrannu at lenyddiaeth ehangach am eich maes pwnc.